Rhoddwyd tir iddo yn New Orleans, a chafodd swydd gyfrifol a lle i fyw ym mhlasdy Don Manuel Gayoso de Lemos, Arlywydd Sbaenaidd diwethaf Louisiana.
NATO yn cynnal ymgyrch yn erbyn Slobodan Milosevic, Arlywydd Serbia, i amddiffyn Albaniaid Kosovo rhag ei bolisi o lanhad ethnig.
Roedd gan yr arlywydd fwy ar ei blât na cheisio achub ei wlad; roedd ei briodas, hefyd, mewn trafferth.
Wrth wthio'n ffordd drwy'r swyddogion ac eistedd i lawr yn y neuadd o flaen Heng Samrin, fe ddaeth hi'n amlwg nad oedden ni'n twyllo neb, achos dirprwyaeth o Sri Lanka oedd y bobl o flaen ac wrth ochr yr Arlywydd.
'Esgusodwch fi, Mister Arlywydd,' meddai un arall o'r cynorthwywyr dan ei anadl, 'ond Mrs Thatcher yw'r ddynes hon, ac nid Mrs Gandhi.' Fe wn i hynny'n iawn,' meddai Brezhnev yn ddiamynedd, 'ond Croeso i'r Undeb Sofietaidd, Mrs Gandhi yw'r geiriau sy wedi eu sgrifennu ar y darn papur yma o'm blaen i.' Mae'r stori yn ddameg berffaith o'r hyn y mae'r bobl yn ei farnu a aeth o'i le yn hanes yr Undeb Sofietaidd.
Ar ddydd Sul roedd dirprwyaeth yn cyfarfod ag arlywydd y wlad, Heng Samrin - cyfle i gael lluniau prin o'r Arlywydd.
Gallai neidio o'i gar yn Washington gan ysgwyd dwylo a chusanu babis gystal ag unrhyw arlywydd Americanaidd.
Er ei fod wedi gwireddu ei freuddwyd o fod yn arlywydd, roedd yn ymwybodol o fygythiadau o sawl cyfeiriad.
Trwy fod yn llawfeddyg yr ymennydd, er enghraifft, neu'n Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Ddeufis ynghynt roedd yr Arlywydd Abraham Lincoln, wedi cael ei saethu'n farw tra'n gwylio drama mewn theatr ac, ychydig ddyddiau ar ôl hynny, fe ddaeth diwedd ar y Rhyfel Cartref a oedd wedi rhwygo'r wlad am bedair blynedd, gan arwain at farwolaeth tua hanner miliwn o bobl.
Ethol Jimmy Carter yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Nid yw ef ac Arlywydd Ffrainc, Jaques Chirac, ceidwadwr traddodiadol, yn cyd-weld.
Ond datgymalwyd yr hen ymerodraeth ac etholwyd Masaryk yn Arlywydd gwladwriaeth newydd
Ond roedd y dyfarniad ddydd Iau i ganiatau i'r ail-gyfrif barhau yn cael ei ystyried fel buddugoliaeth i'r Dirprwy Arlywydd Al Gore.
Fel arweinydd y Cuban American Foundation, MasCanosa yw'r dylanwad pwysicaf ar bolisi yr Unol Daleithiau tuag at Cuba, ac un o'i gydweithwyr agosaf yw mab yr Arlywydd George Bush.
Wedi'r cwbl, roedd y deugeinfed arlywydd yn feistr ar ddarllen yr `autocue' - y peiriant hwnnw sydd wedi disodli'r cof ym myd y teledu.
Er taw fel Mwslim y cafodd Menem ei fagu, bu'n rhaid iddo dderbyn y ffydd babyddol fel un o'r amodau o fod yn arlywydd.
Richard Nixon yn cael ei orfodi i ymddiswyddo wedi achos Watergate, Gerald Ford yn ei olynu yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Ddydd Iau dywedodd yr Arlywydd Clinton bod pobol America'n haeddu canlyniad teg a thrylwyr yn yr etholiad Arlywyddol.
Mae'r Arlywydd Clinton wedi cyfarfod Yasser Arafat ac Ehud Barak, Prif Weinidog Israel dros y dyddiau diwethaf i geisio dod âr trais i ben.
Roedd Mr Reagan am ddangos i'w gyd-wladwyr y gallai fargeinio â'r arweinydd Sofietaidd er mai ef oedd arlywydd y wlad y cyfeiriodd ati'n sarhaus fel y deyrnas ddieflig.
Wrth inni bori dros gynnwys hwnnw, byddai'r Arlywydd Reagan a'i osgordd eisoes yn ei gwadnu hi am y maes awyr.
Yn y cyfamser, dywedodd Prif Weinidog Israel Ehud Barak nad oedd cyfarfod Arlywydd Clinton yn debyg o arwain at fwy o drafodaethau âr Palestiniaid.
Yr achlysur fyddai dathlu ei flwyddyn gyntaf fel arlywydd, a doedd dim amser i asesu'n iawn a oedd Menem yn wirioneddol werth ei bortreadu.
Er enghraifft, yn yr Unol Daleithiau gall gymryd misoedd i'r Arlywydd berswadio'r Gyngres i dderbyn ei gynigion ynglŷn â'r Gyllideb.
Ethol Hindenberg yn Arlywydd Yr Almaen.
Er mwyn dathlu'r cof, roedd yr Arlywydd Vytautas Lansbergis, cerddor a droes yn wleidydd, wedi trefnu cyngerdd swyddogol yn yr Opera, y palas celfyddydol moethus a godwyd, medden nhw, am fod Brezhnev unwaith wedi'i addo yn ei feddwdod.
Yn ôl yr Arlywydd Robert Mugabe, Prydain ddylai dalu iawndal iddyn nhw.
Penodi Lyndon B. Johnson yn Arlywydd yn ei le.
"Taflwyd hotel wag at yr Arlywydd Nixon," meddai darllenydd un tro, gan hau'r amheuaeth yn syth ei fod yn taro'r botel ei hun !
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Wedi i'r Arlywydd Nasser wladoli camlas Suez, Prydain a Ffrainc yn bomio ac yn meddiannu'r ardal.
Am ryw reswm, roeddwn i wedi disgwyl gwahanol, wedi meddwl y byddai'r Arlywydd ymhlith ei bobl wrth ymyl y baricêds.
Ethol Ronald Reagan yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Kennedy yn mynd i Berlin ac yn llefaru'r geiriau: 'Ich bin ein Berliner'. Yr Arlywydd Kennedy yn cael ei saethu.
Ni ellir bod yn sicr bellach, wrth gwrs, bod newid mewn mwd, a achoswyd gan cortison, wedi amharu ar benderfyniadau Kennedy pan oedd yn Arlywydd.
Yr Arlywydd Clinton yn dod â Yitzhak Rabin, Prif Wweindog Israel, a Yassir Arafat, arweinydd y PLO, ynghyd.
Ar y llaw arall gallai'r Arlywydd ymfalchi%o yn ymdrechion ei fyddin o fiwrocratiaid yn ôl yn y neuadd gynadledda.
Gwelodd merch yr Arlywydd, Caroline, yn dda roi llun Charlie ar ddalen flaen cylchgrawn merched.
Roedd y dyfarniad ddydd Iau i ganiatau i'r ail-gyfrif barhau yn cael ei ystyried fel buddugoliaeth i'r Dirprwy Arlywydd Al Gore.
Mae arlywydd a llywodraeth gyda ni o hyd.
Fe fu cryn ddyfalu ynghylch tueddiadau rhywiol yr Arlywydd ac, unwaith, fe wahoddodd bump o newyddiadurwragedd o gylchgronau yn yr Unol Daleithiau i dreulio peth amser gydag ef, ei wraig Soffia, a'u saith plentyn er mwyn gweld pa mor normal oedd bywyd y teulu.
Dadl y Democratiaid yw y gallai cynnwys y rhain fod yn ddigon iddyn nhw ennill Florida ac i Al Gore fod yn arlywydd.
Wedi i'r Arlywydd Nasser wladoli camlas Suez, Prydain a Ffrainc yn bomio ac yn meddiannu'r ardal.
Cafodd y milwr ei ladd a dau arall eu hanafu ger tref Iddewig yn Llain Gaza yn ystod ymosodiad ar doriad gwawr gan un o grwpiau Fatah sydd â chysylltiad ag Arlywydd y Palesteiniaid Yasser Arafat.
Go brin fod y dorf enfawr fu'n cymeradwyo ei fuddugoliaeth fel arlywydd yn sylweddoli gwir ystyr yr araith fer o falconi'r Casa Rosada 'Rwy'n eich gwahodd i enedigaeth cyfnod newydd, cyfle newydd, a all fod yr un olaf a'r pwysicaf yn ein hanes,' meddai.
Ar fore Sul yn ddiweddar, cafodd cynulleidfa Penuel y fraint o wrando ar Dewi yn siarad am ei brofiadau yn ystod yr etholiad ac ymsefydliad Nelson Mandela fel Arlywydd.
Wrth i'r frwydr i gael gwared ar yr unben, yr Arlywydd Mohammed Siad Barre, ledaenu drwy'r wlad, roedd carfan wedi troi'n erbyn carfan a llwythau wedi troi ar eu cymdogion, gan ddifa ffermydd, tir ffrwythlon prin ac, yn waeth fyth, cymunedau cyfan.
Ethol George Bush yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Kennedy yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Yr Arlywydd Kennedy yn cael ei saethu.
Johnson yn Arlywydd yn ei le.
Y peth nesa', roeddwn gerbron yr Arlywydd ei hun.
Yn Asmara dywedodd Arlywydd Eritrea, Isaias Afwerki, fod ei fyddin wedi diodde colledion mawr.
Yn ystod yr areithiau swyddogol rwy'n siŵr fod pawb yn meddwl pwy yn y byd oedd y ferch groenwen hon oedd ar delerau mor dda â'r Arlywydd.
Deallais fod yn rhaid imi glosio at yr Arlywydd os oedden ni am gael llun ohono' i ac ef gyda'n gilydd.
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Ethol John F. Kennedy yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Y llun gyda'r mwyaf rhyfeddol a welais i mewn papur newydd yn ddiweddar ydoedd un o Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yn reslo braich gyda merch ifanc o'r enw Yulia Beganova yn ystod rhyw ymweliad gwleidyddol neui gilydd.
Mae pobol yn gwrthod dweud a yw'r Arlywydd Mandela yn Zurich neu beidio y funud hon.
Newydd syfrdanol, a nodaf yr union amser fel y gwnaeth llawer ohonom pan gyhoeddwyd llofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy.
Ethol Bill Clinton yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Pe bai diwedd y rhyfel wedi bod yn wahanol, gallai Masaryk fod wedi diweddu ei oes ar y crocbren a Casement, pe bai wedi dianc, yn arlywydd ar Iwerddon unedig rydd.
Monica Lewinsky yn datgelu iddi gael perthynas rywiol â Bill Clinton, Arlywydd yr Unol Daleithiau, ac yntau yn gwadu'r honiad.
Ymhlith ein cyd-letywyr roedd Sean Connery (a oedd heb glywed am Y Byd ar Bedwar!), a Phrif Weinidog China; ac, am resymau perthnasol iawn i'r stori, fel y cawn weld maes o law, yr oedd yr Arlywydd Carlos Menem ei hun yn treulio noson yn y gwesty.
Yn y chwe-degau, â'r Arlywydd Kennedy yn diodda anhwylder i'w gefn, trefnodd y meddyg iddo fynd i nofio'n gyson.
Ethol Richard Nixon yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
De Gaulle yn ymddiswyddo fel Arlywydd Ffrainc.
Er taw ychydig iawn a wyddwn i - a'r Gorllewin yn gyffredinol - am Arlywydd Ariannin, Carlos Menem, roedd hi'n hysbys i bawb fod ei wlad mewn trafferthion ofnadwy.