Treuliais sawl min nos yn 'Y Wern', ei gartref, ac yn ddieithriad trafod rhyw wedd neu'i gilydd ar wyddoniaeth, yn arbennig ffiseg ac astroffiseg, a wnaem.
Ychydig iawn, iawn o lyfrau Cymraeg a gafwyd ar ffiseg, cosmoleg ac astroffiseg a seryddiaeth, a dyna'r sefyllfa heddiw hefyd, gwaetha modd.