Ceisiai Project yr Armada, a drefnwyd gan Sydney Wignall, ddarganfod safle llongddrylliad Armada y gellid yn rhesymol dybio y byddai'n rhoi gwybodaeth inni am yr Armada na ellid ei chael o unrhyw ffynhonnell arall.
Pan ddarganfuwyd gweddillion y Santa Maria de la Rosa (is-longfaner sgwadron Guipuzcoan yr Armada) prin y gellid ei chanfod ar wely'r môr gan mor llwyr yr ymdoddai i'w hamgylchedd.