Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atebiad

atebiad

Haeddai sylw ysgafn atebiad ysgafn bob amser, ac yr oedd rhywbeth cyffrous-beryglus mewn chwarae deufel lafar gyda gwrthwynebydd mor finiog a chwim ei feddwl â Hywel Vaughan.

"Mae gan bobol Pen'sarwaen," medda fi, "gystal hawl â neb i wybod faint o ffordd sydd yna i Lundan." Doedd ganddo fo ddim atebiad i hynny, ond mi lloriodd fi hefo peth arall.

Ond mae Egwyddor Ansicrwydd Heisenberg yn cadarnhau yn awr beth mae'r seicolegwyr wedi ei wybod yn eu calonnau, er na allent ei ddatgan yn glir, sef na all dau berson fyth wneud yr un mesuriad a chael yr un atebiad yn union.

Peth arall a ystyrir yn sylfaenol yw, pe byddai un gwyddonydd yn gwneud un mesuriad mewn un labordy, ac un arall yn gwneud yr union fesuriad mewn labordy arall o dan yr union amgylchiadau, yna byddai'r ddau yn cael yr un atebiad.

Yn 'Atebiad y Golygydd i Lythyr Mr Saunders Lewis' yn yr un rhifyn cydnabu Gruffydd fodolaeth traddodiad ond fe'i cafodd ei hun yn anghydweld â diffiniad Saunders Lewis ohono.

Ces atebiad gyda'r manyldra mwyaf, gan un a ddylai wybod, sef Richard Williams, Tū Wian.

Sawl tro y ces i fy rhoi yn fy lle wedi i mi wneud sylwadau fel, "Ddim yn meddwl llawer o 'Pobl y Cwm' heno nhad," mi gawn yr atebiad "Pa bryd wyt ti am sgwennu pennod?" Wiw i mi chwaith ddweud fod actor neu actores ddim yn dda, neu mi fyddwn yn cael darlith am gynhyrchu drama deledu o'r top i'r gwaelod.

Anfonais ddegau o lythyrau i wahanol gwmniau llongau ond ni ddaeth yr un atebiad.

Dyma ychydig frawddegau o 'Atebiad' Gruffydd:

"Mae 'na ryw grinc yn y fan yma yn meddwl mai refferî ydy o." Wn i ddim beth gafodd o yn atebiad, ond tra oedd o wrthi'n malu felly, mi aeth yna ddau foto i wyneba'i gilydd.