Yr oedd y gramaffôn a gawsai fy nghyfaill Williams yn gyfnewid am gerbyd modur aneffeithiol, yn byrlymu allan nodau prudd-felys "Y Sospan Bach," ac yr oedd aroglau dymunol dros ben yn trwytho'r awyrgylch.
Pregeth yn hyrddio'r meddwyn i ganol tragwyddol dân a brwmstan oedd y gyntaf, a chan fod aroglau'r ddiod felltigedig, y taranai'r diwygiwr yn ei herbyn, yn halogi'r ystafell ac yn gryf ar bob awel chwyrnol o'r gadair gyferbyn ag ef, teimlai Dan yn anghysurus wrth ei darllen.
Ymhlith y planhigion prin sydd mewn perygl, rhestrir lili'r Wyddfa, a'r lafant mor unigryw, Dewi Sant.GARDD SGWARIAU NEU ARDD AROGLAU
Tybiwn fod yr aroglau stwffin yn neilltuol o galonogol.
Roedd o'n hymian yn hapus, a braidd yn feddw, wrth fynd i'r gwely'r noson honno, ac yn wir doedd dim cymaint o aroglau wynwyn ar ei wraig pan orweddodd yn ei hymyl.
Aroglau môr a gwymon yn gryf, a'r deiliaid oedd yno yn uchel eu cloch.
Dyma lle'r oedd yr aroglau ffri%o ond mi ddeallais nad bacwn ydoedd ond 'Spam' yn cael ei goginio gan ferched o'r 'Church Army'.
Sūn fflamau tân glo yn llempian ac yn chwythu, aroglau lamp baraffin newydd ei golau, grwndi'r gath ar y mat yn gefndir i ddigwyddiadau amrywiol Nedw ac Wmffra.
Codai aroglau awr y trai i'w ffroenau a chrychodd ei thrwyn, mewn diflastod.
Yn nyddiau bore'r byd pan oedd aroglau da ar wair yn cynaeafu, a thail yn gynnyrch porthiant o'r das, yr oedd ambell i ddiwrnod yn rhoi lle o anrhydedd i'r ferfa yng nghynllun gweinyddol economi ffarmio tyddynnod Eryri.
Tra oedd Martha Jones, sef y forwyn fach, yn gwneuthur munudiau trwy gil drws y parlwr, o'r lle y tarddai miwsig â mwg tybaco, anadlwn innau'n helaeth o'r aroglau cinio a ddeilliai'n chwaon hyfryd o'r gegin gefn.
Roedd yr awyr yn fyglyd, yn wlyb a llaith ac yn llwythog gan aroglau gorfelys tegeiriannau trofannol yn eu blodau.
Ac mae'n rhywbeth sy'n rhoi arogl unigryw i'r siop achos beth bynnag ddyweda nhw am faco mae ei arogl o YN hyfryd ac y mae yma gymanfa o aroglau yn ein tywys yn ôl i rhyw gyfnod pell yn ôl.
Roedd aroglau benywaidd yn y compartment pan euthum i mewn; roedd dwy ferch y môr wedi bod yn ymbincio a ffresio eu hunain gydag 'Ashes of Roses' neu ddŵr lafant - dyna, rwy'n meddwl, oedd y persawr oedd yn y ffasiwn yr adeg yma.
Ni allai holl bersawrau'r Dwyrain a holl gyffuriau a balmau melys y goedwig ladd yr aroglau a ddringai o bryd i'w gilydd dros ei min pan gusanent.