Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arloesi

arloesi

Breuddwydient hwy am ddymchwelyd y drefn esgobyddol a gosod trefn "bresbyteraidd" yn ei lle gan fwrw ati lle'r oedd cyfle i arloesi gyda chynlluniau arbrofol yma ac acw yn y plwyfi.

Ychwanegir at apel y Gynhadledd eleni gan y cynigir cyfle i drafod swyddogaeth Canolfannau Arloesi mewn Busnes i lewyrch economiau rhanbarthol.

Mae Arthur, nid yn unig yn hybu'r gwaith er mwyn y deillion, ond hefyd yn arloesi i helpu'r anabl o gorff mewn cyfeiriadau eraill, a chodi calon sawl un isel ysbryd.

Ceid cyfnodau, fel yn Oes Victoria, pan oedd y ffydd yng ngallu'r gwyddonydd ac yng ngallu'r dechnoleg a ddibynnai ar ei waith i ddatrys problemau cymdeithas ac arloesi byd newydd paradwysaidd, yn uchel ei phen.