Credir mai erydiad y môr yn ystod y tywydd drwg yn diweddar sy wedi dod âr asbestos i'r golwg.
Er bod yr awdurdod yn hyderus eu bod wedi clirio'r rhan fwya o asbestos, maen nhw'n cyfadde y gall rhywun fod wedi dadlwytho'r deunydd yn anghyfreithlon ar y safle.
Mae nifer fu'n gweithio yn yr orsaf bwer ble roedd yna ddefnydd helaeth o asbestos yn dioddef o afiechydon sy'n gysylltiedig ag e.
Cafodd y tir ble'r oedd yr asbestos wedi ei adael ei adfer i ffurfio Parc Arfordir y Mileniwm.
Cadarnhawyd mai asbestos glas oedd e.
Pan yn wlyb credir bod asbestos yn ddiogel ond achosir problemau pan mae'n sych a ffibrau'n cael eu chwythu yn yr awyr.
Bydd rhagor o brofion yn cael eu cynnal ger y man lle daeth yr asbestos i'r golwg.