'Balchder aristocrataidd' awdur Gwaed yr Uchelwyr yw gwir wrthrych sylw Gruffydd, ni waeth pa mor amhersonol y cais fod.
Ond bu rhai eraill o'i gyfoeswyr yn dangos diddordeb dwfn yn y gorffennol - boed hwn yn orffennol chwedlonol a rhamantaidd fel yr un yr ymhyfrydai T Gwynn Jones ynddo, neu yn orffennol hanesyddol, gwareiddiedig ac aristocrataidd fel eiddo Saunders Lewis, neu yn orffennol Cristnogol fel yr un a ymddengys yng ngwaith Gwenallt.
Ym marn yr adolygydd, gwendid dramatig oedd diriaethu syniadau o'r fath ar lwyfan yng Nghymru: 'Y mae eisiau llawer mwy o berswad nag a geir yma ar unrhyw gynulleidfa o wrandawyr fod rhinwedd yn y balchder aristocrataidd.' Proffwydodd, er hynny, fod y ddrama yn dynodi 'cam yn nhyfiant meddwl anghyffredin iawn, fel y caiff Cymru weled eto.' Yr oed y pegynnu rhwng Gruffydd a Lewis yn amlwg.