Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arolwg

arolwg

Cynhaliwyd yr arolwg, a ariannwyd gan y Bwrdd ar y cyd ag S4C, gan NOP Consumer Market Research, gyda chymorth y Swyddfa Hysbysrwydd Ganolog.

Gan fod llawer o'r offer a ddefnyddir i wneud arolwg tanfor ar hyn o bryd yn ddigon anfoddhaol, gellir dweud fod archaeoleg tanddwr mewn stad o 'anwybodaeth soffistigedig' - soffistigedig gan fod llawer o'r archaeolegwyr modern yn bustachu gyda phroblemau ei lleihau.

O chwe miliwn o blant yn yr arolwg 'roedd angen triniaeth ddeintyddol ar eu hanner.

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd fod y wasg wedi dangos cryn ddiddordeb yn adroddiad NURAS ar yr Arolwg Cyflwr Tai yn y Dosbarth a gyflwynwyd i gyfarfod arbennig o'r Pwyllgor ac ymatebwyd i nifer o holiadau ganddynt.

Byddai canlyniadau'r arolwg yn werthfawr er cryfhau polisi%au tai y cynllun lleol newydd a gosod sylfaen ar gyfer strategaeth tai y Cyngor drwy ddatgelu gwybodaeth ynglŷn â'r cymunedau hynny lle 'roedd angen gwirioneddol yn bodoli ar gyfer tai rhesymol eu pris.

At hynny, y mae'r Gymdeithas wedi galw am y canlynol: bod y Swyddfa Gymreig yn comisiynu ac yn noddi prosiect ymchwil ar 'Ddefnydd yr Iaith Gymraeg mewn Cynllunio'; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol roi ystyriaeth i'r Gymraeg yn eu Cynlluniau Datblygu Unedol, gan mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru a'i bod hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol gynnal arolwg o gyflwr yr iaith yn eu hardaloedd, a llunio strategaeth iaith a fydd yn ffurfio polisïau i warchod a hyrwyddo'r iaith yn eu hardaloedd; - bod y Swyddfa Gymreig yn rhoi fwy o arweiniad i'r awdurdodau cynllunio lleol, ac yn cyhoeddi canllawiau fwy manwl ar ba fath o bolisïau y dylid eu mabwysiadu er gwarchod a hyrwyddo'r iaith.

Cynnal arolwg o holl gynyrchiadau BBC Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchiad digonol o amrywiaeth diwylliannol ac ethnig Cymru ac y caiff materion portreadu eu monitro'n systematig.

(ii) Adroddiad y Dirprwy Brif Swyddog Cynllunio bod y Cyngor, mewn cydweithrediad gyda'r Cyngor Sir a'r cynghorau cymuned, wedi gwneud arolwg llawn o holl lwybrau cyhoeddus y Dosbarth gyda'r bwriad o resymoli'r rhwydwaith a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr.

O fewn dwy flynedd ymyrrwyd â llongddrylliad arall o bwysigrwydd hanesyddol cyn y medrwyd gwneud arolwg.

(ch)Pob gwaith arolwg a ffurfio polisi%au ar gynlluniau statudol ac anstatudol megis y cynlluniau lleol a'r Cynllun Fframwaith cyn belled ag y mae angen gwneud hynny i baratoi'r cynlluniau neu'r polisi%au neu sylwadau drafft mewn ffurf derfynol i'w mabwysiadu gan y Pwyllgor er mwyn eu hargymell i'r Cyngor yn unol â (d) isod.

Mewn arolwg diweddar a wnaed o'r pwnc cododd Martin a Flemming y cwestiwn 'A yw eu darganfyddiadau yn rhoi hawl gwirioneddol i archaeolegwyr tanfor eu galw eu hunain yn archaeolegwyr?' Er mwyn ateb y sialens hon yn effeithiol rhaid pwyso a mesur y dulliau a ddefnyddir heddiw mewn archaeoleg môr yn ôl y meini prawf a dderbynnir gan archaeolegwyr modern, a hefyd yn

Bwriad yr arolwg fyddai mesur yr angen yng nghymunedau gwledig a threfol y dosbarth ynghyd â chyflwyno tystiolaeth am y math o angen lleol, boed hynny yn gartrefi ar gyfer yr henoed, pobl ifanc, teuluoedd ar incwm isel a.y.

Awn ati'n awr i wneud arolwg brys o'r sefyllfa yng Ngheredigion a Chaerfyrddin a cheisio hybu strategaeth gadarnhaol newydd ar gyfer ysgolion gwledig.

Gwnaethon ni wrthod cymryd rhan yn arolwg rhagfarnllyd Cyngor Ceredigion.

Yn ail, cynhaliodd cwmni Beaufort Research ar ein rhan arolwg barn y cyhoedd ar y ddogfen ymgynghorol ym mis Chwefror 1996.

Mae'r Arolwg Perfformiad gydol y flwyddyn wedi dangos yn glir i'r Cyngor Darlledu bod gwneuthurwyr rhaglenni BBC Cymru, a'r rhai sy'n gyfrifol am strategaeth gyffredinol, wedi darparu cyfoeth o raglenni radio a theledu a fu'n berthnasol ac adloniadol i'r gynulleidfa sy'n gwrando ac yn gwylio.

Ar 15 Ionawr 1996 cyhoeddodd y Bwrdd ganlyniadau arolwg cynhwysfawr o agweddau'r cyhoedd tuag at yr iaith Gymraeg.

Pwrpas y safle yw i rhoi arolwg o'r marina, ei lleoliad, cyfleusterau a prisiau angorfa.

Ar sail canlyniadau'r arolwg, dylid anelu at sefydlu cyfundrefn o ledaenu adnoddau sydd yn gost-effeithiol a sydd hefyd yn sicrhau y defnyddd helaethaf o'r holl adnoddau a gynhyrchir gydag arian cyhoeddus.

Dylid gwneud arolwg o'r defnydd a wneir o adnoddau Cymraeg mewn ysgolion.

Arolwg yn dangos fod un o bob deuddeg o blant ysgolion cynradd Prydain yn dioddef o afiechyd a diffygion lluniaeth.

Arolwg yn dangos fod dynion ym Mhrydain yn ennill cyflog o £13-2-11 9 (£13.15 ) ar gyfartaledd.

Ond yn ôl arolwg diweddar, ac amheuaf fod a wnelo cadwriaethwyr natur rywbeth a hyn, mae yn prinhau a rhaid fydd i ni arddwyr newid ein cynlluniau a defnyddio rhywbeth yn ei le.

'Roedd yr arolwg peilot yn gyfle da i ragweld os oedd holiaduron yn fodd effeithiol o gasglu gwybodaeth am yr angen lleol am dai.

Tra oeddynt hwy'n gweithio ym Môr y Canoldir sefydlasant safonau arolwg a chloddio a oedd yn eu gosod hwy uwchlaw gweithwyr cynharach.

Mae Cymdeithas yr Iaith hithau yn y broses o wneud arolwg o'r posibiliadau ledled Ceredigion a Chaerfyrddin gan ddanfon holiadur (mwy cynhwysfawr nag eiddo Cyngor Ceredigion) at lywodraethwyr pob ysgol wledig yn y ddwy sir.

Gyda'r esgus eu bod yn archwilio'r gwahanol bosibiliadau, gwnaeth Awdurdod Addysg Ceredigion arolwg yn nechrau 1998 o'r ddarpariaeth o addysg gynradd yn y sir.

Hoffem gael cadarnhad hefyd y bydd yr arolwg ar yr iaith Gymraeg yr oedd y Pwyllgor Addysg dros 16 wedi cytuno arno rai wythnosau yn ôl yn mynd rhagddo yn mis Ebrill.

'Does dim sy'n sicrach na bod dyfodol rhaglen fel Arolwg yn ddiogel hyd ddiwedd y ganrif ac y bydd mawr a mân yn sathru'i gilydd yn eu hymryson i ymddangos arni!

Oherwydd llwyddiant yr arolwg peilot, y nod yn awr oedd cynnal arolwg drwy Ddwyfor gyfan i gasglu gwybodaeth lawn a chynhwysfawr am yr angen lleol am dai.

(d) Cau Swyddfa'r Arolwg Daearegol yn Aberystwyth CYFLWYNWYD llythyr Mr Cynog Dafis AS yn hysbysu bod yr Arolwg Daearegol yn bwriadu cau'r swyddfa uchod er mwyn arbed swm cymharol fechan o arian.

Awdurdodwyd Swyddog Diogelwch y Cyngor sef y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd mewn ymgynghoriad â'r Trysorydd, a'r Prif Swyddog Technegol mewn perthynas ag adeiladau'r Cyngor ac mewn achosion eraill unrhyw Brif Swyddog perthnasol i gytuno ar wariant ar unrhyw waith a fydd yn angenrheidiol yn eu barn hwy ar ôl gwneud arolwg dan y cyfryw reoliadau, - ond yn amodol ar gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith priodol cyn cytuno ar unrhyw wariant neu waith sylweddol.

Os yw'r Cynulliad yn methu yn hyn o beth, y mae'n agored i arolwg barnwrol.

Maen rhaid i'r Arolwg Blynyddol ar gyfer 1999/2000 ddechrau gyda theyrnged i Geraint Talfan Davies ar ei ymddeoliad fel rheolwr, yn dilyn ymron i ddegawd fel pennaeth BBC Cymru.

Ond er bod ffigyrau diweddar yn dangos fod lefelau cancr y fron, y stu~nog a'r groth yn uwch na'r cyfartaledd Prydeinig mewn rhannau o Wynedd, doedd y tri math yma ddim yn rhan o'r arolwg.

Fel rhan o'r arolwg, lluniwyd holiadur cwbl ragfarnllyd gan wahodd ymatebwyr i nodi ai cau'r mwyafrif o ysgolion bach y sir neu dim ond rhai ohonynt oedd y llwybr gorau i ddatrys materion fel codi safonau academaidd, hwyluso gwaith staff etc.

"Yn sicr dydi'r adroddiad ddim yn ddiduedd, ac mae'r holl beth yn drewi o gêm bropaganda'r diwydiant niwcliar yn ystod blwyddyn yr arolwg ar gyfer adolygiad o'r diwydiant."

CYFLWYNWYD adroddiad llafar y Prif Weithredwr ar ddau gynllun arall, sef Oblygiadau Gofal yn y Gymuned (Tai Eryri) ac Arolwg Hyfforddiant Staff (Prifysgol Lerpwl).

'Roedd hyn yn gwbl annerbyniol gan mai hon oedd unig swyddfa'r Arolwg yng Nghymru.

Ymddangosai Alun Michael yn ddiffuant o ddiolchgar iddi am gyfraniad amserol a rhoddodd sicrwydd fod pob hawl i aelodau'r Cynulliad berthyn i'r Seiri Rhyddion ond na allent ddisgwyl bod uwchlaw arolwg.

Yn ôl Mary Marsh, Prif Weithredwr NSPCC, mae canlyniadau'r arolwg yn bryderus.

Mae'r arolwg yn dangos bod y cartref yn le hapus a diogel i'r rhan fwyaf o blant - a dyna sut y dylai hi fod.

Arolwg yn dangos mai dim ond 46% o dai Prydain oedd ag ystafell ymolchi.

Y cam cynta', meddai, fydd cynnal arolwg o'r aelodau i weld i ba gyfeiriad y maen nhw am i'r mudiad fynd.

Mae Cyngor Darlledu Cymru yn cynorthwyor Bwrdd Llywodraethwyr yn ei arolwg o waith y BBC drwy gynrychioli barn gwylwyr a gwrandawyr yng Nghymru.

MAE arolwg sy'n honni nad oes dim cysylltiad rhwng atomfeydd Wylfa a Thrawsfynydd ac achosion o gancr yn yr ardaloedd hynny, wedi codi pob math o amheuon.