Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atat

atat

Gweddi: Dyrchafwn ein llef atat Ti, ein Tad, mewn ymbil tros ieuenctid Cymru.

Pan fydd y cawl yn barod bydd eisiau gwahodd y Coraniaid draw atat.

Cyn it i gael amser i ymddiheuro, i esbonio nac i raffu celwyddau, cwyd yr hen ŵr ei fraich â'i law agored tuag atat.

Wedi dychryn mae e Aeth Mali, ei fam, i'r Infirmary neithiwr.' Ni bu ganddi erioed awydd na dawn i siarad â phlant bach lleiaf y Teulu, ond nawr roedd Amser ei hun fel pe bai wedi sefyll o'i chwmpas a chlywodd ei llais ei hun yn cysuro'r un bach: 'Mae popeth yn iawn, Robin, bydd dy fam yn dod 'nôl atat cyn bo hir.

Am eiliad fechan rwyt yn credu dy fod wedi llwyddo ond yna fe weli'r creadur yn symud - yn symud tuag atat.

Ond y mae yna amod." "O, beth ydi'r amod?" "Dy fod ti'n rhannu'r cyfrifoldeb efo fi." "O Alun, rydw i'n synnu atat ti, yn gofyn imi dy briodi di yng ngŵydd dy fam fel hyn." "Wnei di?

Er gwaethaf drewdod y llygoden a'i hymdrech i gosi dy drwyn, llwyddaist i gadw'n hollol lonydd wrth i un o'r milwyr gerdded atat.

"Dacw fe, draw fan acw!" Rwyt yn troi ac yn gweld yn agos i ddwsin o'r pentrefwyr yn rhuthro tuag atat.

Cwbl nodweddiadol o fyrbwylltra Pedr yw ei gais, yn yr Efengyl yn ôl Mathew: Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau, ac iddo, wedi cael caniatâd, ddechrau cerdded ar y tonnau nes iddo edrych ar rym y gwynt yn lle ar ras y Gwaredwr ac o ddechrau suddo, gweiddi: A Arglwydd, achub fi.

Ond trown atat yn hyderus, canys buost trwy'r oesoedd yn noddfa rhag y dymestl i'th bobl.