Ar gyfer pob pwnc a arolygir, mae'n rhaid cwblhau taflen grynodeb ar bwnc a'i chyflwyno fel rhan o Gofnod o Dystiolaeth yr Arolygiad.
Mae'n rhaid i bob adroddiad arolygu gynnwys barn glir ar safonau cyrhaeddiad yn holl bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ym mhob Cyfnod Allweddol perthnasol, yn ogystal â rhoi disgrifiad ar safonau mewn unrhyw bynciau ychwanegol a gynhwysir ym manyleb yr arolygiad.
Mae'n rhaid i'r arolygiad o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol fod yn seiliedig ar wybodaeth fanwl o'r gofynion statudol, gan gynnwys:
Lle bo hynny'n briodol, dylid cofnodi barn ynghylch ansawdd y gwaith yn y meysydd trawsgwricwlaidd hynny ar y taflenni crynodeb ar bynciau unigol sy'n rhan o Gofnod o Dystiolaeth yr Arolygiad ym mhob arolygiad.