Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arhosodd

arhosodd

Ond nid arhosodd yn hir.

Arhosodd Rageur a Royal yn weddol agos at Louis wrth iddyn nhw fynd am dro.

Aeth i lawr y llwybr troellog at lan yr afon a thoc, arhosodd wrth hen foncyff derw gorweddog gan ddringo'n araf a gofalus i'w ben.

Am ryw reswm arhosodd hi ar ynys Guernsey.

Camodd Ffredi ar y gangen drwchus oedd yn cynnal y castell, ac arhosodd i Gethin ddod i lawr.

Ond arhosodd Parry-Williams yn ddyn cyfoes, ac yn wir, o holl feirdd ei gyfnod, ef yw'r un a deimlodd yr atyniad lleiaf tuag at y gorffennol, hyd y gellir gweld o'i waith llenyddol a barddonol.

Dim ond am bedair blynedd yr arhosodd yntau hefyd cyn mynd yn ôl i Arfon.

Arhosodd yn daclus ger drws yr ysgol ac ohono daeth boneddiges yn ffwr o'i phen i'w thraed.

Arhosodd ddwy noson gyda ni, a Mam oherwydd enwogrwydd yr ymwelydd efallai (ac fe'i gwnaed yn farchog yn ddiweddarach) yn fwy gofalus nag arfer, os oedd hynny'n bosibl, fod pob peth yn iawn: y prydau wrth ei fodd, y gwely'n gyfforddus, yr ystafell a'r llieiniau a'r hyn ac arall yn lân fel newydd.

Arhosodd Tudur, ac un droed ar y llawr.

Fe arhosodd y gwas suful Huw Onllwyn Jones i gymryd cyfrifoldeb am y sector preifat; fe ddaeth Rhys Dafis o Tai Cymru i ofalu am y sector cyhoeddus a Meirion Prys Jones o Orllewin Morgannwg i daclo addysg.

Bu'n gryf a heini nes cyrraedd ei bedwar ugain, ac er gwanio o'r corff, arhosodd yn feddyliwr hyd y diwedd.

Ddydd Gŵyl San Steffan, bythefnos yn ôl pan oedd y byddigions yna yn cerdded yn drahaus dros dir y fferm, roedd yna un a arhosodd yng nghysgod y coed.

Y mae gweddill sylweddol iawn yng Nghymru na phlygodd i dduwiau poblogaidd ein cenhedlaeth ac a arhosodd yn ffyddlon i wirionedd yr Efengyl.

Rhannodd yr eiddo, gymaint ag ydoedd, cyn dyfod y dyddiau blin, ond arhosodd Phil yn annibynnol i'r diwedd, ac yn fodlon ar y defnydd a oedd ynddo ef ei hun.

Arhosodd Edward adref o'i waith drannoeth.

Arhosodd.

Arhosodd Llanaelhaearn yn ardal amaethyddol wasgarog hyd at ddiwedd y ganrif ddiwethaf pryd y trawsffurfiwyd y cylch yn llwyr gan ddyfodiad y chwareli ithfaen ar hyd yr arfordir.

Arhosodd y car yn ymyl y ddau ac agorodd Gareth y drws.y tro cyntaf.

Arhosodd Dilys yr ochr draw i'r bont a gweiddi, 'Rydw i'n mynd - wela i di heno.' Gwelodd Merêd fod rhaid ufuddhau ond gwnaeth hynny'n anfoddog iawn.

Yn fflat Fred yn Stryd Alma yr arhosodd Mary y noson honno.

Arhosodd Mathew yn ymyl y gwely am ryw hyd gan obeithio y byddai'r hen ŵr yn deffro unwaith eto iddo allu ei holi ynglŷn â'r bachgen.

Arhosodd Mary yn fflat Fred y noson honno wedyn, a bu'n cysylltu ag un o'i chwiorydd yn gofyn i honno chwilio am dŷ iddynt a holi am waith i Fred naill ai yn Birmingham neu yn Daventry.

Felly arhosodd hi dan dair munud o'r diwedd ac yr oedd ewinedd cefnogwyr croch Caerdydd lawr i'r byw.

Ac felly'r arhosodd pethau nes cafodd y Cyrnol wely haearn tipyn gwell gan y Nipon.

Stori briodasol fach dda yr ydw i yn ei hoffi yw honno am gyfaill yn gofyn i henwr dros ei bedwar ugain oed pam yr arhosodd cyhyd cyn priodi.

Diflannodd Aled i rywle, ond arhosodd Snowt yn y cyntedd, gan adael y drws yn gil-agored o'i ol.

Arhosodd am eiliad i'r pysgodyn gael cyfle i lyncu'r abwyd, yna dechreuodd droi ei sbinar.

Bu'r wlad honno'n eithriadol deyrngar i Eglwys Rufain yn y bymthegfed ganrif ac arhosodd felly trwy gydol Oes y Diwygiad.

Ar ôl marwolaeth Glan arhosodd Cassie a Teg yng Nghwmderi i helpu Mrs Mac i redeg y Deri Arms a phan benderfynodd Mrs Mac adael am Tenerife yn 1997, prynodd Teg a Cassie'r Deri.

Fe arhosodd rhai o'r geiriau ar eu meddyliau drwy'r nos hyd y bore.

Mae digon o fwyd yno i sicrhau Nadolig Llawen i bawb o drigolion y dref yma." Arhosodd am ychydig i'r ddau arall gael cyfle i astudio'r map yn fwy manwl.

A'r miliwnydd a eisteddodd yn sydyn ar y ris uchaf, ond nid arhosodd efe yno; gan mai ei fwriad cyntaf oedd disgyn o'r llawr lle'r oedd ei swyddfa, efe a ddisgynnodd yn wir, ond nid yn y dull a'r modd a oedd yn ei fwriad cyntaf Canys efe a ddisgynnodd ynghynt, ac a darawodd bob un gris fel petai ddrwm.

Arhosodd un Almaenwr wrth y twmpath gwellt lle cuddiai'r peilot.

Ond cafodd hyd i ramadeg Saesneg cyn gorffen trechu cyfrinion y gynghanedd, a math o ddisgybl yspâs arhosodd byth.

Arhosodd felly am amser maith.

Roedd Aled heb orffen y darlun, ac mi arhosodd - o'i wirfodd - i'w orffen o.

Yfory bydd pawb yn y dref yn cael hanner kilo o fara yn ychwanegol fel anrheg." Arhosodd am eiliad gan ddisgwyl bonllef o'r dorf ond doedd dim ond tawelwch yn ei wynebu.

Arhosodd am funud dda cyn cerdded at ddrws yr ystafell ganol.

Fe arhosodd yn yr awyr fel hyn am funud neu fwy, ac yntau a'i dad yn syllu arno a'u cegau'n agored.

Arhosodd y trên o'r neilltu am beth amser a dyma anferth o drên y Groes Goch yn mynd heibio'n araf.

Arhosodd y mab hynaf yn Llanelli, yn aelod o staff swyddfa Gwaith Alcan Morwoods.

Arhosodd nes bod y drydedd garol ar ben ac yna cododd ddyrnaid o'r eira mân a'i wasgu'n bêl.

Ond arhosodd gwaith gorau Henry Rowlands mewn llawysgrif hyd y ganrif ddiwethaf.

Pan adawodd Kath gartre yn 1994 oherwydd ymddygiad Mark arhosodd Stacey ar ôl a symudodd i fyw i Lys Helyg at Doreen.

Ar ôl i Kath a'r teulu symud i fyw i'r Deri arhosodd Beti yn y ty cyngor.

Bu rhaid mynd â hi i ysbytai mawr Lerpwl lle yr arhosodd am dri mis, a minnau mewn tŷ preifat heb fod ymhell.

OW Owen, MA Mab fferm yn ardal Cricieth oedd ef ac fe arhosodd gyda ni am oddeutu pedair blynedd.

"Fe arhosodd ar ol y pnawn 'ma i orffen y darlun." Agorodd y drws a arweiniai i'r cyntedd, a galw drwyddo.