Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arloeswr

arloeswr

Aelod o'r teulu oedd y Parchg Thomas Ellis, Tyddyn Eli, hen, hen daid David Ellis, a phrif arloeswr Annibyniaeth yr ardal.

A chydnabuwyd cyfraniad Edwin fel arloeswr y syniad trwy roi enw ei gartref ef, sef "Hafan", arni.

ato ef daeth y gŵr ifanc marconi i geisio cymorth i brofi ei ddyfais newydd i drosglwyddo negesau heb wifrau ; bu'n brif beiriannydd y swyddfa bost, ac yn ddiweddarach yn arloeswr gyda'r sistem gyhoeddus o gyflenwi trydan.

Yr un parodrwydd i rodio llwybrau newydd a'i gwnaeth yn arloeswr dihafal ym maes dieithr darlledu yn nes ymlaen ar ei yrfa.

Os yw hynny'n wir, nid yw diolch yr Esgob Morgan, na diolch Cymru, ronyn llai iddo, oblegid ef oedd arloeswr y gwaith a da gan un o bennaf ysgolheigion ein hoes ni ei alw yn "Gymro mwyaf ei oes." Un arall o gynorthwywyr yr Esgob Morgan oedd Edmwnd Prys.

ARLOESWR YM MYD DIWYDIANT Erbyn hyn aeth yn agos i ddau gan mlynedd heibio oddiar i ŵr bonheddig o'r enw George Bowser ddod i lawr o Lundain i ardal Penbre, yn yr hen Sir Gâr, gyda'r bwriad o gychwyn y diwydiant glo yno.

Canolbwyntia ein meddyliau ar ein Harglwydd Iesu Grist, ein Bugail Da, arloeswr a pherffeithydd ein ffydd, canys yn ei haeddiannau Ef y deisyfwn hyn i gyd.

Y thema yw'r modd y creodd yr Ysbryd Dwyfol fywyd a bydysawd, hynny yw, Duw fel arloeswr, a'r Ysbryd wedyn yn creu Crist.

Er ei fod yn arloeswr ym meysydd gwleidyddiaeth a newyddiaduriaeth yr oedd elfen o geidwadaeth yn hanfodol i'w feddwl.