Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arnom

arnom

'Ylwch be gawson ni gan Bigw.' 'Brensiach annwyl,' fydda Mam yn ei ddweud ac yn cymryd y prês oddi arnom yn syth yn barod i'w roi yn ôl i Bigw tro nesaf.

Jones Roberts, yn athrawon arnom ar ein taith i fyny'r ysgol ac wrth eu traed hwy y dysgais am fywyd Crist, teithiau yr Apostol Paul a helyntion rhai o gewri'r Hen Destament.

Rhai fel chi sydd arnom ni 'i eisio i wynebu'r ugeinfed ganrif dros lesu Grist." Rhai fel fi!

Nid oedd trydan wedi ein cyrraedd a chlywem oddi ar y newyddion chwech o'r gloch ar y radio ei bod yn waeth mewn llawer man nag a oedd arnom ni.

Mae'n codi arswyd arnom eto gyda'r llun o ferch fach yn rhedeg yn noeth i lawr llwybr o'i phentref yn Fietnam a'i chroen yn friw gan y napalm yr oedd awyrennau bomio yr Unol Daleithiau wedi eu gollwng ar ei chartref.

Ac nid llai ysgytiol y stormydd enaid sy'n ymosod arnom pan ddaw'r gaeaf ysbrydol.

Trafodwch y ddyletswydd foesol sydd arnom i gadw harddwch naturiol y blaned a chynnal ei hadnoddau fel y gall cenedlaethau'r dyfodol eu mwynhau a chael budd ohonynt.

Wnaiff siarad ddim ei helpu hi nawr." "Ond fe allai siarad am y peth ein helpu ni." "I beth mae eisiau help arnom ni?

Dadl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw bod angen strategaeth gadarnhaol arnom i ddiogelu ysgolion gwledig.

Yn awr y prawf fe fydd yr etholwyr a bleidleisiodd drosom oblegid y ddadl honno yn cefnu arnom yn fradwrus fuan.

Mae arnom ofn cael ein hystyried yn ofergoelus neu'n hen ffasiwn.

Buom yn disgwyl am tua deng munud ond tra'n disgwyl daeth nifer o yrwyr tacsi atom i ofyn os oedd angen un arnom.

Byddem i gyd wedyn wedi cael ein rheoli gan estroniaid oerwaed iasol - a'r rheiny'n gosod arnom lywodraethwr chwyrn na faliai dreuliedig gondom amdanom.

Erbyn hynny nid angen athro oedd arnom ond "referee%, a gwnaeth Bob Edwards y gwaith hwnnw'n orchestol gan daflu ambell sylw neu gwestiwn bachog i ganol y stormydd geiriol.

Mae'r poen a welwn ym mywydau plant a gafodd eu camdrin yn effeithio mewn rhyw ffordd arnom i gyd.

Er hynny i gyd, 'rydw i'n fodlon cyfaddef y gall chwerthin fod yn llesol ac y byddai'n o druenus arnom hebddo.

Dynoda'r pastwn ein bod mewn lle peryglus ac fe wnâi'r chwisl ein hatgoffa y byddai arnom, o bryd i'w gilydd, angen help," meddai yn gynnar yn y gyfrol.

Os oedd hi'n ddydd gŵyl arnom a'r haul yn tywynnu ar bob anturiaeth, yn sydyn - chwim cyrhaeddai Talfan fel cwmwl yn taflu'i gysgod i oeri'n brwdfrydedd ac i dywyllu'n sbri.

'Fasach chi'n prynu bloda i mi?' 'Bloda?' 'Mi fydd angen bloda arnom ni.' Wrth gwrs bydd angen bloda arnom ni.

'Roedd angen cenedl newydd arnom ar ôl claddu'r hen genedl yng nghynhebrwng y cynllun o blaid Datganoli.

Credaf fod ei llygaid rhwng gwyrdd a brown, byddent yn tremio arnom yn ddwys.

Os na ddaethai cyhoeddiad, byddai pethau'n bur fain arnom yr wythnos honno.

Yn Arnom yr oedd honno ond fe gafodd llawer o hogia o Nom hefyd waith yno i helpu'r Romans, drwy i gynghorwyr Nom dorri eu rheolau eu hunain.

Nid oedd un dydd Sul yn cael mynd heibio heb bod dad yn galw arnom am ryw awr i ddarllen pennod a chanu emyn o gwmpas y bwrdd mawr a byddai ef yn cychwyn gyda'i lais clir, cryf.

Ni fynnaf drafod yma odid ddim ar yr Oesau Canol a pharhad y math (neu'r mathau) o genedlaetholdeb a geid yno, am y rheswm syml fy mod o'r farn inni gael yn rhan o'n cynhysgaeth o'r unfed ganrif ar bymtheg i lawr lun ar genedlaetholdeb diwylliadol 'newydd', cenedlaetholdeb ag iddo nodweddion anfediefal, cenedlaetholdeb yn y meddwl a'r dychymyg a oedd yn ymgais i wrthsefyll nerth y dylanwad allanol a oedd arnom.

Y mae cyfrifoldeb mawr arnom.

Rhedai ei llaw yn aml drwy gnwd o wallt coch a oedd bob amser ag angen ei gribo, ac edrychai arnom mewn distawrwydd cyn dechrau, y llygaid fel pinnau glas mewn papur gwyn.

Deallodd Jock a minnau yr arwydd bron yr un pryd, a brysio i ateb fel deuawd, "Dim cythral o berig." Yna troi ein cefnau, a chymryd arnom nad oeddem wedi ei gweld.

Mae'n ddyletswydd arnom ni i gyd roi perfformiad teilwng.

Dywedodd fod lladron yn hoffi'r cyfle hawdd a phwysodd arnom i wneud ein cymdogaeth yn lle mwy diogel i fyw.

Gan nad oedd ein gard ddim yno, annoethineb ar ein rhan fuasai rhedeg oddi yno; fe'n cyhuddid o geisio dianc, a phe gofynnid inni egluro pam yr oeddem yn rhedeg buasai'n ddiwedd y byd arnom: nid oedd gennym mo'r syniad lleiaf sut i gyfieithu, "Mae 'na butain yn yr iard," i Siapanaeg.

Yn raddol, drannoeth, gwawriodd arnom ein bod wedi ein dal yn llwyr gan y Bos, a'i fod ef wedi bod yn tynnu coes yn ddidrugaredd, ond gan fod y manylion tybiedig wedi'u plethu i mewn i r cefndir a'r lleoliad dilys yn gelfydd iawn, hyd yn oed tadogi'r stori ar Mr Merfyn Morgan, y Prif Uwch-Arolygydd â gofal am Adran "D" o Heddlu Dyfed-Powys, roeddem wedi credu'r stori'n llwyr.

Wrth ddarllen cyfrol ddiweddaraf Dr Gwynfor Evans, y mae dyn yn gofyn, nid am y tro cyntaf, beth sy'n bod arnom ni, genedl y Cymry?

A phan ddaw yn ddydd arbennig arnom fel teulu, fel diwrnod crempog heddiw, mae yno drachefn yn sefyll yn y bwlch.

A rhoi'r peth yn nhafodiaith ein hoes ni, y mae gofal am yr amgylchfyd yn gyfrifoldeb sylfaenol a osodwyd arnom gan y Creawdwr.

Ond ta waeth am hynny, roedd gwen ei chroeso i mi yn jam a fyddai'n werth ei fotlio.A Gres Owan, Tyddyn Waun fyddai'n arfer dweud, 'Nid yw ein gweithredoedd da yn ddim ond yr hyn y mae'n cydwybod yn ei orfodi arnom i guddio'n gweithredoedd drwg.

Cymryd arnom fod yn ddemocratiaid a wna'r rhan fwyaf ohonom gan ateb: na, nid oes gan unrhyw un hawl i gondemnio unigolyn arall!

Un hwyrnos, pan oedd Owen Owens yn dod i derfyn yr un stori, daeth fy mam a Miss Aster i mewn i'r gegin, a bu distawrwydd parchus tra gofynnodd fy mam i mi a awn i hebrwng Miss Aster adref, a dod 'nôl â rhyw waith gwnio roedd ei angen arnom drannoeth.

Gallwn weld ser eraill sy'n bell iawn i ffwrdd ac sy'n perfio arnom yn y nos.

A chan fy mod yn ysgrifennu'r geiriau hyn pan yw'r tanciau'n rhuthro ar draws Croatia a bomiau'n disgyn ar gartrefi, ysbytyau ac eglwysi yn y dalaith honno, ni allaf lai na theimlo pa mor argyfyngus yw'r galw arnom yn Ewrob i gefnu ar ryfel a thrais fel cyfryngau i ddatrys ein problemau.

Gallai ei threm fod yn llym hefyd; yr oedd arnom braidd ei hofn.

Yn anffodus nid oes gan BT ddewis yn hyn o beth gan fod rheidrwydd cyfreithiol arnom i warantu gwedduster cynnwys unrhyw negeseuon yr ydym yn eu cludo ar ein rhwydweithi.

Yr hyn sy angen arnom yw cwrs paratoedig!

Beth am gymryd arnom fod gennym lechan lân.

Mae'r Sumac gwenwynig - Toxicodendron vernix yn ffyrnig ei effaith arnom hefyd, yn waeth os rhywbeth.

Craffodd funud arnom yn griw o gwmpas y gwely.

Er gwaetha'r hanesion erchyll, aeth amser yn drech na ni, ac roedd hi braidd yn hwyr arnom yn rhoi'r gorau i ffilmio.

Yn awr, fel ag ar ôl yr Ail Ryfel Byd, mae arnom angen pobl sy'n fodlon gweithio a chreu cyfoeth i'r Almaen gyfan.

Y canlyniad yw nad ydynt yn dweud dim, ac mae hynny'n feirniadaeth lem arnom ni, y bobl normal.

Roeddem wedi gweithio ar ddulliau newydd o Chromatography ac roedd awydd arnom i roi cynnig ar y dulliau hyn i astudio mwynau (minerals) y wlad.

Yr oedd cysgod y rhyfel yn drwm arnom.

Daw rhyw hiraeth anesboniadwy drosof weithiau wrth geisio amgyffred treigl y canrifoedd: Fel ewyn ton a dyrr ar draethell unig, Fel can y gwynt lle nid oes glust a glyw, Mi wn eu bod yn galw'n ofer arnom - Hen bethau anghofiedig dynol ryw.

Pan oedd cysgod barn arnom, daeth y Gwaredwr a dioddef y gosb trosom ni.

Yr oedd gormod o gywilydd arnom ein dau i addef y gwirionedd.

Datblygodd y ddameg hon eto gan ragweld rhywrai yn ei feirniadu, a 'thaflu'r ffefryn i'r pydew am iddo fentro rhoi côt gostus yn ôl iddo, eithr, 'pwy a ŵyr, fe all y "Joseff" hwn rywbryd dalu'n ôl ar ei ganfed pan fo dlawd arnom'.

Pe baem yn caniata/ u iddi ddod i'r iard byddai bron yn amhosibl iddi fynd yn ôl, a phe gwelid hi yno efo Jock a minnau byddai ar ben arnom.

O gofio, ysywaeth, nad ar fara yn unig y bydd byw dyn, dyletswydd arnom oedd trefnu ar gyfer agwedd ysbrydol, cymdeithasol, ac adloniadol yr aelodau.

Dim gwneud rhyw lawer a dweud y gwir ond prynu pethau sydd eu hangen arnom.

Rydym ni erbyn hyn yn cael ein gwahodd i'r ystafelloedd am goffi, ond y duedd yw mynd i'r un ddwy ystafell bob tro, a dyna reswm arall pam bod angen ystafell arnom ni - fel y gallen nhw ddod atom ni am goffi, yn lle'n bod ni'n tarfu arnyn nhw drwy'r amser.

Maen ddigon drwg cael y gwleidyddion yn cnocioch drws; yn ymweld a ller ydych yn gweithio; yn brasgamu ar draws strydoedd i ysgwyd llaw a chi ac yn blagardio ar deledu a radio - heb gael Cherie a Ffion yn hewian arnom drwy ebost ar eich cyfrifiadur.

"Ac mae syched arnom ni achos dim ond un cwpan sydd yn y tŷ," meddai'r dynion bach od.

Clywais i fy hun, fwy nag unwaith, bobl yn cyfeirio ato fel 'y dewin Sam Jones.' Ys gwn i a oes arnom ni'r Cymry ryw angen seicolegol dwfn am fod o'r fath yn ein plith.

Mae arnom angen strategaeth gadarnhaol ar gyfer addysg yn yr ardaloedd gwledig ac mae'r model Seisnig yn gwbl annerbyniol.

Dechreuodd fel prentis crydd, ac y mae ef a Daniel Owen yn enghreifftiau da o'r dosbarth o grefftwyr yn y ganrif ddiwethaf sydd yn eu hymdrechion i ddod o hyd i lyfrau da, i'w darllen, ac i ymddiwyllio arnynt yn gyfryw ag y dylent godi cywilydd wyneb arnom ni yn y ganrif hon gyda'n haddysg rad, ein horiau gwaith cwtogedig a'n horiau hamdden helaeth.

Teg fyddai gweld llwyddiant y cyngerdd fel gorchest bersonol y brifathrawes, Mrs Malltwen Williams, a oedd yn arwain, yn ledio'r gan, ac yn cadw trefn ar y plant ac arnom ninnau'r gynulleidfa gydag afiaith di-ben-draw.

Maes o law byddai penderfyniadau tenantiaid y Tŷ Gwyn yn sicr o gael dylanwad o ryw fath arnom ni yng Nghymru fach.

'Llunnir rhannau sylfaenol o'n bywyd gan ddylanwad y cwmwl tystion, a aeth o'n blaen arnom,' medd Peate yn Rhwng Dau Fyd; tystia'r hunangofiant trwyddo, serch hynny, i ddylanwad mwy cyrhaeddbell ac arhosol dynion byw y daeth i'w hadnabod yn bersonol.

Seiliau cadarn i'n tai a seiliau cadarn i'n bywydau i'n cynnal pan fydd gofalon byd yn pentyrru arnom, a phoen a phrofedigaeth yn cipio'r llawr oddi tanon ni.

Flynyddoedd yn ôl, yma byddai poblogaeth yr ardal yn dod i ymochel rhag yr Arab slave traders a hefyd rhag byddin Buganda pan wnaent ymosod arnom." Wrth y myfyrwyr dywedodd: Rydych chwi, fel Buganda hefyd, y rhai cyntaf i ddod yma.

Yn ei araith groeso ar ôl cinio ganol dydd y diwrnod cyntaf, dywedodd y Maer na wyddai'n iawn beth oedd amcanion y mudiad yr oedd yn ei groesawu, ond ei fod yn credu y byddai'r mudiad yn gwneud gwasanaeth mawr i Gymru pe gallai beri i'r byd alw Brythons arnom yn lle Welsh: cawsai ef brofiad chwerw mewn busnes am fod yr un gair Saesneg yn enw ar y Cymry ac yn ferf a oedd yn golygu twyllo.

Teimlem fod dyletswydd arnom i geisio esbonio fod diffygion mawr yn y gymdeithas y perthynem ninnau iddi, yn ogystal.

Pan oeddem yn eistedd mewn tywyllwch, gorchmynnaist i oleuni lewyrchu arnom.

Does dim i'w wneud ond eu blasu; er y gellid, efallai, atgyfnerthu eu heffaith arnom trwy ddarllen gwaith meistr cyffelyb ar iaith a dychymyg, megis yr hen fardd hebreig hwnnw gynt a barodd i Dduw ateb Job o'r corwynt: 'Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a holl feibion Duw yn gorfoleddu?' Ar y llaw arall ni chawn anhawster i amgyffred arwyddocâd y gwrthgyferbyniad awgrymog rhwng 'ymryson' yn nechrau'r pennill a 'murmur' ar ei ddiwedd.

Cafwyd canmoliaeth uchel am y cyflwyniad o'r ddau lyfr sef Requiem (FaurŅ) a Gloria (Vivaldi) ynghyd â'r Côrâl Arnom gweina dwyfol un.

Nid anghyffredin oedd gweld ysgarmes rhwng y Koreaid a'r Siapaneaid, a hwythau wedyn yn dial arnom ni, drueiniaid diniwed !

Mae llawer o bobl Arnom a Nom yn dal i siarad hen hen iaith Urmyceg.

Beth bynnag fo'r problemau, y gwir amdani yw bod angen afonydd arnom.