Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arswyd

arswyd

Y cwbl y gallwn feddwl amdano oedd stori arswyd Gwrach Llyn y Wernddu.

Mae'n codi arswyd arnom eto gyda'r llun o ferch fach yn rhedeg yn noeth i lawr llwybr o'i phentref yn Fietnam a'i chroen yn friw gan y napalm yr oedd awyrennau bomio yr Unol Daleithiau wedi eu gollwng ar ei chartref.

Mae'r rhan fwyaf ohonon ni wedi gweld ffilmiau arswyd lle mae dyn gorffwyll, yng ngolau'r lloer, yn gafael yn ei wddf, yn gwneud synau sy'n awgrymu ei fod ar fin tagu ac yn troi yn ...

Oherwydd hyn mae'r ymateb a godir ganddynt - arswyd,gorfoledd, rhyfeddod, dirgelwch, ymgolliant - yn wahanol hollol i'r ymateb sy'n digwydd wrth ddarllen ac ystyried ehediadau dychymyg barddonol.

"Be' wyt ti'n feddwl ydi o?" "'Sgen i ddim syniad, ond mae o'n codi arswyd arna' i." "Taw." "Ydi, wir yr." "Tyrd o 'na."

Does arna'i ddim eisiau troi eich stumogau gyda ffilm arswyd newydd sâl.

Yr oedd Saesneg coeth Dodd a Rowley yn peri peth arswyd a rhyddhad mawr oedd cael fy nhrin yn Gymraeg gan Ifor Williams.

Yr hyn a gododd arswyd arnyn nhw oedd nhw eu hunain.

Weithiau byddai'n darllen o Lyfr Del neu Lyfr Nest, neu weithiau o gyfrol dreuliedig o Chwedlau Grimm, a'n llygaid ninnau'n grwn dan arswyd 'waeth faint mor aml roeddem ni wedi clywed y stori o'r blaen.

Roedd gwrando arno'n doethinebu yn ddigon i godi arswyd ar ddyn.

Ddigwyddodd ddim byd ond roedd yn ddigon i godi arswyd.

Hawdd iawn yw codi breichiau mewn arswyd at y ffaith fod copa'r Wyddfa ar werth.

Fel mae'r teitl yn awgrymu, mae hon yn stori arswyd sydd yn sôn am arth grisli.

Allwn i ddim dyfalu sut y cyrhaeddodd rhai ohonynt eu ffau anghysbell, heb sôn am allu uniaethu gyda'r arswyd a oedd wedi eu cymell i fentro.

Sylweddolodd gydag arswyd mai esgyrn oedd y rhain.

Mae'r plot yn y stori yma yn un addas i stori arswyd ac yn symud yn sydyn.

Ond arswyd y byd = heddiw bu'n rhaid iddo fynd nôl i edrych yr eilwaith i ofalu nad oedd yn dychmygu pethau.

Nid arswyd yw prif ergyd pob stori gyfoes o bell ffordd, er ei fod yn gyffredin iawn, iawn.

Ni sydd wedi marw, Non.' 'Beth wyt ti'n feddwl?' Roedd arswyd yn llygaid Non a Dafydd.

Pam fod llysywen yn codi cymaint o arswyd a ffieidd-dra ar bobl?

Ar ôl blynyddoedd o ymdrin â bwganod, mae'r arswyd hyfryd o allu cysylltu ag ysbrydion yn f'atgoffa bob amser o sŵn frou-frou gwisg sidan Miss Jones Bach a'r oglau arogldarth yn gymysg â pheli gwyfyn.

Cododd arswyd o'i weld yn sefyll wrth ochr fy ngwely, a thybiwn o hyd na allai lai na sylwi ar beth oeddwn i'n gorwedd.

'Arswyd y byd!' ychwanegodd yn syn.

Roedd o'n ddigon hoff o ffilmiau arswyd - ond doedd y rheini ddim yn digwydd go iawn.