Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arswydus

arswydus

Cofadail yw safle Dorothea bellach i ddiwydiant llechi a fu unwaith yn llewyrchus, cofadail ddigon arswydus sy'n anesmwytho dyn ac yn gwneud iddo ryfeddu ar yr un pryd.

Fel yn yr ardaloedd diwydiannol, roedd y perchnogion tiriog yn yr ardaloedd gwledig fel petaent yn anymwybodol o ddiffygion arswydus eu deiliaid.

Peth arall yw, wrth reswm, fod safonbyw deheudir yr Eidal yn arswydus o isel, ac wedi bod felly erioed.

Tyr ebychiad chwerw Ifan ar draws y disgrifiad breuddwydiol ac fe'n hatgoffa ni o realiti arswydus eu tynged

Ac ni fedrwn sefyll ym mhulpud Bwlchderwin heddiw, a pheidio â meddwl, pe gwelwn wraig hyn na'r cyffredin yn y gynulleidfa, "Oedd 'nacw'n un ohonyn NHW tybed ?" Wrth edrych yn ôl trwy niwl y blynyddoedd, nid bara a gwin Y Cymun hwnnw, yn anffodus, sydd wedi aros, ond trwyn arswydus y Parch.

Er bod cyfran fechan o'r troseddwyr a alltudiwyd i Awstralia yn ddihirod arswydus, rhaid cyfaddef fod y mwyafrif ohonynt wedi eu cymell i droseddu gan gyflogau isel, gan ddeddfau gorthrymus, safonau byw gwael, diweithdra achlysurol a diffyg addysg.

Mae yma gyfrifoldeb arswydus ar ein hysgwyddau.

Tyfodd y wladwriaeth yn arswydus mewn grym, gan gasglu mwy a mwy o awdurdod i ddwylo clymblaid yn y canol.

Eisoes, roedd y bugeiliaid ar y bryniau pellaf wedi rhuthro'n ôl i'r dref gyda'r neges arswydus bod byddin anferth ar ei ffordd tuag yno, Cannoedd, os nad miloedd o filwyr.

'Y gweld cyntaf' a ddaeth iddo, fel yr esboniodd mewn llythyr at Mary Lewis, a oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad, oedd, 'nad oes ddianc rhag enbydrwydd arswydus economeg y gors.' Dyma sail yr athroniaeth feirniadol a fynegwyd yng Nghwm Glo: 'Gweld cefn gwlad yn dihoeni a wneuthum,' meddai ac o ganlyniad meithrin ymwybyddiaeth o'r graddau y dylanwedir ar fywyd yr unigolyn gan amgylchiadau sydd y tu hwnt i'w reolaeth ef.

Lleoedd arswydus ble mae pobl dlawd, croenddu, yn cael eu gorfodi i fyw.

Arswydus yw'r darlun ym mhaladr yr ail englyn, a'r ansoddair 'ddi-derfysg' yn arbennig o nerthol pan gofir mai terfysg a fwriodd y llanciau i'r dwfn.

"Y mae yn hawdd iawn gan gapteniaid roddi cant ac ychwaneg o'r gath naw gynffonnog ar gefn troseddwyr, ond pan yr anturiai un ei fywyd yng nghanol y Ue mwyaf arswydus am sharks yn y byd, ie, ac i achub y Uong a'r dwylo, ni chaiff ond un bunt.

Yn y man daeth y gymdeithas hon i osod bri mawr ar y 'barchus arswydus swydd', ac y mae'n wir dweud y dibynnai'r gweinidog bron yn gyfan gwbl ar ewyllys da a theyrngarwch ei gynulleidfa.

peth arall, roedd brawd ann griffiths yr emynyddes yn llofrudd, ac mae cyfeiriad at hynny yn y stori, sy'n dangos i mi mor agos y mae'r aruchel at yr arswydus, y gwar at yr anwar.

Yr oedd y llythyrau hynny'n frawychus, gyda'r 'peth mwyaf arswydus a glywyd', a chytunodd y mwyafrif ohonynt yn hollol annibynnol ar ei gilydd nad oedd dim ymdeimlad fod angen Cristionogaeth nac Eglwys ymhlith y lliaws mawr.

Ergyd arswydus sydd i englynion Williams Parry, ond yma mae'n fater o gyfleu'r berthynas glos rhwng y tad a'r mab, fel petai Siôn yn dal i fodoli yn ymwybyddiaeth ei dad - ymdeimlad sy'n gwbl ddilys yn seicolegol wrth gwrs.

Fe hoffwn drafod mwy o'r straeon hyn, yn arbennig y straeon gwaedlyd, arswydus sydd yn cael eu hadrodd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau - pob un gyda neges gymdeithasol gref ond nid yw gofod yn caniata/ u.

Arswydus o beth fyddai dychmygu'r gath hon yn cwrso ac yn poenydio Anti Meg cyn, yn y diwedd, ei lladd a'i bwyta.

Weithiau byddem yn gofyn am 'stori pan oeddech chi'n hogan fach, Miss Lloyd,' a rhyfeddem at yr anturiaethau a'r helbulon arswydus a ddaeth i ran y ferch fach hon o'r wlad.

Ni wyddai'r trefnyddion druain beth yn y byd i'w wneud gan fod costau'r daith yn cynyddu'n arswydus o ddydd i ddydd.

Y mae cwningod yn ail da i'r llygod mawr yn eu gallu i epilio'n gyflym ac y mae'r golled a achosant i gynnyrch amaethyddol yn arswydus.

O'r uchder hwnnw medrai weld dros y wal arswydus honno, `Wal Berlin.' Am un mlynedd ar hugain roedd y wal hon, gyda'i thyrrau'n llawn o ddynion arfog, ei chŵn a'i chaeau'n llawn o ffrwydron cudd, wedi rhannu'r ddinas yn ddwy.

Aeth Iago at Pedr, oedd wrth y llyw ac meddai: 'Pedr, mae hi'n storm arswydus.' 'Ydyw,' meddai Pedr, 'mae hi.' 'Yr wyf yn meddwl y byddai hi'n well i ni fynd yn ôl,' meddai Iago.

Pob nos Calan Mai mae yna sgrech arswydus i'w chlywed uwchben y wlad.

Anodd oedd i grefftwr neu weithiwr a gwas gyrraedd y swydd barchus arswydus' o gael ei ethol yn flaenor.

Ond roedd Somalia'n wahanol ac yn fwy arswydus am mai rhyfel cartref oedd prif achos y diodde'.