Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atebol

atebol

Atebolrwydd: Mae'r Quango hwn fel pob Quango arall yn atebol i'r Swyddfa Gymreig trwy'r Ysgrifennydd Gwladol nid i bobl Cymru.

Gwnâi hyn ni'n fechgyn atebol ac iach ac roedd y fagwraeth weithgar a chaled a gawswn i, yn ddiamau, o gymorth mawr ar dreialon dygn fel hyn.

Dylai staff Bwrdd yr laith gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad gan fod yn atebol i'r Cynulliad trwy'r Fforwm laith Ddemocrataidd.

Mae BBC Cymru yn atebol i bobl Cymru.

Ystyriwn mai gwaith o natur cyhoeddus a wneir gan asiantau fydd yn ceisio am gomisiwn i roi gwasanaethau cymorth i ysgolion a cholegau unigol, megis hyfforddiant-mewn-swydd, ymgynghori neu arolygu (dan gomisiwn i SPAEM, i'r Cynghorau Cyllido neu i awdurdod lleol), gan fod y fath wasanaethau wedi'u cynnig hyd yn ddiweddar gan gyrff cyhoeddus, awdurdodau addysg lleol yn enwedig ac, yn achos arolygu ysgolion a cholegau, AEM a oedd yn atebol i'r Goron.

Ond roedd y chwilen ddþr wedi cael llond ei fol ar fod yn atebol i rai islaw ei sylw; er bod y rhain yn ôl pob golwg yn ddigon pwysig i gael mynediad i'r castell ac yntau ddim.

Am y tro cyntaf mi fydd y bobl yn y cyrff newydd yma yn atebol.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn uned o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn rhan o Awdurdod Iechyd Arbennig, sy'n atebol i'r Swyddfa Gymreig.

Geilw'r Pwyllgor am gadw addysg yn wasanaeth barhaus i blant, pobl ifanc ac oedolion, sy'n atebol i'r gymuned gyfan, sy'n cydnabod ei hanes a'i thraddodiadau ac sy'n fyw i'w dymuniadau a'i hanghenion ar gyfer y dyfodol.

Disgwyliwn i'r Cynulliad fod yn atebol i gymunedau Cymru gan gryfhau grym ein cymunedau i fod yn gymunedau rhydd gan felly fod yn hollol agored yn ei holl weithredoedd a datblygu perthynas ystyrlon rhwng haenau llywodraethol Cymru.

Ond, rhaid disgwyl y byddant yn atebol i gynllun iaith os ydynt yn darparu gwasanaeth trwy gytundeb uniongyrchol i gorff cyhoeddus sydd ei hunan yn gweithredu cynllun iaith statudol.

Disgwyliwn i'r Cynulliad gefnogi a gweithredu tuag at greu Trefn Addysg Annibynnol a Democrataidd i Gymru sy'n gyfundrefn addysg agored ac yn atebol i bobl Cymru.

Yr oedd Cyngor yn cynrychioli'r cyfundebau (sef y Cyfarfodydd Chwarter, i roi'r enw swyddogol arnynt) a hwnnw'n atebol i'r Gynhadledd.

Ac iddyn nhw, dydi bod yn atebol ddim hanner mor secsi â bod yn unben.

Ategu gwaith awdurdodau tai trwy ddarparu cartrefi o safon i bobl leol sydd ar incwm isel ar gost y gallant ei fforddio, boed ar rent neu ar gyfer prynwyr tro cyntaf, ynghyd ag ateb angen pobl sydd ag anghenion arbennig gan geisio gwneud hynny o fewn stoc bresennol yr ardal, yn y dull mwyaf effeithiol, efo gwasanaeth sydd yn atebol i'r defnyddwyr a'r cymunedau lleol gan rannu'r adnoddau'n deg rhwng gwlad a thref.

Bydd angen i chi drafod hyn gyda'ch pennaeth, rheolwr atebol neu gydgysylltydd datblygiad proffesiynol.

Rydym yn addo bod yn agored ac yn atebol.

* fod yn atebol iddo * dderbyn ei farn a'i feirniadaeth yn agored * fod yn gefnogol a hyblyg i gwrdd a'i anghenion unigol * gael eu gweld yn gefnogol iddo fel unigolyn, gan gynnwys ei hunaniaeth, ei werthoedd a'i ddymuniadau.

Ac i Dduw y mae teulu dyn yn atebol am ddiogelu a meithrin y cyfoeth hwn.

Mae hyn hefyd yn golygu edrych ar gyfrifoldebau yr Awdurdodau Unedol newydd a gwaith y Quangos, a cheisio creu strwythur sydd yn datganoli grym, yn atebol ac yn dod a grym yn nes at y cymunedau.

Merch annwyl yw Menna, er ei bod mor atebol.

Ry'n ni'n perthyn i'r pentref ac ry'n ni'n atebol i'r pentref.' Pwy ddywedodd nad yw pobol â nam meddyliol yn cael eu derbyn gan gymdeithas?

Pryderir na fyddai fformiwla/ u cyllido corff o'r fath yn ymatebol i'r anghenion amrywiol sydd yng ngwahanol ardaloedd Cymru, nac wedi'u seilio ar bolisi%au wedi'u llunio gan bersonau etholedig ac atebol i'r cymunedau lleol hynny.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog perthnasol, i gymryd camau i derfynu gwasanaeth os bydd archwiliad meddygol yn tystio nad yw swyddog yn atebol ar gyfer y swydd ar ôl sicrhau na all ymgymryd â swydd ysgafnach os bydd un ar gael.

Yn y byd technolegol, diwydiannol sydd ohoni heddiw, gellid dadlau bod Saesneg yn gyfoethocach iaith, yn iaith sy'n fwy atebol na'r Gymraeg i'r miloedd o alwadau a wneir arni.