Yn ail, er bod Coleg Ieuan Sant yn ystod y cyfnod hwn yn nythle i'r Piwritaniaid, a gredai fod angen diwygio Eglwys Loegr ymhellach fyth yn ôl patrwm Eglwysi Diwygiedig y Cyfandir, ac er bod tiwtoriaid i Forgan a Phrys ymhlith arweinwyr y blaid Biwritanaidd, y mae'n ymddangos i Forgan, a Phrys hefyd yn y diwedd, lynu'n ddiysgog wrth y blaid Anglicanaidd swyddogol, a arweinid yng Nghaergrawnt ar y pryd gan un o'r Athrawon Diwinyddiaeth, y Dr John Whitgift.