Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atal

atal

Y bilsen atal cenhedlu ar gael am y tro cyntaf.

Dyma'r adeg, felly, i geisio atal crach drwy eu chwistrellu â deunydd cemegol pwrpasol.

Cefais lonydd i gilio i'r coridor tywyll wrth ymyl y gegin, i atal y ffrwd o'm trwyn ac i lyfu 'nghlwyfau.

Awdurdodau Coleg Aberystwyth yn atal y cylchgrawn Y Wawr oherwydd ei ferniadaeth ar y Rhyfel.

Atal y wobr.

Dylid bod wedi atal y Gadair yn hytrach na gadael i gynganeddwr carbwl ac anystwyth fel D. Cledlyn Davies ennill.

Roedd Mr Godfrey wedi addasu adeilad pren ar ei dir ym Moelfre, ger Abergele, i fod yn stiwdio gerdd gan gynnwys rhoi defnydd i atal swn ynddo.

Sae'r Gymdeithas o'r farn bod ystyried materion sy'n ymwneud ag atal damweiniau Sn rheolaidd a systematig yn hanfodol i gynnal gweithgareddau'r Gymdeithas mewn modd effeithiol.

'Mae Mario Veit wedi bod i'r sgwâr ryw 30 o weithie, o'dd e eriôd wedi colli a wedi atal 18 o'i wrthwynebwyr.

Y mae'n amlwg bellach fod trafod cyhoeddus ar bynciau fel puteindra, atal cenhedlu a chlefydau gwenerol yn bur gyffredin yn y ganrif ddiwethaf.

Un o brif amcanion Polisi Diogelwch y Gymdeithas yw atal tân yn effeithiol.

Ni all na charchariad na marwolaeth atal ein buddugoliaeth yn y pendraw.

trwy anfon ergyd o gerrynt ar yr adeg cywir, gellid argraffu unrhyw lythyren ddewisiedig heb orfod atal symudiad cyson yr olwyn.

Nid oedd dim yn y ddeddf hon i atal unrhyw un rhag symud gwrthrychau o longddrylliad hanesyddol neu achosi difrod difrifol cyn belled ag y byddai ef neu hi yn rhoi gwybod am y darganfyddiadau i'r Derbynnydd Llongddrylliadau lleol.

Mae'r term hefyd yn cynnwys unrhyw ddisgybl gydag anabledd sy'n ei atal ef/hi rhag defnyddio'r cyfleusterau addysgol a ddarperir mewn ysgolion.

Yn anffodus nid yw dy waedd yn atal y fwyell rhag disgyn, ond yr oedd yn ddigon i wyro ergyd y cigydd.

'Roedd y glowyr yn ceisio atal 'cynffonwyr' rhag torri'r streic; ymoso~odd-yr heddlu yn wyllt ar y picedwyr, gan bwnio un ohonynt yn gelain.

Llwyddais i'w atal heb lawer o ddychryn.

Ni fydd cyfnodau o orffwys rhwng dau gyfnod gwaith ar yr un ymrwymiad yn llai na deuddeng awr fel arfer, heblaw am achosion o argyfwng fyddai'n atal cwblhau'r gwaith a rhoddir ystyriaeth lawn i'r pwysau gormodol a allai fod ar yr Artist o ganlyniad i gwtogi ar y cyfnod gorffwys.

Fodd bynnag, un o'r rhwystrau pennaf sy'n atal datblygiad addysg Gymraeg ac sy'n arafu adfer yr iaith yw diffyg cymhelliant ac ewyllys.

Milwyr Prydeinig yn mynd i Kenya i atal terfysgwyr y Mau Mau.

Pan dynnwyd sylw'r gwleidydd dylanwadol, Iarll Leicester, un o noddwyr y Piwritaniaid, at yr hyn a ddigwyddodd yr oedd yn bur ddig a mynnodd gan yr esgob atal ei law.

Yn ôl rhai sylwebyddion gallai Twrci ddefnyddio argae Ilusu fel arf wleidyddol drwy atal llifr afon Tigris i Irác a Syria.

Ystyrir atal y dirywiad hwn, a'i wrthdroi lle bo hynny'n bosibl, yn flaenoriaeth.

Ymgyrch atal AIDS yn cychwyn.

"Dyn ta dynas?" Heb fedru atal ei chwilfrydedd ddim mwy.

Gae'r Gymdeithas yn bwriadu, trwy gynnal arolygon diogelwch, gwell Qweithdrefnau, hyfforddi a rhagweld synhwyrol gan reolwyr a gweithwyr i wneud cyfraniad sylweddol at atal damweiniau.

Mae pob cymdeithas sydd â grym deddfu yn deddfu ar yr hyn sydd yn bwysig iddi -- i geisio annog yr hyn sy'n werthfawr a cheisio atal yr hyn sy'n ddinistriol -- yn ôl ei gwerthoedd ei hun.

Honnai'r naill blaid a'r llall fod y gwrthwynebwyr yn atal papurau cyfreithiol oddi wrth ei gilydd.

Pan ddaeth Bowser i wybod am hyn gwnaeth bopeth a fedrai i'w atal a hyd yn oed garcharu'r ferch yn ei hystafell wely am gyfnod a dywedir i Jasper, y ci, fod yn llatai ar adegau, i gario negesau rhyngddynt.

Ar brydiau, pan oedd y stêm yn isel, fe stolid (atal), y peirianwaith, gan ddal platen yn dynn yn y rowls, ac ni ellid ailddechrau'r peirianwaith heb ryddhau'r pinnau a ddaliai'r blaten yn y rowls.

Roedd yn greadur gwreiddiol, ac er bod atal dweud arno, roedd ganddo dduU unigryw a doniol o areithio'n gyhoeddus.

Ond nid oedd y rhesymeg hwn yn atal arweinwyr yr Ymneilltuwyr rhag credu fel yr Eglwyswyr, fod yn rhaid i'r dosbarth gweithiol Cymraeg ddysgu Saesneg.

Y peth gwaethaf am y cyfan ydi na wn i na neb arall beth sy'n sgrechian, heb sôn am sut i'w atal.

Clywodd y llys ei fod wedi caniatau i fandiau roc ymarfer yno er fod Cyngor Conwy wedi cael gorchymyn llys yn Awst 1998 i'w atal rhag creu swn.

Arwyddocâd hyn yw fod gwaith mawr yn ein haros i dorri trwy'r rhwystrau meddyliol a chymdeithasol sy'n atal Cristionogion yn gyffredinol rhag mabwysiadu safbwynt sydd mor amlwg gyson â dysgeidiaeth Iesu Grist.

Bu ymdrech i atal y llygredd sydd wedi bod yn difetha nifer o'r hen adeiladau.

Mae i hyn oblygiadau ar ddatblygu economaidd, a cheir dadl gref dros fuddsoddi mewnol sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, am ei fod yn dileu rhwystrau ffisegol pellter a all atal buddsoddi.

Atal beichiogi sy' yn Llys Abar rhwng y Dafydd yna a'r hogan De Breos.

'Roedd atal y Gadair a'r Goron yn broffwydol o feddwl fod cenhedlaeth arall ar fin cael ei haberthu ar allor Rhyfel.

Mewn llythyr at Nick Bourne AC (Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad) mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Torïaid i atal eu rhagrith o roi cefnogaeth mewn geiriau i ysgolion gwledig tra bod eu polisïau yn eu tanseilio.

Mewn ymgais i atal y Palestiniaid rhag manteisio ar gyfnod o ryfel i greu rhagor o helynt, cafodd pawb ar diroedd y meddiant eu cyfyngu i'w cartrefi am bedair awr ar hugain y dydd, am ddyddiau ar y tro.

Ac fe gyhoeddwyd llythyr Vincent o fewn ychydig wythnosau i'r Eisteddfod yn y Royal Albert Hall lle llwyfannodd y Cymry eu teyrngarwch diarhebol gerbron Tywysog Cymru a'i deulu, lle cadeiriwyd Berw am awdl i Victoria a lifeiriai o edmygedd a diolch, lle bu Henry Richard AS, a 'savants' cyfarfodydd y Cymmrodorion, yn sicrhau pawb o fewn clyw na châi'r Gymraeg atal llanw'r Saesneg.

Callai ofn bod ar y fath gofrestr atal menywod rhag mynd at yr heddlu.

Ni allai atal ochenaid.

Y man cychwyn yw'r brwydrau i atal cau ffatrïoedd.

'Williams,' meddai yntau, 'gwell yw i chwi atal eich tafod, onide rhaid i chwi gymryd y cwbl.' 'O'r gorau, syr, gwnewch felly,' ebe finnau.

Ein gobaith yw y bydd i'r ddarlun hon o Gymru 2000 sbarduno'n pobl i weithredu i atal y tueddion hyn a chreu dyfodol newydd i'n gwlad.

Ond doedd ychydig fodfeddi o eira ddim yn atal y criw plant rhag mynd o gwmpas i ganu eu carolau.

Os gwelaf, ar ôl imi gael amser i ystyried y mater, mai fy nyletswydd ydyw aros yma, mi rof fling bythol i'r pregethu; ond os fel arall, ni all dim fy atal rhag mynd yno.

A'r iaith Gymraeg yn y blynyddoedd hyn yn ymladd am ei bywyd, mae pob Cymro ystyriol o'r farn fod angen gweithredu'n ddiymdroi i atal unrhyw ddirywiad pellach.

Roedd ei bris yn atal ei werthu hefyd.

Profodd byddin yr heddlu yn rhy gryf iddynt, ond pan oedd y seremoni yn dechrau ni allai neb na dim atal eu rhuthr i lawr y llethrau i dynnu'r pafiliwn i lawr a dinistrio'r seremoni.

Un peth arall a ddisgyddodd oedd i'r brifathrawes atal yr holl ysgol ar ddiwedd un prynhawn pan oeddynt yncanu'r emyn 'Now the day is over' a galw ar uchaf ei llais 'Mair Gregory will you sing!' Sut y gallwn i heb wybod y geiriau!

Mae tynged yn rhyfedd weithiau yn atal yr had!" Rhy wir, meddyliodd Elystan.

Soniodd am ffyrdd ymarferol o atal troseddau.

Fel y cofiwch, pan geir deuddeg pwynt, gellir atal trwydded yrru am gyfnod hyd at chwe mis.

Aelodau Seneddol yn pleidleisio i atal crogi.

Nid yw Banc y Byd wedi gweld ei ffodd yn glir i gefnogi'r cynllun am ei fod yn credu fod y cynllun yn torri rheolau'r Cenhedloedd Unedig sy'n ceisio atal gwrthdaro rhwng gwldawriaethau sy'n rhannu adoddau dŵr.

Cyfeiriodd y cwynwr hefyd bod cytundeb ar y cyfan o dai'r ystad yn atal unrhyw ddatblygiad a fyddai'n amharu ar ddeiliaid eraill yr ystad.

gan nad oedd angen atal ac ail-gychwyn yr olwynion wrth argraffu pob llythyren, fel ym mheiriant house, nid oedd peiriant hughes yn defnyddio gymaint o gerrynt, ac o'r herwydd, yr oedd yn bosibl ehangu'r pellter rhwng dwy orsaf delegraff cyn fod y cerrynt wedi gwanhau'n ormodol.

Ei anfon i beintio drysau a llidiardau i atal rhwd ac i harddu'r ffarm.

Mae rheidrwydd cyfreithiol ar wasanaeth erlyniad y wladwriaeth i atal cyhoeddi'r papur newydd, ond nid yw wedi gwneud hynny.

cryfhau statws cynllunio'r iaith Gymraeg gan felly atal y tueddiad i benderfyniadau lleol gael eu gwyrdroi gan Apeliadau i'r Swyddfa Gymreig.

Ar yr un pryd, ceisiwyd atal llif y twyni trwy'u hamdoi a changhennau coed bythwyrdd, a'u plannu â moresg a thyweirch o laswellt ochr-lôn.

Roedd e'n benderfynol nad oedd ei ddamwain yn mynd i'w atal rhag parhau â'i hobi - dringo mynyddoedd.

Gydag ymdrech enfawr, llwyddodd i atal y geiriau aflednais rhag llifo o'i enau a bodlonodd ar edrych yn fileinig ar y swyddog ifanc.

Ond, fel yr âi'r oriau yn eu blaenau, ni allai atal ei siom.

Beth bynnag am hynny, tywydd oer yr hydref sydd yn atal aeddfedu'r mwyar hwyr, ond cyn hynny ceir dau benllanw o ymborthi arnynt.

Y mae hi mewn perygl o droi'n wlad gref a gwahanol, ac felly rhaid cynllwynio i atal hyn, a honiad un o'r cythreuliaid yw ei fod wedi rhoi'r syniad ym mhen y Llywodraeth bod yn rhaid dyfeisio cyfundrefn o addysg (t.

Un gred gyffredin yw fod gosod penglogau o dan loriau eglwysi yn fodd i atal atsain, ond y mae'n bur debyg mai ymgais crefyddwyr yw'r gred hon i geisio cyfiawnhau hen arfer gyn-Gristnogol.

Mae'n gychwyn pwysig i'r diwrnod a gall eich atal rhag bwyta yn nes ymlaen yn y bore.