Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ateb

ateb

O ran cythreuldeb (cewch weld mewn eiliad paham y dywedaf 'o ran cythreuldeb') âi Jane, fy ngwraig, i ateb y ffôn; yn ddi-ffael dywedai Dr Kate, 'Dydw i ddim yn eich clywed chi.

Er mawr syndod i Lludd, roedd yn ei ôl yn Llundain gydag ateb Llefelys ymhen wythnos union.

Fe gawn ni'r ateb i'r ddau gwestiwn yna o fewn yr wythnosau nesa.

Meddai, mewn ateb i Gwilym R.

Ymhlith y rhai fu'n cynnig ateb y cwestiwn oedd y seiciatrydd Dr Dafydd Huws a gynigiodd sawl math o berson, gan gynnwys yr ysgolfeistr a'r actor.

Mae o wedi gofyn eilwaith ac mae o'n disgwyl ateb y bore ma.

Ateb y Beibl yw, i wasanaethu Duw ac i'w ogoneddu yn ein holl weithgareddau.

Mae'r ateb yn syml - y pentrefwyr eu hunain ddylent benderfynnu ar bwysigrwydd yr ysgol i'w cymuned.

mam yn ateb eto, "Ar y silff ganol efo crysau'r hogiau Charles".

Daeth yr ateb lawn mor gyflym.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, y gwir ddewis yw rhwng ymateb yn gadarnhaol i'r newidadau hyn gan ddatblygu'r ysgolion mewn dulliau cyffrous newydd i ateb gofynion yr oes newydd neu i ymateb yn negyddol a chaniatau i'r 'problemau' ein trechu ni.

Ond yr un ateb gaf i ran amlaf: 'Dim arian ar hyn o bryd; rydych eisoes wedi cymryd mwy na'ch siŵr.' Gobeithio y bydd gen i ddigon o arian i dalu am hwn.

Mae'r ffordd o ateb y cwestiynau hyn wedi newid yn gyfangwbl yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Na, rydw i'n dal i gael rhyw, oedd ateb Michael Schumacker pan ofynnwyd iddo a oedd wedi dechrau chwarae golff.

"Stwffia Carol,' oedd ateb Guto.

Mae cwestiwn dylanwad yn rhwym o wynebu unrhyw hanesydd llên sy'n ymwneud â'r 'rhieingerddi' ac nid yw'n syn ei gael yn dangos yr un math, onid yr union un gochelgarwch â T Gwynn Jones wrth ei ateb.

Bu gwraig y Gweinidog Wesle yn ddigon diniwed i ofyn, "Pa bryd gaf fi lo, Mr Thomas?" A'r ateb!

Ar Sadwrn diwedthaf fei gwelwyd nid yn unig yn dangos cystal chwaraewr yw o gael y blaenwyr iawn o'i flaen ond hefyd yn ateb y beirniaid hynny syn ei gyhuddo o fod yn swil i daclo.

Ond ymlaen yr aeth y cynnig, a'i gario'n eithaf rhwydd: ùsiaradodd Gerallt Jones wrth ei gynnig, ond eilio'n ffurfiol a wneuthum i, gan fwriadu siarad yn ddiweddarach pe gwelwn fod angen ateb unrhyw ddadl: ond ni fu angen.

Gwastraff amser ydi'u hanner nhw, ond mi fyddaf i'n ateb bob un, ond byth yn cytuno i fynd i unlle heb gael sgwrs ar y ffôn â'r dyn y pen arall yn gyntaf.

Gwylltio efo un dosbarth oedd yn cau ateb cwestiynau.

A dydi'r ffaith mai Dafydd Wigley neu Ron Davies fyddai'n bennaeth ar y Quangos hynny ddim yn gwarantu y byddai'n ateb y broblem.

Yna elai'r gof ati i dorri hyd yr haearn i ateb yr olwyn.

Mewn theori mae tâp fideo - recordio lluniau teledu ar dâp electro-magnetig i'w chwarae yn ôl trwy gyfrwng recordydd ar sgrîn deledu - yn ateb yr holl broblemau hyn.

"Ma gyno fo ishio llonydd i gal 'i ginio fel chitha y dwrnod o'r blaen!" oedd yr ateb a gafodd.

Mae David Griffiths wedi dadlau bod yr Adroddiadau wedi codi nid yn unig yn ateb i gais Cymro o aelod seneddol dros Coventry, William Williams, ond hefyd o fwriadau tu mewn i'r Llywodraeth ei hun, ac nad oedd Williams yn ddim byd ond offeryn yn eu dwylo.

A phan fydd un ohonynt yn holi lle mae'r 'bobl bach', yr ateb a roddaf yw na ellwch eu gweld - mae'n ddiwrnod rhy niwlog.

'Paid ti â gofidio am hynny,' oedd yr ateb swta.

Fuasai swyddogion Horeb yn caniata/ u?' A dyma'r hen frawd yn ateb ar unwaith â llawenydd y byddai popeth yn iawn, am iddo alw cyfarfod.

dim ond trwy gymhwyso'n syniadau i ateb anghenion darlithwyr, myfyrwyr a chyflogwyr cymru y daw llwyddiant.

"Mam," gofynnodd, "ydych chi'n meddwl bod rhinoserosys yn lecio rhinoserosys?" "Mae'n rhaid 'u bod nhw, 'ngwas i," oedd yr ateb, "neu fyddai 'na ddim rhinoserosys bach, yn na fyddai?" A dyna Sandra a Hubert wedyn.

Os deuai bwthyn anghysbell i'r golwg a hen wraig, neu gwr a gwraig oedrannus yn byw ynddo, fe fyddem yn canu tu allan a symud ymlaen heb aros am ateb.

Pan deimlodd yr ysfa i gael ci am y tro cyntaf, gofynnodd i Mam a Dad a gâi o gi bach fel anrheg pen-blwydd neu anrheg Nadolig, ond er crefu a chrefu, yr un oedd yr ateb bob tro.

Nid ei fod ar dân am ateb cwestiynau, nid ar unwaith beth bynnag.

Rheolwr Caerlyr, Peter Taylor, yw'r ateb dros dro i waeledd tîm pêl-droed Lloegr.

Ateb Mr S oedd na hidiai ef fotwm am y gyfraith gan fod achos Waldo mor amhoblogaidd ac na feiddiai Waldo ei amddiffyn ei hun mewn llys barn.

Nhad yn chwilio a chwilio, yna "Lle dudoch chi ma' nghrys i Jini?" Mam yn cymryd pwffiad oddi ar y pwmp oedd ganddi i'w helpu anadlu cyn ateb, "Wel, yn yr 'airing cupboard' Charles".

Dim ateb gan y lleill.

Bydd tocyn record punt i'r ateb agosaf.

Ar ôl ateb y ffôn, aethpwyd ymlaen â'r sgwrs fel pe na bai dim o bwys wedi digwydd.

'Mae 'na sach wen wedi'i chuddio yng ngwreiddiau'r goeden,' oedd yr ateb.

Ond dyna ddigon o ateb cwestiyne.

I rai mae'r ateb yn un digon hawdd.

"Hoff gennyf yw ateb y morwr hwnnw o Wlad yr Haf pan ofynnodd Coleridge iddo paham yr oedd wedi mentro ei fywyd i achub dyn na welsai erioed ac na wyddai enw na dim amdano : "Mae amcan gennym tuag at ein gilydd.' Meithrin yr amcan honno yw galwedigaeth greadigol dyn, ac wrth geisio gwneud byd teilwng o frawdoliaeth daw ef ei hun yn deilwng o'i fodolaeth.'

Ymddangosai pamffledyn Ieuan Gwynedd fel amddiffyniad wedi ei amseru'n berffaith i ateb ymosodiadau'r Dirprwywyr ar gymeriad y Cymry: 'Pe buasai yr Awdur yn gwybod pob gair a gynwysai yn adroddiad y Dirprwywyr', meddai'r Diwygiwr ym mis Ionawr, 'ni ysgrifenasai well ateb i'w cabldraethau ar wlad ei enedigaeth.

Yr ateb syml yw, nag ydyw.

Pe bai pobl yn dweud na fedrent ddarllen, byddai ateb parod ganddo, "Gofynnwch i wraig y llety ei ddarllen ichi.

Cyn i chi anfon eich cwestiwn, cofiwch y medrwch chi chwilio am yr ateb yn syth trwy edrych ar gwestiynau gan fyfyrwyr eraill.

Gwaetha'r modd, nid yw'n bosibl cael ateb i bob cwestiwn diddorol o?r fath !

Fe ddylai pobl wybod hynny cyn penderfynu bod rhyfel yn ateb syml i brif broblemau'r Dwyrain Canol.

Cyn mentro i ateb y cwestiwn yn fanwl, efallai y dylem ei osod yn ei gyd-destun.

Cytunwyd i'w holi â'r cwestiwn oesol, "A oes Duw?" Heb eiliad o betruster daeth yr ateb.

Yn sydyn, megis mewn ateb i'm myfyrdodau, agorodd y drws a chlywn ei lais yn galw: "Hylo 'ma!

Mi fydde hyn yn ateb pob math o brobleme.

Canodd y ffôn yn y cyntedd a rhedodd Ifor yn noeth i'w ateb.

Be ydi Madam Wen?' Ond cyn i ni ateb torrodd un o aelodau'r Bwrdd ar draws, 'Mr Llywydd.

Wrth gwrs y bydd yna gyrff canolog i gydlynu polisi a chyllidebau, ond cyrff i ateb gofynion y cymunedau fydd rheiny.

Mae pobl yn gofyn yn aml iawn, "Pam 'r ydych wedi ymdrechu mor galed i roi bywyd a gwedd newydd ­ Lanaelhaearn?" Credaf y gallaf roi crynodeb mewn dau baragraff fel ateb i hyn.

Rwy'n digwydd credu fod yn rhaid i gomedi sefyllfa fod a sefyllfa waelodol hollol ddigrif cyn i'r sgrifenwyr ychwanegu'r jocs, ac roedd Fo a Fe yn ateb hynny gyda gwrthgyferbyniad o Dde a Gogledd yn union fel y mae Yes, Minister yn defnyddio sefyllfa oesol Don Quizote/ Sancho Paza neu Sherlock Homes/Watson i greu digrifwch cyn gorfod creu'r episodau unigol.

Ni welodd fawr mwy ar ei thad gan iddo yntau dyfu'n gyw o frid ac ateb galwad y môr.

Ond nid yw Rosemary Butler wedi cydnabod nac ateb unrhyw un o'n llythyrau hyd yn hyn heb son am drefnu i'n cyfarfod.

Go brin y credodd y fanhadlen wrth grymu i'r glaw ac ildio i'r gwres y byddai ffurf ei thyfiant rhyw ddydd yn ateb gofynion gosodreg blodau mewn dosbarth nos!

Wedi mynd i ben uchaf y pentref heb i neb ddweud gair gofynnodd tad Ifan, 'A be sy'n eich pigo chi'ch dau 'te?' 'Gary Jones wedi bod yn plagio Dilwyn,' oedd ateb Ifan.

Gwr sydd wedi ateb dadleuon Dafydd Elis Thomas yn eglur yw'r Dr Dylan Phillips, ac mae'n werth darllen ei bamffled, Pa ddiben protestio bellach.

Pan holwyd ef sut y gallai hawlio llefaru o blaid y miliynau mudion yn India, ei ateb oedd, "Drwy hawl gwasanaeth".

'Dweud wrth yr heddlu siŵr iawn,' oedd ateb pendant Alun.

Hyn mewn ateb i 391 Awstralia yn eu batiad cyntaf nhw.

Ymddangosai mai'r ateb oedd cael rhediad o bibellau a'u gosod oddi wrth y rhan a oedd wedi ei neilltuo ar gyfer chwaraeon, mewn cornel o'r iard chwarae.

Dywedais nad oeddwn yn barod i ateb y cwestiwn.

Yr ateb yn bendant oedd 'Na!' Ar ol tipyn roedd llai a llai o bobl am gerdded ar fy nghyflymdra i.

Moelodd ei chlustiau fel petai'n disgwyl ateb.

Term aflednais braidd yw 'bardd eilradd', Rywsut nid yw'n ateb gofynion neb.

Yr ateb syml ydyw bod y golygydd wedi gofyn imi ddweud rhywbeth am ddylanwad miwsig arnaf fel bardd.

Pa ateb oedd i amheuon felly oddieithr ceisio ymwroli a chredu'r gorau.

'Tynnu cynffon cath, eich mawrhydi,' oedd ateb Delwyn.

Wedyn, pan oeddwn yn nofio yn y dwr y cefais yr ateb.

Mae'r ddadl hon yn un gref, ond buaswn i'n dadlau bod y Llywodraeth, os oedd hi'n chwilio am ateb i broblemau cymdeithasol Cymru, wedi gorffen trwy gael rhywbeth gwahanol a hollol anghyson â'i theithi meddwl.

Gofynnais iddo i ba gyfeiriad yr oedd yr orsaf, ond cefais ateb anniswyl iawn.

Y cwbl fydd yn rhaid i chi ei wneud yw ateb cwestiynau dros y ffôn ar y rhaglen ar fore Sadwrn.

Agorodd y drws yn araf, a cheisiodd gadw ei lais yn naturiol wrth alw "Meg!" Ond doedd dim ateb.

anodd ateb hwnna.

Cyn i Alun Michael gael cyfle i ateb neidiodd Helen Mary Jones i'r adwy.

Yr ateb yw, yn Iesu Grist.

Oedodd Mr Henrickse am eiliad cyn ateb.

Ni wn i beth yw'r ateb cywir i'r holl gwestiynau hyn (er bod gennyf syniad go lew) am nad oes neb yn eu gofyn; ond cwestiynau fel hyn sy'n rhaid eu gofyn os am sicrhau dyfodol i'n hiaith.

Mewn arolwg diweddar a wnaed o'r pwnc cododd Martin a Flemming y cwestiwn 'A yw eu darganfyddiadau yn rhoi hawl gwirioneddol i archaeolegwyr tanfor eu galw eu hunain yn archaeolegwyr?' Er mwyn ateb y sialens hon yn effeithiol rhaid pwyso a mesur y dulliau a ddefnyddir heddiw mewn archaeoleg môr yn ôl y meini prawf a dderbynnir gan archaeolegwyr modern, a hefyd yn

Y tro nesaf y byddwch chi'n crafu eich pen ac yn methu a dod o hyd i'r ateb, beth am fentro draw i'ch llyfrgell?

Tynhaodd y gêr mewn ateb i'r brathiadau.

Y diweddar Athro Charles Coulson, yn fwy na neb arall, a ddangosodd mor gyfeiliornus yw'r ateb yma.

Mi gei lonydd bellach." Pan oeddwn yn cael te y prynhawn hwnnw a minnau'n ceisio ateb cwestiynau Mam ynghylch yr ysgol a chelu oddi wrthi hanes yr ymladdfa, daeth cnoc ar y drws.

Ac wrth gwrs, mae ateb yr Iesu yn gyfarwydd i ni i gyd...

Yr oedd hi wedi sylweddoli erstalwm iawn nad oedd dim pwrpas dweud mai barn y rheithgor oedd yn bwysig ac nid ei barn hi, Yn ddieithriad, wedi iddi osgoi rhoi ateb pendant, y sylw wedyn fyddai, 'Ond rydw i am i chi gredu 'mod i'n ddieuog.'

Gan nad yw Ms Butler wedi ateb na chydnabod ein llythyrau mae'n rhaid holi nifer o gwestiynau poenus.

'Roedd yr EP, Yr Unig Ateb! gan Ty Gwydr ym 1990 yn gwbl wefreiddiol ond, yn naturiol, mae'r gerddoriaeth wedi dyddio erbyn hyn.

Ateb negyddol a roes i'w gwestiwn, yn gwbl resymegol felly, gan mai y Gymraeg oedd priod gyfrwng llenyddiaeth Cymru.

Edwards, mae'n siŵr y byddech, a chwithau'n un o ddarllenwyr diwylliedig Barn, wedi gallu rhoi rhyw lun ar ateb wrth ei gilydd - ond Carnhuanawc!

Bydd haneswyr y dyfodol yn gallu ateb y cwestiwn!

Pes anfonid i unrhyw swyddfa yn Whitehall neu yn Cathays Park, y mae'n fwy na phosib mai yn Gymraeg y deuai'r ateb.

Er hynny roedd yn gyson ei farn mai'r ateb delfrydol oedd addysg yn y ddwy iaith.

Yr hyn i'w gofio yw y gall prynu annoeth olygu eich bod yn llosgi eich bysedd yn ariannol a'ch bod hefyd yn difetha eich gwyliau os nad yw'r garafan yn ateb eich gofynion personol chi.