Ac i brif arweinydd y mudiad, John Henry Newman, yn arbennig, datblygodd hwn i fod y cwestiwn pwysicaf oll.
Euthum i Miami, lle mae hanner ohonyn nhw'n byw, er mwyn holi'r gŵr sy'n cael ei ystyried fel arweinydd y chwyldro nesaf yng Nghuba.
Ond mae yna ffactorau dyfnach hefyd sy'n deillio, yn eironig ddigon, o gyfnod yr Archentwr enwocaf oll - arwr Menem a sylfaenydd y blaid y daeth yn arweinydd arni - sef Juan Pero/ n.
Ymddangosai'n debyg na fyddai Rod Richards, arweinydd y Ceidwadwyr, yn cael ei big i mewn gan fod ei gwestiynau ymhell i lawr y rhestr a'r gweithgareddau'n mynd rhagddynt yn hamddenol.
Mae ganddi tua 35 o gryno ddisgiau ar y farchnad gan gynnwys CD dwbl o Symffonïau 5, 6 a 10 Shostakovich, dan arweiniad ei Chyfarwyddwr Cerddorol, Mark Wigglesworth, a Symffonïau 5 ac 8 Rubbra, dan arweiniad y Darpar Brif Arweinydd, Richard Hickox.
Nofiodd pry copyn y dþr at fynedfa'r palas, ac amneidiodd arweinydd y chwilod ar Ffredi a Gethin i'w ddilyn.
Ffacsiwyd ein hymateb at y tri arweinydd Cyngor yn Neuadd y Sir heddiw, ac ynddo mynna Cyd-Gadeirydd y Gymdeithas, Aled Davies, fod adolygiad trylwyr o Bolisi Iaith y Cyngor yn digwydd a noda bod obsesiwn y cyngor gyda rheolwriaeth yn troi pobl ifanc, ynghyd â phobl proffesiynol, i ffwrdd o'r broses ddemocrataidd, gan eu bod yn teimlo na fydd neb yn sylwi ar eu barn.
Ym mis Medi 2000 byddwn yn croesawu'r prif arweinydd newydd, Richard Hickox.
Arweinydd milwrol, bid sicr, a phennaeth ar fintai o ymladdwyr symudol a gwibiog, ond nid cadfridog yn gwasanaethu gwladwriaeth sefydlog a threfnus; yn hytrach, anturiwr, treisiwr, ysbeiliwr, yn ymladd nid yn unig yn erbyn y Saeson ond hefyd yn erbyn ei gyd-Frythoniaid.
Oherwydd bod nifer o bobl ifanc asgell chwith wedi ymuno â Phlaid Cymru wedi Penyberth penderfynodd Saunders Lewis ymddiswyddo o'r llywyddiaeth am na fyddai Cymru yn derbyn arweinydd Pabyddol.
Derek Hatton, cyn is-arweinydd cyngor Lerpwl, yn cael ei ddiarddel gan y Blaid Lafur.
Roedd yn Arweinydd Cynorthwyol Cerddorfa Symffoni Boston rhwng 1990 a 1993, gan arwain Gwyl Tanglewood a Chyfres Danysgrifio Boston.
Crynhoir arwyddocâd y plasty fel ffynhonnell pob gwareiddiad a'r pencenedl fel cynghorwr ac arweinydd doeth yng ngeiriau'r un bardd: 'pennaeth y gwladwriaeth da; pencenedl ...
Yn Fiji, mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad, Don McKinnon, wedi cwrdd ag arweinydd y coup" yno yn adeilad llywodraeth y wlad.
Ym Manceinion yr ymgartrefodd, yn eisteddfodwr brwd, a oedd eisoes wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth, Rhosyn Meirion, gyda gwasg Isaac Clarke, cyfrol a oedd yn cynnwys pryddest i Kossuth yr arweinydd Hwngaraidd.
Fe lwyddodd y Gymdeithas i amharu'n ddifrifol ar y cyfarfod hwn a bu trafodaeth breifat rhwng Sioned Elin, cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin, a Meryl Gravell, arweinydd y Cyngor.
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Ethol Margaret Thatcher yn arweinydd y Toriaid.
Un oedd gweld RE Jones, arweinydd Clwb Llanwnda, yn dod i'r pwyllgor a'i gyd- gynrychiolydd yn eneth ieuanc iawn.
Daeth swn llesmeiriol tonnau'n taro'r creigiau i'n clyw, brysiodd sgwadron o hwyaid heibio a glanio fel pe ar orchymyn arweinydd i nofio'n gytun.
Felly sefydlodd Grwp Iechyd Lleol Gwynedd y cynllun ac mae Nyrs Angela Roberts wedi cael ei phenodi'n arweinydd.
Yr arweinydd cyntaf oedd Mr Goronwy Jones, dyn gweithgar yn yr ardal oedd yn gweithio yn y Ffatri Laeth yn Rhydygwystl ac yn cadw siop gyda'i wraig ym Mynydd Nefyn.
Hefyd ymysg yr ymwelwyr byddai arweinydd yr wrthblaid, oedd hefyd yn Llywydd Skol Uhel ar Vro(Sefydliad Diwylliannol Llydaw, rhywbeth tebyg i Gyngor Celfyddydau Cymru).
[LLUN + CAPTION: Jorge MasCanosa, arweinydd yr alltudion]
Yn hwyrach y noson honno a ninnau ar ein trydydd peint edrychasom eto ar Iwerddon a chofio mai arweinydd mudiad yr iaith a ddewiswyd yn Llywydd cyntaf y Weriniaeth, ac yna treuliasom noswaith ddifyr yn dyfalu pa un o'r tai bonheddig yng Nghymru a fyddai orau gennym fel plas i'n llywydd, a pha un ohonynt a ddylai fod yn Chequers Cymru.
Ym mis Rhagfyr fe gododd arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad gwestiwn diwygio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Fel arweinydd y Cuban American Foundation, MasCanosa yw'r dylanwad pwysicaf ar bolisi yr Unol Daleithiau tuag at Cuba, ac un o'i gydweithwyr agosaf yw mab yr Arlywydd George Bush.
Yn y rhaglen Simon Rattle - Moving On cawsom hanes yr arweinydd a chafodd y rhaglen ddogfen ar John Cale, un o sylfaenwyr y grwöp pop Velvet Underground, ganomoliaeth frwd gan y wasg.
Ymateb Aled Davies, cyd-gadeirydd y Gymdeithas oedd amau cymhelliad yr ymateb: 'Byddwn yn cwestiynu pa mor debygol yw hi y byddai'r tri arweinydd yma wedi dod at ei gilydd o'u gwirfodd i greu ymateb unedig.
Mae gennyf rhyw frith gof fod Tom Parry, arweinydd Clwb Caernarfon, yn gweithredu fel trefnydd rhan amser ar y pryd.
Ma' hi yn cymryd amser maith i drefnu rhywbeth fel ymweliad arweinydd yn iawn, a bu gwaith caled yn mynd ymlaen.
Ef oedd arweinydd bywyd diwylliannol Cymraeg y cylch.
Roedd Mr Reagan am ddangos i'w gyd-wladwyr y gallai fargeinio â'r arweinydd Sofietaidd er mai ef oedd arlywydd y wlad y cyfeiriodd ati'n sarhaus fel y deyrnas ddieflig.
Dilynai Ernest gwt yr helsmon, a glynai Harri orau y gallai wrth ei arweinydd.
Arweinydd sy'n ymddiried mewn amynedd, cynllunio a phwyll yw Manawydan hefyd.
Carchar am oes i chi am fod yn arweinydd mudiad terfysgol, neu'n arweinydd ymgyrch derfysgol.
Maen fater o farn a yw'r gwr a ddaeth yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn haeddu y fath deyrnged ac y maen destun dadl air trwy gyfres deledu o'r fath y dylid talu'r deyrnged honno i arweinydd gwleidyddol, beth bynnag.
Michael Foot yn olynu Jim Callaghan fel arweinydd y Blaid Lafur.
Nodwedd boblogaidd o'r gyfres hon fu'r sesiwn holi ac ateb wedi'r cyngerdd sy'n cynnwys y gynulleidfa, Cyfarwyddwr Cerdd y gerddorfa, Mark Wigglesworth, y Prif Arweinydd a chwaraewyr allweddol.
COFIO FFRANCON THOMAS: Y mae'n siŵr mai un o'r cerddorion mwyaf amlwg i ddod o ardal Dyffryn Ogwen oedd y diweddar William Ffrancon Thomas - gŵr a wnaeth argaff fawr fel cyfeilydd, organydd a phianydd, arweinydd ac athro.
Ac roedd arweinydd yr Aifft, Anwar Sadat, yn ei gasa/ u.
Mae'n ymddangos y byddan nhw'n cefnogi'r Prif Weinidog, ond yn argymell maddau i arweinydd y coup" os bydd yr helynt yn dod i ben yn heddychlon.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr William Hague wedi beirniadu cynlluniau i gynnwys miloedd o filwyr Prydeinig fel rhan o lu ymateb cyflym Ewropeaidd.
Neil Kinnock yn arweinydd y Blaid Lafur.
Yn naturiol, yr oedd yn rhaid i'r cyfryw arweinydd gael adnoddau i gynnal ei fyddin, ac fe'u cafodd, i ryw fesur o leiaf, trwy ysbeilio'r Eglwys a'r mynaich o'u heiddo, ac yn arbennig o'u da.
Anos fyth deall pam y byddai arweinydd y Blaid Geidwadol yng ngwledydd Prydain yn gweld rhinwedd mewn gwneud hynny.
Roedd Mr Gorbachev, ac yntau ddim ond yn arweinydd ers ychydig fisoedd, yn bendant am brofi y gallai ddal ei dir heb adael i'r Americanwr ei fygwth.
Anerchir y rali gan Branwen Niclas, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Elin Haf Gruffydd Jones, arweinydd ymgyrch y Gymdeithas dros Ddeddf Iaith Newydd a nifer o Gymry amlwg eraill.
Yr Arlywydd Clinton yn dod â Yitzhak Rabin, Prif Wweindog Israel, a Yassir Arafat, arweinydd y PLO, ynghyd.
Jeremy Thorpe yn olynu Jo Grimond fel arweinydd y Rhyddfrydwyr.
Y gosodiad pwysicaf yn y paragraff, fe ddichon, yw'r cymal sy'n dweud fod Arthur wedi ymladd yn erbyn y Saeson gyda brenhinoedd y Brytaniaid, ond mai ef oedd 'arweinydd y brwydrau' y dux bellorum.
Roedd emosiynau yn amlwg yn Christmas Oratorio from Weimar, sef pererindod epig yr arweinydd Syr John Eliot Gardiner i berfformio pob un o gantatas J. S. Bach ledled Ewrop ar eu dyddiau gwyl priodol.
Yn ogystal â bod yn Arweinydd Clwb Bryncir, yr oedd galw am wasanaeth y ddiweddar Miss Elizabeth Lloyd Williams i roi hyfforddiant i aelodau rhai o'r clybiau eraill yn rhinwedd ei swydd gyda'r Weinyddiaeth Amaeth fel Swyddog Cynghori ynglŷn â llefrith.
A phan gyrhaeddodd ef a'i ffrind y lan, trodd at arweinydd y chwilod dþr mwyaf a dweud yn fawreddog, 'Diolch yn fawr, 'y ngwas i.
Er hynny, fe fyn iddo gael yno gaer fawr a berthynai i arweinydd milwrol o'r dosbarh neu'r teip y gellid disgwyl i Arthur berthyn iddo.
Mewn llythyr at Nick Bourne AC (Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad) mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Torïaid i atal eu rhagrith o roi cefnogaeth mewn geiriau i ysgolion gwledig tra bod eu polisïau yn eu tanseilio.
Ethol Clement Attlee yn arweinydd y Blaid Lafur.
Yr arweinydd oedd Mr George Lloyd a'r gyfeilyddes oedd Mrs Rhian Roberts.
Jeremy Thorpe yn ymddiswyddo fel arweinydd y Rhyddfrydwyr, a David Steel yn ei olynu.
Gellid dweud yn ddibetrus mai profiad sobreiddiol fyddai i brif weinidog unrhyw wlad edrych dros lawr y Tþ a syllu i fyw llygaid arweinydd yr Wrthblaid gan wybod fo dhwnnw yn cynrychioli plaid sy'n dymuno arwain rhan o'r wlad i annibyniaeth.
Yn cychwyn yn 2000/2001 ef fydd Prif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Bydd Branwen Niclas, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac Elin Haf Gruffydd Jones, arweinydd Ymgyrch Statws y Gymdeithas, yn arwain y rali.
Ymhen hir a hwyr brasgamodd arweinydd y Cremlin tuag at ei gerbyd hirddu.
Marw'r arweinydd Llafur, John Smith; Tony Blair yn ei olynu.
Roy Jenkins yn ymddiswyddo fel arweinydd yr SDP.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin ac Arweinydd y Cyngor i ymddiswyddo, gan eu bod wedi colli ymddiriedaeth a hyder y byd addysg yng Nghymru, ac wedi dwyn anfri ar enw Sir Gaerfyrddin fel bod pobl yn amharod iawn i weithio yn y sir.
Ond am wleidyddiaeth gyfoes dywedodd Lingen mai Saeson o Loegr a ddygai bob cyffro gwleidyddol i'r meysydd glo Cymreig, a dyna ragweld y Seisnigo ar y mudiad Llafur a oedd i ddwyn Keir Hardie o Glasgow i fod yn arweinydd y Cymry.
Yr arweinydd yn mynd i lawr yn hynod o dda gyda'r cyhoedd y wasg a'r gweithwyr o fewn y blaid.
Maen rhaid ei fod yn sylweddoli mai'r un peth sydd debycaf o adfer ei ffawd wleidyddol yw lluniau teuluol o'r arweinydd Ceidwadol yn gwenun garuaidd wrth i Fabi Hague gymryd ei gamau cyntaf.
Hugh Gaitskell yn olynu Attlee fel arweinydd y Blaid Lafur.
Creigiau duon sydd ym mhobman wrth i'r gadwyn o ddringwyr ddilyn yr arweinydd i'r copa.
Ar yr achlysur hwn fe sylweddolais fod gennym arweinydd arbennig ac unigryw a hynod o alluog a dim ond mater o amser oedd nes y byddai yn brif weinidog.
Yn hapus ryfeddol cafodd y mudiad ifanc newydd arweinydd a phroffwyd i'w ysbrydoli a'i borthi yn y meddyliwr cymdeithasol praffaf a godwyd yn ein Cymru Gymraeg ni y ganrif hon, sef yr Athro J R Jones.
Neil Kinnock yn ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Ladur.
Yr oedd yn ogystal yn arweinydd dihafal.
Ond nid oedd gan Keble yr ehangder gweledigaeth na'r grym personoliaeth, meddai Owen Chadwick, i fod yn arweinydd mudiad a syrthiodd ar ddyddiau blin.
Rheithgor yn dyfarnu'r cyn-arweinydd Rhyddfrydol yn ddieuog o gynllwynio i lofruddio.
Gadawodd ymneilltuad Newman i Littlemore y mudiad heb arweinydd yn y Brifysgol.
Dilyn wrth gwt arweinydd swyddogol am beth amser er mwyn casglu pob dim o wybodaeth am y ddinas, ac yna crwydro i bob cyfeiriad ar fy mhen fy hun.
Ar ol iddo gael ei anwybyddu am sbel hir, gafaelodd o'r diwedd yn un o'r dynion a oedd yn brasgamu heibio a holodd pam tybed nad oedd neb yn cymryd sylw ohono ac yntau'n brif arweinydd y wlad i gyd?
Amcanem at geisio rhoi cyfle i Gaerdydd brofi ei hawl i fod mewn gwirionedd yn brifddinas Cymru ac ennill lle iddi ei hun fel amddiffynnydd ac arweinydd diwylliant y wlad y mae eisoes yn ganolfan iddi mewn materion masnach ac economeg, a chyda hynny o hunan lywodraeth sydd gennym.
Parhaodd cyfres newydd o The Slate â'r patrwm a ddechreuwyd llynedd o ffilmiau o'r ansawdd uchaf ar bwnc unigol: Karl Jenkins y cyfansoddwr a'r arweinydd, y darluniwr Jim Burns, yr animeiddwraig Joanna Quinn, y cyfarwyddwr ffilm Peter Greenaway, a'r nofelydd Dick Francis, bob un yn adnabyddus yn rhyngwladol, ond â'u gwreiddiau yng Nghymru.
Ethol Arthur Scargill yn arweinydd y glowyr.
Mae'r Grwp yn cefnogi defnydd cerrig mâl eilaidd am y rhesymau hyn a rhesymau eraill, ac eistedda Arweinydd y Grwp ar grwp llywio prosiect ymchwil o eiddo Adran yr Amgylchedd, ar ddefnydd a defnyddiau amgen ar domennydd gwastraff llechi a'r modd y gellid eu trin.
Fe sy'n cyfri'i hunan yn arweinydd.
Arweinydd ei bobl ydyw, eu hamddiffynnwr a'u cynhaliwr, hyd yn oed ar êl angau.
O bryd i'w gilydd wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaenau, byddai llefarydd ar ran y ddau arweinydd yn dod draw i gynnig ambell ddarn newydd ar gyfer y jig-so.
Mae'r Cymro Stephen Dodd chwe ergyd tu ôl i'r arweinydd Porraig Harrington ym Mhencampwriaeth Agored Singapore.
Mikhail Gorbachev yn arweinydd newydd Rwsia.
Mae'r Gymdeithas wedi gofyn i arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin am esboniad o benderfyniad syn y Pwyllgor Addysg, a gyfarfu ar Fawrth y 4ydd.
Polisi tra gwahanol oedd ar dafod arweinydd glowyr Aberdâr, Charles Stanton: rhaid cynnull 'brigâd ymladdgar o lowyr' i herio trais yr heddlu a thrais y dosbarth llywodraethol, taranai.
Daeth yn arweinydd y blaid, a thraddododd araith yn angladd ei arwr.
Ym mis Medi 2000 byddwn yn croesawur prif arweinydd newydd, Richard Hickox.
Yr arweinydd gwadd oedd Mr Alun Tregelles Williams o Abertawe a'r organydd oedd Mr Peter David o Smyrna Pen y fai.
Yr oedd Haughey yn arweinydd plaid fwya'r wlad, Fianna Fail, ac yn taoiseach - Prif Weinidog - am gyfnod yn ystod yr wythdegau.
Gresyna fod y rhan fwyaf o waith Charles Maurras, arweinydd answyddogol Action Francaise a golygydd cylchgrawn o'r un enw, ond ar gael mewn cylchgronau, 'ac felly allan o gyrraedd tramorwyr.'
Diau fod gwahaniaethau sylfaenol rhwng ei ddaliadau gwleidyddol ef ac eiddo sylfaenydd ac arweinydd L'Action Fran‡aise.
Hen law mewn gwleidyddiaeth ydyw Jean Chretien, arweinydd y blaid ryddfrydol a phrif weinidog newydd Canada.
Cyfrannodd Dewi Jones yn sylweddol i ddatblygiad y mudiad yn y Sir, nid yn unig fel Arweinydd Clwb, ond hefyd gyda'r profion medrusrwydd sydd mor bwysig i'r aelodaeth.
Roedd yn arweinydd naturio yn wydn, yn ffydlon ac yn sicr ei gam a'i farn.
Fel y gwelwyd eisoes, nid y coleg fel y cyfryw a noddodd yr awdur, nac unrhyw arweinydd crefyddol, ond yn hytrach leygwr o'r enw Gruffydd ap Llywelyn ap Phylip ap Trahaearn.