O dan yr amgylchiadau, yr unig beth caredig i'w wneud fyddai bod wedi ei gadael hi ar ei phen ei hun i lyfu ei chlwyfau ac nid ceisio esmwythau cydwybod, a dangos i'r byd ein bod ni'n bobl 'neis' yn y bon drwy arllwys ein cydymdeimlad nawddoglyd ar ei phen." "Doedd dim rhaid iddi dderbyn ein croeso..." "Ond roedd y ferch yn dal i'n caru, er ei gwaethaf hi ei hun, ac yn cael ei thynnu fel gwyfyn at fflam noeth.
Fel gwraig i fanijer pen-pwll Tyn-y-bedw roedd ganddi'r statws angenrheidiol i gael y fraint o arllwys te wrth un o'r byrddau adeg unrhyw barti a gynhelid yn y festri, swydd o urddas i'r dewisol o blith y chwiorydd.
Fe roisai Sylvia agoriad iddi i arllwys ei gofidiau.
Cyhoeddodd dri llyfr - y Llythur ir Cymru Cariadus, Gwaedd ynghymru yn wyneb pob cydwybod a Llyfr y Tri Aderyn (a defnyddio ei deitl poblogaidd), - a thrwyddynt arllwys ar wlad fach, na chawsai syniad gwreiddiol er pan genhedlodd John Penry, genlli o feddyliau dierth, a'r rhai hynny wedi eu cyflwyno mewn dull ac ieithwedd a oedd yn syfrdanol o newydd.
Agorodd y bocs bron yn ddefodol, ac arllwys y ddau ddarn arian i mewn i'w dwrn chwith.
Duw'n unig a wyr beth oedd ymateb y saint yn nwfn eu calonnau wrth i'r straeon a'r dywediadau carlamus arllwys yn un llifeiriant o'i enau.
Edrychais ar y gorwel a gweld cymylau du enfawr yn prysur ddod tuag atom ac, o fewn munudau, roedden nhw'n arllwys glaw trofannol ar ein pennau.
Roedd y driniaeth yn cynnwys arllwys yr eli ar ran go deimladwy o'r corff, a losgai am oriau wedyn!
Mewn partneriaeth â Stena Sealink ym mhorthladd Caergybi, bydd yr Awdurdod yn ymgyrchu dros reoli arllwys sbwriel gan longau fferi yn y môr, ac yn dilyn y côd ymarfer da ar gyfer olew a arllwysir yn y môr.
Ond gwir arwyddocâd y penderfyniad hwnnw oedd ei fod yn dangos fel yr oedd y rhan fwyaf o aelodau'r Blaid yn ymwybod â'r traddodiad radicalaidd, er bod rhai o'r aelodau blaenllaw, wrth arllwys dwr brwnt eu hen ffydd ym mhleidiau Llundain, wedi arllwys y babi radicalaidd hefyd.