Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

asau

asau

Caiff ddanfon tri dwsin o ASau i Westminster at y chwe chant namyn un a ddaw o weddill Prydain Fawr; ond hyd yn oed pan ymuna'r rhain â'i gilydd dros achos o bwys mawr i Gymru, gyda chenedl unol wrth eu cefn, cant eu gwthio o'r neilltu yn ddirmygus gan y mwyafrif Seisnig llethol os oes buddiannau Seisnig yn y fantol.

Yno dywedodd TW Jones y byddai ef a'r ASau Cymreig yn parhau i ymladd yn lew "hyd at y Ffos olaf", sef trydydd darlleniad y mesur.

Winston Churchill oedd cocyn hitio pawb wedi i streic y Cambrian ddarfod: 'Oedodd yn rhy hir cyn danfon y milwyr i fewn', meddai perchnogion y pyllau glo; 'buasai'n well iddo ddefnyddio'r fyddin ar bob adeg, yn hytrach na'r heddlu', honnodd ASau Torlaidd a Rhyddfrydwyr asgell-dde.

Dyma rai sylwadau gan Asau Cymru yn ystod y ddadl ar Fesur yr Iaith Gymraeg yn 1993.

Erbyn hyn yr oedd hyd yn oed yr ASau Cymreig yn gwrthwynebu bwriad Lerpwl, a dadleusant yn gryf yn ei erbyn ar yr ail ddarlleniad.

Pan ddaeth y trydydd darlleniad, fodd bynnag, cafwyd bod yr ASau Cymreig wedi cytuno a Mrs Bessie Braddock ac ASau Lerpwl nad oedd angen dadl.