Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arogleuon

arogleuon

Roedd adeiladau hen, prydferth, y dref yn adlewyrchu haul y bore ac roedd arogleuon deniadol coffi ffres yn yr aer.

Gallaf ddychmygu clywed hen arogleuon amaethyddol wrth bori drwy'r gyfrol hon.

Daw'r nerfau o'r trwyn i fyny drwy'r tyllau bach hyn fel pan fyddwn yn anadlu fe'n galluogir i sawru a gwahaniaethu rhwng gwahanol arogleuon.

Treiddiai arogleuon carthion i lenwi'r neuadd.

Ymdroellai cylchoedd o arogleuon amhleserus o'i gylch.

Yng nghanol yr holl symud a'r bwrlwm a'r gwahanol arogleuon a oedd yn codi o'r lle, tybiais fod fy ffroenau yn chwarae tric â mi.