Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atgasedd

atgasedd

Oherwydd atgasedd y goludog ac adwaith Seisnig yn erbyn Lloyd George, pardduwyd y Cymry mewn cyfrolau fel Perfidious Welshman.

Syllodd Jean Marcel yn hir ar y miloedd o blu eira yn disgyn yn ysgafn ar bennau ei gydwladwyr, ac atgasedd tuag at y Maer yn cynyddu yn ei galon wrth iddo wrando'i eiriau.

Deuai ffydd Hugh Hughes o'i galon, wedi'i seilio ar "adnabyddiaeth bersonol o Dduw a'i bethau% Adlewyrchiad o hyn oedd natur bersonol ei ymosodiad, ac o'i ganfyddiad o gyfrifoldeb pob unigolyn yn y byd hwn am ei weithredoedd, ac o'i atgasedd, felly, at naws haniaethol dadleuon yr academegwyr.

Mae hyn yn ei dro wedi creu atgasedd, a thrwy hynny wneud y posibilrwydd o gymod rhwng y ddwy garfan yn anos fyth.

Er gwaethaf yr atgasedd o'u cwmpas, rhaid oedd derbyn realiti a cheisio byw fywyd teuluol hapus a llawn.

Dengys yr Athro yn ei lith pa mor wrthun oedd atgasedd afresymol rhai Cymry y pryd hynny at bopeth a ysgrifennid yn yr iaith Saesneg.

Daeth ei atgasedd ato eto i'w waed, ac ymwrolodd wrth feddwl am y pwll glo.

Llwyddodd Megan i weld Mrs Oliver er gwaethaf atgasedd honno o ateb y drws, ond er iddi alw fwy nag unwaith yng nghartref Edward Morgan, ni chafodd ateb.

Dylai hyn, o ddyfalbarhau yn y driniaeth, sicrhau ynddo atgasedd cymwys tuag at bridd a baw.

Sut y priododd y fenyw yma â'r cowmon amharod ymhen deng mis, a thrwy hynny dynnu atgasedd yr holl ardal am eu pen; nes bod rhaid iddyn nhw fyw mewn unigrwydd anghymdeithasol.

Dyfnhaodd ei atgasedd hefyd.

"O Dduw!" griddfanai Wiliam, "pam na chawn innau gychwyn yr un fath?" Ac eto, fe gofiai am ei atgasedd diweddar o'r chwarel.