Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arolygwyr

arolygwyr

Bydd arolygwyr yn mynd o gwmpas yn gwirio labeli, gwybodaeth a/neu hysbysebion.

Y ddadl amlycaf ym meddwl y mwyafrif ymhlith y genhedlaeth gyntaf o arolygwyr oedd yr un foesol: wedi'r cwbl, roedd bron pob un ohonynt yn glerigwr mewn urddau a oedd wedi ei gymeradwyo gan awdurdodau'r Eglwys: ond ym meddwl y mwyafrif o'r beirniaid roedd yr hirben a'r moesol wedi'u cydgymysgu.

Dylai arolygwyr nodi unrhyw enghreifftiau lle na ellir dysgu rhannau o'r cwricwlwm yn effeithiol, er enghraifft, technoleg gwybodaeth, oherwydd nad oes digon o adnoddau neu am fod yr adnoddau'n amhriodol.

Mae'n rhaid i'r adroddiad a ysgrifennir gan arolygwyr arbenigol ar bynciau unigol roi ystyriaeth i'r canllawiau a gynigir yn y tudalennau a ganlyn, ac mae'n rhaid mynegi barn yn glir ynghylch safonau cyrhaeddiad, ansawdd y dysgu ac ansawdd yr addysgu.

Bydd cnewyllyn o staff sy'n gweithio mewn swyddfeydd yn cael eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf sylfaenol yn ogystal ag Arolygwyr Cynllun a gweithwyr Prosiect a staff eraill sy'n debygol o fod mewn perygl, e.e.

Mae astudio adroddiadau arolygwyr yn ei gwneud yn amlwg fod gan y naill beth effaith ar y llall h.y. fod creu amgylchfyd diogel a bywiog i blant, lle cant eu hadnabod a datblygu fel unigolion, yn hybu'r broses o ddysgu.

Dylai arolygwyr grynhoi'r cryfderau a'r gwendidau a welir wrth arsylwi addysgu'r pynciau, gan amlygu'r agweddau pwysicaf y mae angen rhoi sylw iddynt.

Fodd bynnag, mae angen i arolygwyr fod yn ymwybodol o gyfraniad agweddau eraill, megis cyd-wasanaethau a gweithgareddau trawsgwricwlaidd, a all fod o gymorth i hyrwyddo safonau da a datblygu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth disgyblion.

Dylai arolygwyr pwnc, felly, gyflwyno adroddiad ar agweddau ar themâu trawsgwricwlaidd a'r dimensiwn Cymreig a amlygir o fewn cynlluniau gwaith eu pwnc.

Ond pan ddâi'r deintydd a'r nyrs neu'r nyrs gwalltie neu'r arolygwyr, roedden nhw i gyd yn gwneud neu'n dweud rhywbeth a ddangosai fod pobl ddu'n wahanol.

Dylai arolygwyr gofnodi'r gymhariaeth gyda'r cyfartaledd cenedlaethol ond dylent hefyd ganolbwyntio'n arbennig ar asesu cyrhaeddiad y disgyblion ag AAA mewn perthynas â'u galluoedd.

oedd y ffordd y disgrifiodd arolygwr ffatri y plant yng ngogledd Lloegr yn siarad, ac fe geir arolygwyr Pwyllgor y Cyngor byth a hefyd yn cyfeirio at yr hyn nad oedd yn ddim ond brygawthan parablus i'w clustiau, pan oedd y plant mewn gwirionedd, mae'n siwr, yn adrodd barddoniaeth neu ddarllen rhyddiaith yn weddol ddeallus.

Bydd pedwar cam i'r ymgyrch: (1) caiff pob perchennog o 48 awr hyd at 90 diwrnod i wella'r sefyllfa; (2) dirwyon o hyd at 2.5m peseta; (3) atafaelu eiddo os na wneir sylw o argymhellion yr arolygwyr; (4) estyn y ddeddfwriaeth i weddill y gymuned.

Dwn i ddim am faint o amser y bu'n arolygwr ond ef yw'r un ddaw i'r cof bob amser y meddyliaf am arolygwyr y festri.

O ganlyniad, mae angen i arolygwyr ystyried yn ofalus y lle gorau yn yr adroddiad i ddatgan barn ynghylch agweddau ysgol- gyfan ar themâu trawsgwricwlaidd a'r dimensiwn Cymreig.

codwyd y palas grisial ar ei chyfer ac un o'r arolygwyr oedd cymro o'r enw john jones, sef y bardd talhaiarn.

Yn ychwanegol at bynciau, mae gofyn i arolygwyr ystyried dwy agwedd arall ar y ddarpariaeth gwricwlaidd: (i) y Dimensiwn Cymreig a (ii) y themâu trawsgwricwlaidd (addysg yrfaoedd, dealltwriaeth gymunedol [gan gynnwys dinasyddiaeth], dealltwriaeth economaidd a diwydiannol, addysg iechyd ac addysg yr amgylchedd).

Gofynnir i arolygwyr asesu'r safonau a gyrhaeddir mewn perthynas â'r normau cenedlaethol.

Nodyn arbennig ar gyfer arolygwyr pwnc

Fe ddeuair arolygwyr heibio yn flynyddol i fygwth caur lle, meddai Syd Aaron, prif-ddarlithydd addysg gorfforol yr hen goleg hyfforddi pan oeddwn i yno, ddiwedd y pum-degau a dechraur chwe-degau.

Nid yng Nghymru'n unig y cafwyd y math yma o amgylchiadau cymdeithasol a'u canlyniadau alaethus ar addysg - dyna oedd profiad cyffredin bron pob un o'r broydd ffatri%ol neu lofaol trwy Loegr benbaladr, a hynod o debyg oedd y geiriau a ddefnyddid yn adroddiadau'r arolygwyr ysgolion i'w disgrifio hwythau - broydd fel swydd Stafford a'r 'Black Country' drwyddynt draw, a rhannau o swydd Durham a siroedd gogledd Lloegr, ac wrth gwrs, trefi mawrion a dinasoedd Lloegr.

Davies oedd yr arolygwyr ym Mhwllheli; y mae'r ddau wedi'n gadael erbyn hyn Dreifio fu hanes DS cyn cael ei ddyrchafu'n arolygwr a chofiaf unwaith fod yn ofalydd ar ei fws, a chyrraedd i mewn i Bwllheli ymhell o flaen yr amser a nodwyd ar yr amserlen.

Ni ellid amau dilysrwydd ei ddisgrifiadau o amgylchiadau byw y werin, gan fod arolygwyr eraill yn eu cadarnhau: yn wir, fel y cawn weld, byddai'r adroddiadau eraill yn dyfnhau'r argraff fod y bobl yn gwbl amddifad o gyfleusterau cymdeithas.

Dosberthid adroddiadau'r arolygwyr ffatri%oedd a mwyngloddiau yn helaeth, gan anfon copi%au at bob perchen gwaith glo, a phobun arall a allai fod â diddordeb, ac yn ddieithriad dyfynnid ohonynt a thrafod eu cynnwys yn y papurau a'r cylchgronau taleithiol.

Mae'n glod i Arolygwyr Ei Mawrhydi, fel Cassie Davies a Margaret Jenkins, iddynt ddyblu eu gweithgarwch ar ôl gwrthodiad eu meistri.

Dylai arolygwyr nodi unrhyw enghreifftiau lle ni ellir addysgu rhannau o'r cwricwlwm yn effeithiol, er enghraifft, gwyddoniaeth neu addysg gorfforol, oherwydd nad oes digon o fannau arbenigol neu am eu bod yn amhriodol.

Roedd Tremenheere, a oedd, o'i gymharu â'r arolygwyr eraill, yn eithaf parod i ystyried yr amgylchiadau, ac nid yn foesolwr oeraidd, yn cymryd gofal mawr i bwysleisio bod y gweithwyr at ei gilydd yn cael eu talu'n dda am eu gwaith, pa mor llafurus ac annymunol bynnag ydoedd.

Ar gyfer pob pwnc, dylai arolygwyr farnu tair nodwedd bwysig:

Mae adroddiadau eraill gan arolygwyr yn cadarnhau'r un argraff cyffredinol o lwyddiant academaidd yr ysgolion pentrefol bach.

Nid oes angen ond cyfeirio at adroddiadau Arolygwyr i wrthbrofi hyn.