Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atgof

atgof

Ond llenor yn unig a fedrai ysgrifennu Cartrefi Cymru, neu'r ysgrif honno "Fy Nhad" yn Clych Atgof.

Ar hyd y blynyddoedd, fe fu sawl sgandal o'r fath - Beddau'r Proffwydi gan WJ Gruffydd yn amau moesoldeb ambell flaenor; y gerdd Atgof gan Prosser Rhys yn awgrymu fod perthynas hoyw yn bosib yn Gymraeg ac awdur Saesneg fel Caradoc Evans yn ennyn melltith am weddill ei oes oherwydd ei bortread di-enaid o'r gymdeithas wledig, grefyddol, Gymraeg.

Dro arall daw Cadog yn êl o Gaersalem a chaiff fod perthynas eiddigeddus wedi llad ei gefnder, digwyddiad sy'n dod ag atgof o'r arwyr yn dychwelyd o Iwerddon ac yn cael fod Caswallon wedi lladd Caradog fab Brên.

Roeddent yn atgof poenus am y Forfudd ifanc, yn dannod iddi oruchafiaeth amser, yn dannod iddi dreigl y blynyddoedd, a hithau, yn ôl pob golwg, wedi parhau mor eisteddol wrth ei thro%ell erioed.

Fe'i collfarnwyd yn y wasg enwadol er iddi gael croeso gan Prosser Rhys, awdur y bryddest nwydus 'Atgof' yn yr un flwyddyn, fel 'un o'r darnau mwyaf addawol ac arwyddlon a sgrifennwyd gan fardd ifanc ers blynyddoedd'.

Ar ôl 1536 fe beidiodd y syniad o Gymru'n genedl, yn undod hanesyddol, â bod yn atgof na delfryd na ffaith.

Mae yna atgof am hen freuddwyd yn ei lethu.

Gall y gwybodus ddilyn lli'r atgof amdanynt, am eu gwragedd a'u plant, am het newydd a brynwyd yn y fan a'r fan, am ymbarel a adawyd ar ôl yn y lle a'r lle.

Mae sawl atgof hefyd nad dinas fodern Trydydd Bydaidd ddiurddas yw hi, ond prifddinas hen hen wareiddiad.

Ac efallai mai'r atgof yna sy'n rhoi'r pwyslais cywir, wedi'r cwbl, oherwydd ffigur llenyddol oedd Anthropos yn hytrach na llenor o bwys.

Bellach does ond ambell atgof yn aros o ran y ceffyl yng ngweithio't chwareli, a hynny dros ddegawdau lawer, ac hefyd ambell i enw, fel - Llwybr y Gaseg Wen a Llwybr y Ceffylau, - yn eco o'u rhan hanfodol ym mhatrwm y gweithio.

'Roedd y beirniaid wedi cael digon ar barodrwydd y beirdd newydd i drin pynciau fel y nwydau rhywiol, yn enwedig ar ôl helynt 'Atgof' Prosser Rhys, a dyna un rheswm pam y gwrthodwyd cadeirio Gwenallt.

Ambell i atgof...

Cerdd hynod sydd yn mynd â ni yn ôl yn hiraethus mewn atgof plentyn at gymdeithas glòs y cymoedd glofaol, y cyd-chware, y cyd-addoli a'r cyd-ddioddef; ond mae ing yn yr hiraeth am fod y bardd yn edrych yn ôl ar fyd dewr a dedwydd o safbwynt cymdeithas wedi ei chwalu gan ddiweithdra.

Yn y cofiant dyfynnir yr atgof diddorol hwn o gyfrol Kate Roberts, Y Lôn Wen (tud.

Anghofiwch pob atgof sydd gennych o rynnu mewn canolfannau preswyl di-liw a di-raen yn ystod dyddiau ysgol.

ac onid yw'r cymry cymraeg bellach yn cymryd agwedd lawer mwy goleuedig erbyn hyn nag yn yn atgof prosser rhys?

Roedd pob atgof o Llio wedi cilio.

Awn i mewn i feddwl y llanc ifanc synhwyrus yn 'Atgof' Prosser Rhys, a chawn gip ar ei ffantasïau rhywiol, ac felly hefyd gyda Sant Gwenallt.

Cafwyd cnwd o gerddi modern/ realaidd ar ôl 1915 ac ar ôl y Rhyfel Mawr: cerddi rhyfel Cynan, 'Atgof', a cherddi Caradog Prichard.

Rhythais ar grib ogledd-ddwyreiniol ddu, hirfain, ddidrugaredd Piz averstancla a chofio llinellau olaf y gerdd a ganodd Armon Planta o Sent, uwchlaw Scuol, ar ol ei dringo gydai fab: I lawr yn y cwm a chytgord yn anodd oni fyddwn ni'n troi at hyn mewn atgof (in algordanzas) Bardd, dringwr, hanesydd, radical, athro ac ymladdwr dros ei iaith oedd Armon Planta.

Er hynny, wrth ymdrin â gweithiau fel nofelau Daniel Owen a Charadog Prichard, a cherddi megis 'Atgof' Prosser Rhys, yn unig y cawsom ddirnadaethau seiciatreg yn cael eu cyfaddasu at feirniadaeth lenyddol Gymraeg.

Nid oes garreg yn aros o aelwyd gysurus y 'Crown', ac nid oes ond atgof yn unig am unrhyw sgwrs a fu yno.

Y tebyg yw, fodd bynnag, fod y goel yn llawer hyn na hynny - atgof o gred ein hynafiaid yn nuw'r goedwig.

Doeddwn i ond yn gobeithio y byddai gan un o drigolion hynaf y fro ambell atgof neu hanesyn diddorol ar fy nghyfer.

Yn sgîl y celfi cyfarwydd hynny yn ei gartref - y mangyl, yr harmoniym, bwrdd y gegin ac amryw bethau eraill - deuai rhyw atgof neu'i gilydd am y gorffennol i'w feddwl, a thrwy gydol y cynhyrchiad fe'n tywyswyd yn ôl ac ymlaen mewn amser wrth i'r eitemau hyn roi cyfle iddo ail-fyw profiadau ei blentyndod a'i ieuenctid - profiadau cyffredin ac oesol y gall pob un ohonom uniaethu â nhw ond a gaiff eu gwisgo yng nghyfnod y chwareli gan T.