Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arlliw

arlliw

Welach chi ddim arlliw ar Arfon oddi yno heddiw, heb son am dremio arni hi!

Baco gydag arlliw brandi ceirios arno neu Curly Cob, yn gymysgedd o faco pur, gyda baco sawr licris?

Mae rhyw arlliw cenedlaetholaidd ar y ddogfen hon hefyd ac yn wir y mae Philip Cooke, a fu'n gyfrifol am beth wmbredd o argymhellion mwyaf ymarferol yr adroddiad, yn gyn-is-gadeirydd y Blaid.

Mae rhai yn llwyddo, ond caiff eraill eu dal am fod arlliw o'r staen i'w weld o dan ewinedd eu bysedd.

Ar ôl bwyta dyma ddychwelyd at y car i ail-gydio yn y siwrnai adref, ond pan ddaethant at y lle y gadawsant y car, nid oedd yno, ac ar ôl chwilio yn ddyfal trwy'r maes parcio a thrwy'r dref, nid oedd lliw nag arlliw o'r car yn unman.

Meddai, 'Nid oes arlliw deilen yn blaguro yn unman o'r herwydd'.

Beirniadu'n llym heb arlliw cydymdeimlad yw ei swydd, tra geill trasiedi neu 'gomedi', fel y'i diffinnir gan Dante neu Balzac, gynnwys bywyd yn ei amrywiaeth dihysbydd, ei feirniadu yr un mor llym ac eto anwesu dyn yn ei drueni.

Wedyn, heb arlliw o addfwynder, byddai'n dweud reit siarp, 'A dim gair wrth eich Mam'.

'Roedd yr arlliw o dynerwch wedi diflannu a rhyw galedwch rhyfedd yn ei lygaid.

Yn naturiol chefais i rioed ddim arlliw o gefnogaeth gan Mam wedi iddi ddeall o ddifri fy mod am fynd i'r mor ac ar ol gadael yr ysgol yn bymtheg oed euthum i weithio yn y Post yn cario teligramau a negeseuon, ond fy nod o hyd oedd cael lle ar long.

Ar rai adegau o'r flwyddyn, ni welid un arlliw o Doctor Jones yn y broydd.

Roedd popeth wedi'i arwisgo ag arlliw o lwyd gan y lleuad lastwraidd.

heb fod arlliw o awgrym rhywiol yn y gair 'cariad'.

Ac nd oedd arlliw o'r ofn sy'n perthyn i'r bwli ar ei gyfyl.

Cymerid yn ganiataol fod cyfnod Cristionogaeth ar ben, ac ategwyd y farn honno gan un o'r caplaniaid a adnabu pan ddywedodd fod wyth deg a phump y cant o'r bechgyn dan ei ofal heb un arlliw o gysylltiad â chrefydd.

Tynnodd David lun Eluned a minnau yn dal y troffi yn y man a'r lle â'i fflach-gamera, er na luyddodd ond i dynnu arlliw o ddwy ddrychiolaeth annelwig, heb sôn am hynodbeth y ddwy gaib.

Nid ple yw hyn dros fynd yn ol i'r hen amser yn gymaint a rhyfeddu mor rymus o nobl y cerddodd y canrifoedd rhagddynt, a hynny heb un arlliw o dechnoleg ein blynyddoedd esmwyth ni.

Cafodd ateb Cymraeg ond ag arlliw Milbancaidd iddo.

Ond ar y llaw arall gallai fod yn llaith ac yn ddrafftiog yn y gaeaf A dyna ichwi dystiolaeth fod gennyf ffydd nid ychydig yn y Wladwriaeth Les a'i darpariaeth dai, a minnau mor beryglus o agos i'm hoedran ymddeol, heb arlliw o fwthyn uncorn o dŷ haf na dim arall i droi iddo pan fydd raid troi o'r annedd steil ar ben stôl y gwelodd yr Eglwys yng Nghymru neu ddamwain hanes imi drigo ynddi nawr'.