Adnabyddiaeth lwyr o ddramâu Groeg yn unig oedd gan Aristotlys pan ymdriniodd â nodweddion drama drasig Efo 'ychydig o Ladin a llai o Roeg' treisiodd Shakespeare hwy i gyd bron.
A meddai Dryden, 'Petai wedi byw [Aristotlys] i weld ein dramâu ni buasai wedi newid ei feddwl.' Fel yr awgrymir yn y dyfyniad, adnabyddiaeth mor eang ag sy'n bosibl o amrywiol ffurfiau o amrywiol gyfnodau gan amrywiol lenorion o amrywiol ieithoedd sy'n gwneud barn sy'n werth dibynnu arni.
Cyfeiriwyd eisoes at Aristotlys.