Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arthuraidd

arthuraidd

Y gyfrol gyntaf o drioleg yn adrodd yr holl chwedlau Arthuraidd.

Fe berthynai'r saint, yn fras, i'r oes Arthuraidd, a rhan o'r darlun hanesyddol o Arthur yw'r portread ohono a geir yn y Bucheddau, er ei fod yn sicr yn cynnwys elfennau chwedlonol.

Yn ardal Dolgellau hefyd, mae yna gyffro wrth i bobol edrych yn fanwl ar bob wyneb dieithr rhag ofn i Richard Gere neu Sean Connery alw heibio'r National Milk Bar am baned rhwng ffilmio golygfeydd o'r epig Arthuraidd, First Knight.

Perthynai'r ddwy, yn eu ffyrdd gwahanol, i fudiad llenyddol pur boblogaidd yn Ffrainc tua dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg: mudiad a welai ar y naill law ymgais i gysylltu'r chwedl Arthuraidd (cyfraniad mwyaf Cymru i ddychymyg Ewrop, o bosibl) â chyfnod y Testament Newydd a sefydlu'r Greal Sanctaidd yn un o brif themâu llên Ffrainc, a mudiad a oedd yn dyst ar y llaw arall i symud pendant oddi wrth yr hen arfer Ffrengig o gyfansoddi naratif ar fesur ac odl i lunio stori%au rhyddiaith.

Nid oes gennym yn y Gymraeg yr un chwedl am Drystan i'w chymharu â'r rhain, er bod arwyr Arthuraidd eraill, megis Peredur ac Owein, wedi cael sylw mewn nifer o destunau rhyddiaith Cymraeg Canol.

Gellir olrhain y defnyddiau sydd yn y ffynonellau hyn yn ôl i'r nawfed ganrif, ac yn ôl pob tebyg dipyn yn gynharach, ond nid i'r cyfnod Arthuraidd ei hun.

A hyd yn oed pe bai'r testun yn hŷn nag y gallwn ar hyn o bryd ei brofi, mae'r ffaith nad oedd copi%wyr diweddarach wedi moderneiddio nac addasu'r hanes, drwy gydblethu'r cnewyllyn brodorol ag elfennau o draddodiad arall, yn awgrymu'n gryf yr ystyrid y chwedl Gymraeg am Drystan ac Esyllt fel stori wahanol, mewn rhyw fodd, i hanesion eraill a berthynai i'r un un byd Arthuraidd, a bod y chwedl wedi ci thrin yn wahanol o'r herwydd.

Gwelir y duedd hon ar waith yn y deunydd Arthuraidd yn arbennig, lle gellid yn hawdd greu dolen gyswllt rhwng y traddodiadau estron a'r rhai brodorol, oherwydd bod cymeriadau ag enwau tebyg iawn yn profi anturiaethau tebyg, boed eu hiaith yn Gymraeg neu Ffrangeg.

Nod awdur y Tristan en Prose oedd cyfuno hanes Tristan â phrif ffrwd hanes y byd Arthuraidd, ac felly penderfynodd gyplysu ei hanes ef â fersiwn Cylch y Fwlgat o hanes y greal, sef La Queste del Saint Graal.

Er bod y Queste ei hun wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg, (fel rhan gyntaf Y Seint Greal), ac er bod Cylch y Fwlgat wedi bod yn hynod ddylanwadol ar destunau rhyddiaith Arthuraidd Cymraeg, nid oes unrhyw dystiolaeth iddynt fod yn gyfarwydd â'r Tristan en Prose Efallai mai ei anwybyddu a wnaethant, oherwydd y mae lle i gredu mai fersiwn o'r 'Post-Vulgate Queste', sef y fersiwn lle ymgorfforwyd hanes Tristan, a ddefnyddiwyd gan gyfieithydd Y Seint Greal.

Jarman, un o lywyddion anrhydeddus cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Gydwladol.

At y ffynonellau hyn yr arferai'r llenorion Cymraeg droi yn rheolaidd i chwilio am ddeunydd stori%ol i ehangu a chyfoethogi eu testunau Arthuraidd.

Y mae ysgolheigion y Gymraeg wedi bod â lle blaenllaw mewn astudiaethau Arthuraidd erioed.

O'r amrywiaeth o destunau a gyfieithwyd yr oedd y rhamantau Arthuraidd, gan gynnwys chwedlau'r Greal, ymhlith y mwyaf poblogaidd.