Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arwyddo

arwyddo

Wrth arwyddo Cytundeb Belffast (neu Gytundeb Gwener y Groglith) roedd prif bleidiau gwleidyddol y gogledd, a holl bobl Iwerddon trwy refferendwm ddiwedd mis Mai eleni, yn derbyn y lle blaenllaw a roddwyd i'r Wyddeleg yn y Cytundeb.

Pwysleisiodd mai gwragedd a roddodd heddwch yn uchel ar yr agenda gwleidyddol ac mai'r arweinwyr â'u dilynodd drwy arwyddo cytundebau rhyngwladol.

Maentumiai gwrthwynebwyr na ellid dibynnu ar yr enwau am fod cyfartaledd uchel ohonynt yn enwau plant, a phobl a oedd wedi arwyddo fwy nag unwaith.

Ffrainc, Gorllewin Yr Almaen, Yr Eidal a gwledydd Benelwcs yn arwyddo cytundeb i ffurfio'r Gymuned Glo a Dur Ewropeaidd.

Cyn dyddiau'r teledu, roedd y gyrrwr hefyd yn credu ei bod yn anlwcus cael tynnu ei lun neu arwyddo llyfr llofnod cyn i ras ddechrau.

Mae ei gyfnod wrth y llyw wedi bod yn fuddiol ond mae'r cytundeb heb ei arwyddo.

Gwynn Jones y byddai ef farw'n fuan, daeth y golomen i arwyddo bod "dyddiau fy anwylyd yn dirwyn i ben." Ni ddeallwn i arwyddocâd y golomen, ond deallasai fy nyweddi.

Mae rheolwr Abertawe, John Hollins, wedi cytuno ar delerau gyda'r clwb ac wedi arwyddo cytundeb tair blynedd.

Tyrrodd i'r orsaf gyda rhai ohonynt yn meddiannu'r blychau arwyddo.

Mae amddiffynnwr canol Abertawe, Matthew Bound, ar fin arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r clwb.

(dd)NODER yr awdurdodwyd yr Ysgrifennydd Dosbarth i arwyddo dyfarniadau ar geisiadau cynllunio.

Disgwylir clywed y prynhawn yma fod Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi arwyddo Clayton Blackmore.

Yn hwyrach heddiw mae rheolwr Abertawe, John Hollins, yn disgwyl cael gwybod a fydd cyn-ymosodwr Chelsea, Mark Stein, am ymuno âr clwb tra bod rheolwr Caerdydd, Billy Ayre, yn gobeithio arwyddo amddiffynnwr Colchester, David Greene.

Blackburn Rovers oedd y ffefrynnau i'w arwyddo, ar ôl i'r ddau glwb gytuno ar bris o £2,750,000 am y chwaraewr ugain oed o Lanelli.

Mae'n gwrthod arwyddo'r ochr Gymraeg i ddogfennau ac, yn rhyfeddol, dyw e ddim wedi cael cyfarfod o gwbl gydag aelodau'r Bwrdd.

Mae Newcastle United, yn ôl adroddiadau, wedi methu yn eu hymgais i arwyddo ymosodwr Cymru a Wimbledon, John Hartson, ar fenthyg.

Heddiw bydd yr amddiffynnwr o Trinidad, Denys Lawrence, yn cael prawf meddygol a bydd y blaenwr o'r Rhyl, Lee Trundle, yn arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner gyda Wrecsam.

Felly, y mae Undeb Cymru Fydd wedi penderfynu cynnal cynhadledd i ystyried arwyddo deiseb o blaid Senedd i Gymru.

Pwysleisiodd yn ei ddatganiad fod gan John Hollins ddwy flynedd arall o gytundeb fel rheolwr - mi wnaeth o arwyddo'r cytundeb yn gynharach yn y tymor - a bod cwmni Ninth Floor, perchnogion presennol y clwb yn bwriadu parchu'r cytundeb hwnnw.

Ni theimlwn yn obeithiol y bydd y cynllun hwn yn arwyddo unrhyw gynnydd mawr yn yr adnoddau ar gyfer plant o fewn Cymorth i Fenywod yng Nghymru, ond croesawn unrhyw gam newydd sy'n cydnabod anghenion plant yn benodol.

Yn wir, yn ôl adroddiadau papur newydd mae Eriksson eisoes wedi derbyn y swydd ac wedi arwyddo cytundeb gwerth £1.8 miliwn.

Roedden ni'n gorfod arwyddo llyfr ac yna camu'n ôl ac wrth wneud hynny peth naturiol oedd troi rownd ond, wrth ichi droi rownd, roedd yna ddau neu dri o aelodau o'r militia yn eich wynebu chi ac mi oedd gynnon nhw Kalashnikovs a phetaen nhw ddim yn leicio'ch wyneb chi neu ddim yn ymddiried ynoch chi, mi fyddai'n hawdd iawn iddyn nhw eich lladd chi.

Cofiwch arwyddo'r ddeiseb dros Ddeddf Iaith Newydd.

Y mae'n dda gennyf am hyn gan ei fod yn arwyddo mor agored fyddai drws ein tŷ ni, ac mor eang ydoedd lletygarwch y ddau a eisteddai wrth ben ein bwrdd.

Cyrhaeddodd trên llythyron gyffiniau Llanelli am ddeng munud wedi naw y nos ond rhwystrwyd y groesfan yno gan fil a hanner o bobl, gan gynnwys llanciau a oedd wedi dryllio ffenestri'r blwch arwyddo gerllaw.

Mae tridiau cyntaf Awst yn arwyddo tywydd gweddill y mis.

Syniadau ar sut i gael cefnogaeth ac ennill gwobr Ceisiwch gael cymorth eich teulu a'ch ffrindiau; eich partner, plant, mam, tad, chwaer, brawd, ffrindiau, cyd-weithwyr - unrhyw un, ond ceisiwch gael rhywun i arwyddo'ch cytundeb.

Mae ei glwb, St Helens, wedi cadarnhau bod Abertawe wedi gwneud ymholiadau ynglyn â'i arwyddo ar gyfer y tymor nesaf.

Mae Taylor, a arweiniodd Gillingham i'r Adran Gyntaf, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r clwb.

Mae Casnewydd yn awyddus i arwyddo un arall o fawrion y gêm i gymryd ei le.

Cychwynwyd y cyfarfod trwy gyflwyno deiseb i Rosemary Butler wedi ei arwyddo gan brifathrawon, llywodraethwyr a chynghorwyr cymunedau gwledig.

Bydd Hollins yn arwyddo amddiffynnwr canol cae Llanelli, Andrew Mumford.

Wfft i drenau drafftlyd ar noson fel heno.' Roedd y dynion wrthi'n sgwrsio, yn yfed te a glanhau'r ager o ffenestri eu bocs arwyddo pan glywsant s n cloch.

Mae sibrydion bod Rhys Weston, amddiffynnwr Arsenal a chapten tîm dan 21 Cymru, ar fin arwyddo i Gaerdydd.

Mae Newcastle United wedi arwyddo ymosodwr Wimbledon Carl Cort am £7 miliwn.

Teimlai'n bur fodlon arno'i hun a brygowthai am y cytundeb yr oedd ar fin ei arwyddo gyda Border Holdings wrth ei wraig, gan ychwanegu y byddai'n filiwnydd cyn diwedd yr haf.

Dan gynllun felly nid oedd modd sicrhau nad oedd rhai cefnogwyr wedi arwyddo ddwywaith, ac eraill wedi arwyddo drostynt eu hunain yn ogystal â thros aelodau eraill o'r teulu.

Roedd y mwyafrif wedi arwyddo'r ddeiseb yn ildio i'r Senedd - o'u hanfodd.

Maen nhw wedi arwyddo cynnig yn y Tŷ Cyffredin i fynegi eu pryder sylweddol a'u dychryn" at benderfyniad Comisiwn y Mileniwm i roi £29m ychwanegol i'r atyniad.

Mae son bod United am arwyddo golwr Blackburn, Alan Kelly, ar fenthyg.

Arwyddo cytundeb i sefydlu Iwerddon Rydd o 26 o siroedd yn y De.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Ffrainc, Gorllewin Yr Almaen, Yr Eidal a gwledydd Benelwcs yn arwyddo cytundeb i ffurfio'r Gymuned Glo a Dur Ewropeaidd.

Falle bydd Bangor yn arwyddo R. Giggs erbyn eu gêm yn erbyn Rhayadr ar y penwythnos.

Mae sibrydion fod Dundee United am arwyddo ymosodwr Cymru, Dean Saunders, ar fenthyg o Bradford.

Mae Robbie Savage wedi arwyddo cytundeb newydd gyda chlwb pêl-droed Leicester City.

Mae hyfforddwr PSV Eindhoven, Eric Gerets, wedi galw ar reolwr Manchester United, Syr Alex Ferguson, i benderfynu ydy o eisiau arwyddo ymosodwr PSV, Ruud van Nistelrooy, ai peidio.

Mae Bradford, o'r Uwch Adran, wedi gwrthod cais Caerdydd i arwyddo'u gôl-geidwad nhw, Matt Clarke, ar gyfnod o fenthyg.

Unwaith iddo gael ei arwyddo a'i selio byddwch yn teimlo'n fwy ymrwymedig i fynd yn eich blaen.

Wythnos pan mae'r asiantwyr yn crynhoi yn ysu i arwyddo nid yn unig enillydd y brif wobr a'r wobr Lieder ond pob un sy'n ymddangos ar y llwyfan ar y noson olaf.

Chwe gwlad, Ffrainc, Gorllewin Yr Almaen, Yr Eidal, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd a Lwcsembwrg yn arwyddo cyntundeb Rhufain gan sefydlu'r Farchnad Gyffredin Ewropeaidd.

Mae ugain o Gynghorwyr Cyngor Bwrdeisdrefol Sirol Caerffili wedi arwyddo deiseb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sydd yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.

Mae Abertawe hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw'n bwriadu arwyddo dau ymosodwr newydd.

Mae Everton yn gobeithio arwyddo Steve Watson o Aston Villa am ddwy filiwn a hanner o bunnau.

Mae hyfforddwr Castell Nedd, Lyn Jones, eisoes wedi arwyddo Allan Bateman, ac wedi ail-arwyddo Brett Sinkinson yr wythnos hon.

Fe ddaethon nhw i nôl fi allan, a mynnu 'mod i'n arwyddo ffurflenni yn datgan nad oedden nhw wedi fy nghamdrin a 'ngorfodi i wneud unrhyw beth yn erbyn fy ewyllys.

Ar ôl y gêm wfftiodd hyfforddwr Penybont, Dennis John, honiadau ei fod o'n bwriadu arwyddo maswr Abertawe, Cerith Rees.

Mae llawer ohonynt wedi arwyddo llythyr agored at swyddogion y Llyfrgell yn gofyn iddyn dynnu'r gwahoddiad yn ôl a chynnig yr anrhydedd i rhywun mwy cymwys.

Cafwyd adroddiadau bore yma fod Caerdydd yn ceisio arwyddo'r chwaraewr rhyngwladol addawol Ryan Green o Wolves.

Mae disgwyl i Middlesborough arwyddo Dean Windass o Bradford am £600,000.

Ddydd Llun mae Bryn yn Virgin Megastore, Caerdydd, i arwyddo copïau o'i albwm ac yna yn Siop Eifionydd, Porthmadog, y diwrnod canlynol.

Rydych chi'n arwyddo'r papur ac yna'n cael y cerdyn yn ôl.

Mae chwaraewyr Rygbi Undeb Cymru wedi arwyddo eu cytundebau rhyngwladol o'r diwedd.

Arwyddo cytundeb heddwch Versailles.

Stopiodd un cyfaill ac arwyddo i ni aros, a bod yn ddistaw.

Mae cefnwr 20 oed Abertawe, Leigh Devulgt, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda'r clwb.

Ar ben deheuol y bont fawr roedd dau dyn yn yfed te mewn bocs arwyddo.

Yn ol Ieuan Lewis, Prif Swyddog Technegol Cyngor Arfon, nid oedd ei adran wedi derbyn unrhyw gwynion am y gwaith adnewyddu, ac roedd y perchenogion wedi arwyddo ffurflen i ddatgan eu bod nhw'n hapus efo'r cynllun cyn i'r gwaith ddechrau.

Wedyn, gan wneud stumiau, camodd allan o'r bocs arwyddo i ddannedd y gwynt.

Bydd ymosodwr Jamaica, Walter Boyd yn arwyddo cytundeb blwyddyn efo Abertawe a chredir y bydd yr amddiffynnwr canol Matthew Bound hefyd yn aros ar y Vetch.

Ymysg yr enwau mawr sydd wedi arwyddo i TSN mae'r Cymro sy'n Bencampwr y Byd, Mark Williams.