Ond pa mor eang bynnag fo'r un ohonyn nhw neu pa mor ddyfn ac astrus bynnag, 'does yna yr un ohonyn nhw wedi mynd â lle Nedw.
Condemniwyd y mynegiant astrus a thywyll gan y beirniaid, er nad yw mor astrus â hynny; ond yr oedd yn awdl anghelfydd a chymysglyd ar brydiau, ac nid rhyfedd i'r bardd ei hailwampio yn ddiweddarach.
Nid yw'n bosibl, ar ôl cyfnod o dros ugain mlynedd, gwahaniaethu rhwng achos ac effaith mewn mater mor astrus ag antur Suez.
Cymorth beirniadaeth E Lewis Evans, y mae M Wynn Thomas yn edmygus iawn ohono, ysgolhaig a gweinidog Annibynnol a ddeallodd yn gynnar ba mor astrus oedd ei arwr; a chymorth beirniadaeth Hugh Bevan ar ei ôl, yr hwn yn Morgan Llwyd y Llenor a astudiodd yr awdur fesul llyfr yn ogystal ag yn gyffredinol.
Rhaid gofyn yn greulon: a yw cerdd mor astrus yn werth y drafferth o geisio ei dehongli?
Ymosododd ar ei gyd-Galfiniaid ar bwynt diwinyddol astrus ynglŷn â natur duwioldeb Crist.
Ac y mae'n naturiol hefyd, os bydd rhywun am gyflwyno peth o gynnyrch llenyddol gwlad arall yn ei iaith ei hun, iddo ddewis ffurfiau y byddai'n weddol hawdd eu cyfieithu a'u cyfaddasu, yn hytrach na mynd at y pethau mwyaf astrus a dieithr yn y llenyddiaeth dan sylw.
Cymdeithasai'n gartrefol â'r tadau cynnar a gwyddai'n iawn beth oedd arwyddocâd y dadleuon astrus hynny yn y bedwaredd a'r bumed ganrif a luniodd yr athrawiaethau uniongred am berthynas Personau dwyfol y Drindod â'i gilydd.
I mi, nid barddoniaeth, ond rhigwm annealladwy oedd 'Senedd i Gymru', a rwdl-mi-ri nad oedd yn Gymraeg oedd 'i rawt cachaduriaid trwch / Cymru boluglot flotai.' Yr oedd 'Emma%ws' a 'Mabon' yn fwy astrus fyth, ac felly maent hyd heddiw.