Yr unig wahaniaeth yw fod y Tywysog hwnnw yn cyflawni ei gampau ef mewn ysgol go arw ym mherfeddwlad Awstralia.
Oddi yno 'mlaen bydd rhyw ddwy filltir dda o gerdded dros wastatir uchel gwelltog a'r hen ffordd wedi'i sarnu yn o arw gan feiciau modur mewn mannau.
Gwaethygodd eu priodas yn arw wrth i Eileen helpu ei chwaer, Gina, ac ym mis Mai 1996 gwahanodd y ddau ar ôl i Denzil gael gwybod fod Eileen yn cael affêr gyda Jon, cyfreithiwr Gina.
Carreg arw o dir Cae Meta, un o hen gartrefi ei deulu, sydd ar ei fedd ac arni y geiriau syml, ond hollol gywir a chymwys, 'Athro, Bardd, Llenor'.
Yr oedd y streic wedi ymledu dros ryw draean o holl faes glofaol Deheudir Cymru, ac yr oedd teuluoedd y streicwyr yn mynd i ddyled er mwyn cael angenrheidiau bywyd, a'u hiechyd yn dioddef yn arw o ganlyniad i ddiffyg ymborth.
Ma'r holl beth wedi'i ypsetio hi'n arw.
Rwyf fi'n llenydda am fy mod i'n caru crefft llenydda, yn caru geiriau a rhythm geiriau; felly rwy'n tristau'n arw wrth feddwl y gellir fy ngalw - a hynny'n gyfiawn - yn ddieithryn yn fy ngwlad fy hun.
Ei law wen yn ngafael llaw arw'i thad, ei wyneb yn llyfn yn ymyl gerwinder y llall.
Mae'r hin wedi oeri'n arw a'r ddaear wedi rhewi'n gorn.
"Beth ddiawl rydych chi'n ei wneud yma?" Roedd y cwestiwn mor annisgwyl o arw fel na allai ateb.
Cododd ei wrychyn yn arw, ac meddai, "Dydi o ddim wedi dweud wrtha i.
Yn rhinwedd ei swydd aruchel fe aeth i ymweld a ffatri ym Moscow un tro, medden nhw, ond fe'i synnwyd ac fe'i siomwyd yn arw oherwydd fod y gweithlu mor ddiystyriol ohono.
Cefais fy synnu'n arw gan arddull amrwd ac anaeddfed llawer o'r hysbysebion, ar y radio'n arbennig.
Siomwyd Fidel yn arw gan Gorbachev a perestroika; er gwaethaf pwysau gan y Sofietiaid, gwrthododd weithredu unrhyw beth tebyg yng Nghuba.
Daeth yn aelod anhepgor o Senedd a Chyngor y Coleg, a chymerodd ran mewn nifer o ymgyrchoedd yno - ynglŷn â statws y Gymraeg (ymgyrch a'i cleisiodd yn arw), ynglŷn â phrifathrawiaeth y cyn-Brifathro, ynglŷn â phenodiad cofrestrydd newydd; a phan oedd yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau cafodd un ysgarmes enwog ynghylch ad-drefnu.
Yn bersonol, oherwydd fy magwraeth yn Llundain, dydw i ddim yn parchu Saeson fwy nag y dylwn i.' ' Er gwaetha'r newidiadau a fu yn y Brifysgol ym Mangor dros y blynyddoedd dywed Gwyn Chambers y bydd yn colli'r ochr ddysgu yn arw.
Cofiai'r wynebau hynny'n awr, yn arw ar yr wyneb ond yn cuddio llawer o hynawsedd.
Roeddwn wedi edrych ymlaenyn arw at fy ngwyliau sgio cyntaf a dyma fi ar gychwyn wythnos o brofiadau newydd ar ol siwrnai faith a phum awr o gwsg.
Yn sydyn, dyma law arw'n dod i fyny ac yn cau'n dynn am y barrau.
Yn ôl ynghanol y saithdege oedd hi, adeg pan oedd y probleme gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon wedi cynyddu'n arw ac roedd tim pêl-droed Lloegr eisoes wedi gwrthod mynd allan i chwarae yn Belfast am resyme diogelwch.
Mewn cilfach sych a chysgodol, ar ol bwyta'n fras, mae'r cysgaduriaid fel y draenog a'r pathew yn gaeafu, a churiad eu calon a'u hanadlu wedi arafu yn arw.
Wnaethoch chi frifo'n arw?
Y rheswm am hynny oedd iddo fynd i'w gragen yn arw.
Er fod gan Yr Alban gyfran uchel o laswellt mae mwy ohonno'n borfa arw.
Ychydig yn uwch i fyny mae Camddwr neu Camau'r Bleiddiaid, bwa naturiol o graig yn pontio'r afon lle'r arferai'r bleiddiaid, yn ôl traddodiad, groesi'r afon o'r mynydd i glydwch y cymoedd pan oedd y tywydd yn arw.
A mwynhau yn arw a wnes i ac nid wyf yn cywilyddio wrth ddweud hynny.
"Os na 'dwy'n methu'n arw mi fydd y rhan fwya o'r celfi yn 'u lle yn barod i chi.
Ro'n i'n dioddef yn arw o'r clefyd, nes imi gael gweledigaeth.
Tra bod Ffair Gaeaf a Stori%au'r Tir Glas yn gosod eu cymeriadau'n solet iawn o fewn cymdeithas hawdd ei hadnabod a sicr ei seiliau, ac yn rhoi mwy o bwyslais yn y pen draw ar y gymdeithas nag ar yr unigolyn oedd yn rhan ohoni, erbyn cyrraedd Yr Wylan Deg a Stori%au'r Tir Du, mae pethau wedi newid yn arw.
Er bod y pincod yn gantorion da ar y cyfan, mae pethau yn newid yn arw ar ôl codi'r ail nythaid a phan ddaw amser i fwrw plu.
Am y rheswm yna, falle, wedi cael cymaint o amser i feddwl am ein cychwyn da a'n gobaith o gyrraedd Sbaen, fe gyrhaeddais i stâd o nerfusrwydd go arw cyn y gêm nesa allan yn Twrci.
Ar wahân i hynny mae Clockwork yn plesio'n arw, ac mae hi'n brawf pellach o'r ffaith fod cerddoriaeth ysgafnach yn gweddu Gwacamoli i'r dim.
Yr oedd hi wedi newid yn arw er pan welsant hi.
Erbyn hyn mae pethau wedi newid yn arw.
Oherwydd eu tueddiad i fod yn wlyb ac asidig mae cyfran uchel o briddoedd Cymru yn addas ar gyfer tyfiant porfa arw neu barhaol yn unig.
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuodd capeli'r Anghydffurfwyr ymddangos ym mhob man ar hyd a lled y wlad, ac apeliai neges y pregethwyr grymus yn arw at bobl Cymru.
Cynhaliwyd y cyfarfodydd yn Senedd-dy Owain Glyndwr, a dywed yr aelodau oedd yn bresennol - rhyw drigain ohonynt - iddynt fwynhau eu hunain yn arw.
Dyma fo'n fy ngweld i ac yn dod ataf i ymddiheuro'n arw gan ddweud: "I've been on this f...ing street all f...ing afternoon and I've had enough" ac wedi dod am beint.
arw.
Mewn ymgais i guddio'i theimlad, meddai, "Eto i gyd, roeddech chi braidd yn rhy arw...neithiwr...doedd dim angen...doedd gennych chi ddim hawl..." "Wnes i mo'ch brifo chi," meddai, a'i lygaid yn tywyllu.
Hoffai deimlo cynhesrwydd byw Barnabas yn symud oddi tani, ac ni ofidiai fyth am fod y ffordd i lawr o Frynmawr i'r dre yn rhy arw i gerbyd.
Gweithred ddigon diniwed ond un a gynddeiriogodd rhyw bwt o heddwas yn arw.
Yn yr ail act mwynheais berfformiadau Alun Elidir (Jo) a Judith Humphreys (Mari) yn arw, yn enwedig yn y rhan lle roedd Jo am adael ond yn aros i gynorthwyo Mari i lapio cynfas, gyda'r ddau yn dod yn nes at ei gilydd gyda phob plygiad a'u hymddygiad yn mynd yn fwy awgrymog drwy'r amser.
Yr oedd yr hen Daid Trefgraig yn arw am hela a saethu.