Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

astudiaeth

astudiaeth

Y nod yw llunio rhaglenni astudiaeth ar gyfer pob un o'r categoriau uchod gan amcanu i sicrhau y bydd cymaint ag sy'n bosibl, os nad pob un, o blant Cymru yn meistroli'r Gymraeg yn ystod eu cwrs ysgol.

Disgrifiodd ei gwaith fel 'helwraig ysbrydion' a darlithydd mewn Ffenomena Lleisiau Electronig ( EVP) Y mae'n aelod o Gymdeithas Ymchwil Seicic (SPR); Cymdeithas Ffenomen Lleisiau Electronig America (AAEVP); Cymdeithas Astudiaeth Wyddonol o Ffenomenâu Abnormal (ASSAP); a Choleg Gwyddor Seicic (CPS).

Casgliad y llyfr yw mai mudiad oedolion ifainc dosbarth canol addysgiedig oedd y Gymdeithas rhwng 1962 a 1992, proffil sy'n gyffredin i lawer o fudiadau ymgyrchu eraill; yn wir, un o gryfderau'r astudiaeth hon yw'r modd y defnyddir astudiaethau ar fudiadau megis CND a Chyfeillion y Ddaear i oleuo datblygiad y Gymdeithas a'i rhoi hi yn ei chyd-destun fel mudiad pwyso.

(ii) Ieithyddiaeth Ddisgrifiadol, yn canolbwyntio ar ddadansoddi a disgrifio'n syncronig, hynny yw, mewn cyfnod arbennig neu, nodweddion ieithoedd unigol, gan gynnwys iaith ardal (tafodiaith) neu ddosbarth arbennig neu hyd yn oed iaith unigolyn (idiolect); (iii) Ieithyddiaeth Gymharol, yn cynnwys cymharu dau gyfnod yn hanes un iaith neu'r berthynas rhwn nifer o ieithoedd; astudiaeth hanesyddol, ddeiacronig y gelwir y math hwn o waith ieithyddol; (iv) Ieithyddiaeth Gymwysedig.

Astudiaeth o waith John Davies o Fallwyd.

Dylai unrhyw fenter newydd gynnwys astudiaeth o: sut i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg a chyfathrebu i'r pentrefi ac hyd yn oed fel Canolfannau Busnes i ddatblygu mentrau newydd; a sut y gallai grwpiau o ysgolion bach cyfagos gydweithio er mwyn cynnig profiadau addysgol eang a chyffrous i'r disgybl.

Cydnabuwyd ysgolheictod yn ei gyfanrwydd yn un o'r angenrheidiau pennaf yn natblygiad y dosbarth tirol, a'r prif gwrs astudiaeth a gymeradwywyd yn ôl traddodiad oedd rhethreg, mathemateg, seryddiaeth, barddoniaeth, prydyddiaeth, hanes, a gramadeg.

ôl safonau'r llu gwyddorau sy'n cyfrannu tuag at astudiaeth o amgylchedd tanfor.

Arholi'r sawl a fynnai basio'n gapten neu fet yn Lerpwl oedd gwaith Towson, ac yr oedd gando ddiddordeb mewn datblygu astudiaeth wyddonol o fordwyo.

Astudiaeth fanwl o'r corff dynol fu ein tasg am y ddwy flynedd gyntaf a golygai hynny ein bod yn treulio tri mis llawn efo gwahanol rannau o'r corff.

Astudiaeth o ddatganoli o safbwynt Cristnogol.

Mi wn fod hyn yn nodweddiadol o'r rhan fwyaf o lyfrau otograff, ac y gellid gwneud astudiaeth hir o'r cynnwys a gweld oddi wrtho gymeriadau'r rhai a'u llanwodd.

(c) Astudiaeth o Ynni Adnewyddol yng Ngwynedd CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio.

Byth oddi ar amser cyfraniadau nodedig Johannes Weiss ac Albert Schweitzer at yr astudiaeth o Iesu Hanes bu'n rhaid i'r ysgolheigion hynny a fu'n credu fod yr astudiaeth yn debyg o ddwyn ffrwyth dderbyn y gwirionedd nad oes fodd deall pwrpas a gwaith yr Iesu heb roi lle canolog i'w ddisgwyliad eschatolegol.

(b) Dyluniad Cartrefi yng Nghymru Wledig Astudiaeth Ymchwil y Cyngor Cefn Gwlad CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio y derbyniwyd yn ddiweddar gopi o'r adroddiad uchod gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru gyda chais am sylwadau'r Cyngor arno.

Nid yw'n fwriad penodol, felly, i drafod rhagoriaethau a ffaeleddau un sir ond yn hytrach i gyflwyno casgliadau cyffredinol a gododd o'r astudiaeth ac sydd yn berthnasol y tu hwnt i Wynedd, ac mewn rhai achosion, y tu hwnt i Gymru.

Astudiaeth o greu polisïau ac adfywiad iaith.

Cofiaf Dr Jamieson unwaith yn rhoi gwers i ni ar y rhannau o'r benglog ac roedd yr astudiaeth ar rannau esgyrniog ohoni yn un bur fanwl.

Astudiaeth o fywyd a gwaith John Davies o Fallwyd.

Astudiaeth o ffonoleg a morffoleg iaith lafar Brycheiniog.

Ar sail astudiaeth o'u llenyddiaeth, ceisir disgrifio'r gorffennol mewnol hwnnw y gellir ei enwi yn feddwl a dychymyg.

Mae hi hefyd yn astudiaeth seicolegol o unigrwydd ac o golled.

Dengys yr astudiaeth fod hanner y troseddwyr wedi'u dedfrydu i alltudiaeth am saith mlynedd, a chwarter ohonynt i alltudiaeth am oes.

* cwblhau astudiaeth achos/ffurflen talfyriad lleoliad.

Astudiaeth o waith y llysoedd yng Nghymru yn ystod yr oesoedd canol.

Dyma'r cyfnod pan berchid astudiaeth drylwyr o hanes yn gyfrwng ynddo'i hun i ddeall sut y dylid llywodraethu'n ddoeth a chyfiawn.

Mae astudiaeth o ystadegau cenedlaethol yn symleiddio'r dulliau o amaethu sy'n bodoli mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.

Ceisia gyfleu ei deimladau i aelodau eraill y grūp ond eu hunig ymateb yw mynnu bod yr amser am emosiwn heibio ac mai'r hyn sydd ei angen yn awr yw strategaeth a chanllawiau pendant ac astudiaeth o wleidyddiaeth, nid datganiadau o dristwch neu ddicter na hyd yn oed o lawenydd.

Astudiaeth o waith yr awdur Robin Llywelyn.

Ceir disgrifiadau manwl yn adroddiadau swyddogol y cyfnod, a hefyd mewn llyfrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, megis llyfr ardderchog Robert Hughes the fatal shore, ac o diddordeb arbennig i ni'r Cymry astudiaeth fanwl Deirdre Beddoe o hynt a helynt y carcharorion benywaidd o Gymru, Welsh Convict Women, a llyfr Dr Lewis Lloyd, Australians from Wales.

Gellir ei ymgeleddu'r mis hwn, ond haedda astudiaeth arbennig.

Astudiaeth o gyfeiriadau at Arthur mewn llenyddiaeth ganoloesol.

Ychydig a gyhoeddwyd o'r safbwynt cymdeithasegol yn Gymraeg, on un enghraifft yw astudiaeth Dr R.

Byddai'r astudiaeth hon yn cadarnhau barn Morgan fod fersiwn cyfiaith o'r Ysgrythurau lawn mor bosibl yn y Gymraeg ag mewn unrhyw iaith arall.

Astudiaeth o berthnasedd neges ysbrydol y saint i'n bywydau ni heddiw.

Aeth nifer helaeth o'r bonedd ati nid yn unig i ddarllen hanes ond i'w ysgrifennu hefyd, ac yn araf tyfodd diddordeb brwd mewn bywgraffyddiaeth, ac ymddangosodd hwnnw un ai yn astudiaeth o berson gwrthrychol neu yn gronicl o deulu neu ardal arbennig.

Y mae'n galw am astudiaeth fanwl o'r broses o gynhyrchu i benderfynu ar sail i'r dosrannu.

* Anfonwch yr astudiaeth achos/talfyriaf lleoliad at bawb sy'n gysylltiedig â'ch lleoliad

O gychwyn a'r safbwynt hwn, cam hawdd oedd datblygu system o nodau tymor-byr, y naill yn adeiladu ar sail yr un blaenorol, a phob un yn gyraeddadwy ar ôl cyfnod cymharol fyr o astudiaeth, a allai amrywio o ran hyd, adnoddau, gallu'r dysgwr, etc.

Beth a geir yn y gyfrol newydd yw cyfres o astudiaeth cydberthynol ynghylch daliadau Llwyd a'r dylanwadau a fu arno.

Y llynedd cefais innau flwyddyn Sabothol, a threuliais hi yn dechrau darllen ar gyfer astudiaeth arfaethedig o ddylanwad y Beibl ar lenyddiaeth Gymraeg y canrifoedd modern.

Cyfeddyf, er hynny, fod athrawiaeth Maurice Barres nad yw llawn dwf yn bosibl i'r unigolyn heb ymgymysgu a chymdeithas, 'yn deilwng o astudiaeth fanwl yn enwedig i ni genedlaetholwyr.

Gall astudiaeth o baill o'r mawn ddangos inni yn union sut blanhigion dyfai mewn gwahanol gynefinoedd filoedd o flynyddoedd yn ôl (gw.

Yn y flwyddyn o'n blaen gobeithiwn gyflogi ymchwilydd annibynnol i wneud astudiaeth fanwl o anghenion tai CiF.

Astudiaeth o waith un o arlunwyr amlycaf Cymru heddiw.

Ceisiwch wneud astudiaeth fanwl o adar arbennig megis aderyn y tô a'r drudwy.

Ac megis yn ei waith yntau, adferir Erging ac Ewias i Gymru yn yr astudiaeth bresennol.

Astudiaeth o holl ymgyrchoedd milwrol Cesar yn erbyn y Celtiaid ym Mhrydain, Ffrainc a'r Almaen.

Hwyrach mai'r enghraifft fwyaf gwiw o'r peth ydyw astudiaeth Saunders Lewis o Williams Pantycelyn, lle y gwelwyd tipyn o ddylanwad Freudiaeth.

Waeth sut afon yw hi, bydd eich afon neu nant leol yn debyg mewn sawl ffordd i Afon Conwy yng Ngogledd Cymru, yr afon a ddefnyddir yn yr astudiaeth achos yn yr adran ar Afonydd yn y Tirwedd.

Bwriad eu taith oedd cyflawni astudiaeth ddaearyddol o ardal Abertawe a'r cylch, lle roeddent yn lletya.

talfyriad lleoliad/astudiaeth achos

Tuedd y rhan fwyaf o lenorion Lloegr, hyd at yr Oes Ramantaidd, fu ystyried fod popeth Groeg a Rhufeinig yn rhwym o fod yn well na'r dulliau brodorol; ond yr oedd y Cymry, mewn cyferbyniad, yn dueddol o edrych ar farddoniaeth Gymraeg fel traddodiad clasurol arall, a oedd yn llawn mor hynafol yn ei wreiddiau, yn llawn mor gaeth a ffurfiol, an yn llawn mor deilwng o barch ac astudiaeth â'r traddodiad Groeg a Rhufeinig.

Yr agwedd hon tuag at archaeoleg môr sydd wedi lledaenu gorwelion yr astudiaeth a dwyn dimensiwn newydd i statws y maes.

Astudiaeth o effaith dyn ar dirwedd Eryri yn ystod y 6000 o flynyddoedd diwethaf.

Oswald Williams) gyfle iddo broffwydo y gallai'r astudiaeth 'godi to o feddylwyr yn ein plith a'n dwyn yn ôl o grwydro dibwrpas ein cyfnod'.

(Nid y peth lleiaf yng nghynhysgaeth feirniadol Mr Thomas yw ei wybodaeth o lenyddiaeth Saesneg y cyfnod ar ei hyd: mae yma ym Mhennod II astudiaeth gymharol rhwng Henry Vaughan a Morgan Llwyd sy'n berl.)

Cen Williams Mae'r Coleg yn cynnig cyfres o ddiplomau i athrawon uwchradd a chynradd mewn amrywiol feysydd astudiaeth gan fod yr athrawon hynny wedi mynegi awydd am gyrsiau a fyddai'n datblygu eu harbenigedd ac yn cynnig cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.

Gwaith grŵp Astudiaeth annibynnol gyda chefnogaeth Gwaith project Gwaith arbrofol Datrys problemau Dysgu yn Gymraeg

Astudiaeth o ddarnau arian Celtaidd, gyda ffotograffau du-a-gwyn.

Yn anffodus ni fu'r prif noddwr arall, yr Awdurdod Datblygu mor barod i ymateb yn gadarnhaol a'r Cyngor ac o ganlyniad cafwyd oedi cyn medru gwneud yr astudiaeth.

Astudiaeth o goeden arbennig sydd yma, ond cyfleir rhywbeth o dynfa'r tirlun cyfan.

Dadlennai astudiaeth o hanes liaws o enghreifftiau o'r bywyd da ac hefyd o'r bywyd gwael a diffrwyth.

Yn y cyfrwng hwn yn union y daeth T Gwynn Jones i'r maes gyda'i astudiaeth o Rieingerddi'r Gogynfeirdd, a chan dderbyn rhai o awgrymiadau'r ysgolheigion a fu'n gweithio ar Ddafydd ap Gwilym a gwrthod eraill ohonynt, ceisiodd ddangos fod yn y 'rhieingerddi' yr un math o farddoniaeth ag a geir yng ngwaith y Trwbadwriaid, a bod rhai o arferion y Trwbadwriaid gan y beirdd Cymraeg.

Y gwir yw fod cyfeillach Northampton yn bygwth datblygu'n rhywbeth mwy na chylch trafod oherwydd ar ôl yr astudiaeth Feiblaidd âi'r brodyr ymlaen i ystyried unrhyw lithriadau moesol neu wendidau ysbrydol a geid ymhlith y clerigwyr.

Gwnaeth Gal astudiaeth ar ddefnydd iaith ymhlith siaradwyr/-wragedd Hwngarian yn Oberwart yn Awstria.

Nid dilyn trefn lyfrol, gronolegol y mae Wynn Thomas yn ei astudiaeth newydd.

Yn gyffredinol ystyrid fod tri phwrpas i unrhyw astudiaeth o hanes - a) Rhoi gwybodaeth am ragluniaeth Duw.

Ymysg y prosiectau a gymeradwywyd gan Bwyllgor Monitro Rhaglen Dyfed,Gwynedd, Powys yw'r prosiect hwn ac felly yn dilyn ystyriaeth bellach yr wyf yn falch o ddweud fod y problemau hyn wedi eu goresgyn ac y bydd yr astudiaeth yn mynd yn ei flaen yn awr.

Am y bedair blynedd ddiwethaf bu'r Boda Tinwen, un o'r adar harddaf a mwyaf prin yng Nghymru, yn destun cynllun astudiaeth ar y cyd rhwng y Gymdeithas er Gwarchod Adar a'r Cyngor Gwarchod Natur.

Testun yr astudiaeth hon yw'r cyfnod diweddar mewn barddoniaeth Gymraeg, a'r beirdd a gaiff y sylw mwyaf ynddi yw T Gwynn Jones, D Gwenallt Jones a Saunder Lewis.

Astudiaeth o fywyd a gwaith un o ffigurau'r ddeunawfed ganrif.

Codai egwyddor 'reserve' yn naturiol allan o astudiaeth y Tractariaid o weithiau'r Tadau Eglwysig, sef cadw'n ôl y gwirionedd mwyaf cysegredig a dirgelion y Ffydd hyd nes y byddai'r 'dysgwyr' yn y Ffydd Gristnogol wedi gorffen eu cwrs o hyfforddiant ac wedi'u dangos eu hunain yn gymwys i'w derbyn.

Astudiaeth o'r berthynas rhwng rhywioldeb ac ysbrydolrwydd.

Anatomeg, fel y nodwyd eisoes, y gelwir y maes sy'n astudiaeth o ffurfiad y corff, ond Ffisioleg y gelwir y maes ynglŷn â sut mae'r corff yn gweithio ac fel sail addysgol i bob darpar feddyg mae'n ofynnol iddo ddod i adnabod gwedd a gweithgaredd y corff dynol yn llwyr.

Cynigir rhagymadrodd sydd fwy neu lai yn astudiaeth drylwyr ond dealladwy dros ben serch hynny, o dri o Anterliwtiau Huw Jones o Langwm.