Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

asgwrn

asgwrn

Felly y gwnaem o'r naill ran i'r fraich i'r llall gan gynnwys cymalau ac esgyrn; ac mae i bob asgwrn ei hyd a'i ffurf, a'r ffurfiau i gyd wedi eu creu gan y cyhyrau.

Roedd hyn yn dipyn o syndod gan fod golwr TNS, Paul Smith, wedi gadael y cae ar ôl wyth munud wedi torri asgwrn yn ei law.

Neu a fydd hi'n gystadleuaeth ffyrnig rhyngddo ef a John Redwood - fel dau gi sgyrnygus yn ymladd am asgwrn y gwrthbleidiau.

A chyda'r Trefnydd Busnes, Andrew Davies, yn cyhoeddi y cynhelid trafodaeth ar bwnc cig eidion ar yr asgwrn cyn gynted a bo hynny'n briodol daeth y sesiwn cyntaf - dof a digon anniddorol mewn gwirionedd - o gwestiynau i'r Prif Ysgrifennydd i ben.

Rwyn credu bod y cyfle yma i gael ychydig bach o'r ddau - asgwrn cefn y tîm gyda phrofiad ac un neu ddau sy'n mynd i gael cyfle.

Asgwrn cefn hanes cymdeithasol da yw ystadegau, ac fe'u defnyddir yma i bwrpas da i oleuo llawer o agweddau ar hanes y Gymdeithas.

Wedi dod braidd yn rhy agos i'r asgwrn tro 'na, do fe?

Sôn am foment yn gyrru iasau i lawr asgwrn cefn!

Roedd 'i ysgwydde'n gwingo a gwayw ffiaidd dan asgwrn 'i frest.

Mae Gwenallt yn archwilio pynciau fel natur pechod yn yr awdl, ond cythruddwyd y beirniaid gan y disgrifiadau agos-at-yr-asgwrn o ryw a geid ynddi, yn enwedig mewn llinellau fel 'Ar hyd ei blows biws rhedai blys bysedd'. Galwyd yr awdl yn 'bentwr o aflendid' gan John Morris-Jones.

Arian oedd asgwrn y gynnen.

Mae Caerffili, er hynny, wedi gofyn i D.R.Davies edrych ar sawl digwyddiad gan gynnwys un pan gafodd y cefnwr Chris John anaf i asgwrn ei foch.

onid yw'n deimlad anghysurus i gymro cymraeg goleddu'r fath agwedd wrthnysig at yr hyn y byddai bobi jones ac eraill yn ei ystyried yn asgwrn cefn ein traddodiad llenyddol?

Parry, Madryn, Edwards a Griffith Jones oedd asgwrn cefn y Piwritaniaid yn Llyn.

Yng nghanol y plât hwn mae asgwrn bychan yn syth i fyny; un a elwir yn Lladin yn crista gallii sef crib y ceiliog.

'Mae o gen i, Robaits,' meddai'r gŵr, ac yna ychwanegodd yn flin gan ysgwyd Siân nes bod pob asgwrn yn ei gorff yn teimlo'n rhydd, 'Busnesa, aiê?' Roedd ei lais fel taran wrth iddo godi'r bachgen oddi ar y beic fel petai yn ddim mwy na doli glwt.

Rhedai iasau i lawr asgwrn cefn Jean Marcel wrth iddo ymwthio drwyddynt ar ôl y ferch.

Ef, neu hi, sy'n gyfrifol am y bwletin newyddion a fydd yn asgwrn cefn i'r rhaglen, am ysgrifennu peth ohono ac am ddewis lluniau, mapiau a diagramau ar ei gyfer.

Byddai'r goeden yn cynhyrchu deunydd ar gyfer amrywiol feddyginiaethau oedd yn ymwneud â gwendid ar y sustem nerfol, mêr yr asgwrn cefn a'r ymennydd.

Awtomeiddir y diwydiant gyda'r ford mesur-a-pwyso a'r llinell gynhyrchu: 'Rhagor o fasgedi - row G', Dros nos gwelwn Tref yn magu asgwrn cefn a balchder personol yn ogystal a digywileidd-dra wrth dynnu sylw hafing y warden traffig (awdurdod) oddi wrth y lori gludo!

O ran hynny, yr oedd ganddo esgus da, ond yr oedd yn rhy falch i'w ddefnyddio, yr oedd y codwm a gawsai wedi ei ysigo yn dost, ac anafu, neu o leiaf amharu, pob migwrn ac asgwrn ohono.

Ond roedd ei goes dde yn sownd, fel asgwrn yng ngheg ci.

Mae'r drymiau a'r allweddellau yn asgwrn cefn i'r gân sy'n ei gwneud yn hynod afaelgar a chofiadwy.

Asgwrn y gynnen oedd penderfynu Iasme, amser gorffwys, a'r amser noswyl.

Ym maes serch a charu y mae Menna'n rhagori fel y gwelir yn y cerddi Croen ac Asgwrn, Y Galon Goch, Ffynnon a Dim ond Camedd.

Yn fynych, bydd y person wedi cwympo ganol nos yn y toiled ac wedi torri asgwrn ei goes neu ei fraich.

Nid rhyw Ffenics adeiniog o obaith ac ymroddiad, ffydd a phenderfyniad a gododd o lwch y tan yn Llŷn, ond iargyw o bryder ac ofn a thaeogrwydd di-asgwrn cefn.

Nid oedd dim tebyg i stumog lawn am roi asgwrn cefn i ddyn.

Roedd hi'n gawres yn ymyl ei gŵr, yn ddynes gref, bum troedfedd a naw o daldra, yn llydan ei chorff ac o asgwrn cryf.

Erbyn hyn nid yw fawr o bwys beth oedd achos yr helynt lleol ond gallaf sicrhau pawb nad cyflog yr Ysgrifennydd Cyffredinol oedd asgwrn y gynnen o gwbl.

Roedd asgwrn ei benglog wedi'i gracio'n wael hefyd.

Yr hyn a'm synnodd oedd i'r Dr Jamieson alw'r asgwrn bychan hwnnw yn 'helm y Galiad' a hynny o bosib ar y sail iddo fod wedi darllen fel y gelwid ein cyndadau ni - a oedd i'w cael ym mhobman yn y Gogledd - gan y Rhufeiniaid yn Gallii.

Gyda'r gweithiwr cyffredin yr oedd cydymdeimlad Ieuan Gwynedd ('Nid ydym ond asgwrn o'ch asgwrn, a chnawd o'ch cnawd.' ) a chasâi'r meistri haearn - teuluoedd Harford, Bailey a Homfray - â chas cyflawn.

Yna taniwyd yr injan i ffwrdd â hwy ar draws y wlad, a phob asgwrn yn ei gorff yn brifo wrth iddo gael ei ysgwyd yn ôl a blaen yng nghefn fen y dihirod.

'Does gen i ddim asgwrn i'w grafu efi chdi, Talfan.'

Efallai, yn yr hen amser, mai'r ddarfodedigaeth yn yr asgwrn cefn ...

Sut bynnag, asgwrn y gynnen ar y pryd oedd bwriad y Rhyddfrydwyr i drefnu'r holl ymgyrch eu hunain.

Mae'r bobl mae Seth yn ei amgylchynu ei hun a nhw yn bobl hunanol, di asgwrn cefn.