Rhag ofn i chwi feddwl mai rhyw greaduriaid seriws iawn oeddem, dyma stori neu ddwy sy'n f'atgoffa o'r hwyl a'r mwyniant a gawsom yn ein hymwneud â'n gilydd ac â'r darlithwyr.
ohonynt fel hyfforddiant i ymladdwyr ac arweinyddion ifainc.' Rhaid oedd atgoffa Geraint o'i ddyletswyddau ac y mae rhywbeth chwithig fod tad oedrannus yr arwr yn gorfod ei gyrchu adref i ymgymryd â'i briod alwedigaeth.
Bron nad yw hi'n atgoffa rhywun o arddull Gwerinos neu Jac-y-Do ond, er hynny, mae llais Rhodri Vine fymryn yn aneglur ar y trac hwn ac efallai mai gormod o gerddoriaeth gefndirol sydd yn gyfrifol am hynny.
Aeth defnyddio Saesneg ym mhob cyfathrebu swyddogol yn gyfrwng i atgoffa'r Cymry o genhedlaeth i genhedlaeth na allent fwynhau ffafr y wladwriaeth ond i'r graddau yr oeddent yn dirmygu'r Gymraeg.
"Roedd fy nhad gyda'i anffurfioldeb arferol yn dymuno i mi atgoffa Miss Davies fod perffaith ryddid iddi ddod â ffrindiau neu deulu i aros yn y fflat unrhyw adeg, ond os bydd rhywun yn dod yno i fyw ar sail fwy parhaol, efallai y byddai hi garediced â gadael iddo fo gael gwybod er mwyn iddo gael trefnu ynglŷn â'r rhent.
Wedyn dyma Waldo yn ei atgoffa mai siopwr oedd, ac mai ei ddyletswydd oedd gwerthu lamp iddo os oedd yn dewis prynu un.
'Roedd y noson yn fy atgoffa i o 1977 yn erbyn St Etienne,' meddai Howyn Roberts o Gangen Gwynedd o Gefnogwyr Lerpwl ar y Post Cyntaf y bore yma.
Mae'r adeilad yn ei atgoffa o eglwys gan ei fod ar siâp croes a bod clochdy iddo.
Mae'r newydd yn atgoffa i ni yr hen, ac yn hiraethlon yr edrychwn yn ol at HERALD Y RHOS (The Rhos Herald), blaenorydd NENE.
Brathodd ei gwefus a chrychodd ei thalcen mewn gofid ac nid oedd atgoffa'i hun bod ei mam wedi aros yn y Ty Mawr am fwy na thair wythnos cyn hyn, yn fawr o gysur.
Er ei bod hi'n anodd egluro pam, mae'r gân hon yn atgoffa rhywun o arddull Doves – grwp poblogaidd iawn yn ystod y flwyddyn 2000 – ac mae hi'n eithaf gwahanol i'r hyn sydd wedi cael ei rhyddhau gan Zabrinski yn y gorffennol.
Haerai fod y llestr hwnnw yn ei atgoffa o lestr y wraig o Sareffta.
Clip ffilm oedd hon oedd yn fy atgoffa o sgets Harry Enfield yn dangos pêl-droedwyr y gorffennol yn chwarae yn erbyn tîm cyfoes ac yn cael braw o'u gweld yn cusanu ar ôl iddyn nhw sgorio.
Mae'n werth atgoffa'r pleidiau, er hynny, bod yna gryn dipyn yn y fantol.
'R'on i wedi ryw how feddwl, wedi i mi gyrradd Tu Hwnt i'r Afon, y baswn i'n ca'l cyfla i roi dwr i'r 'ffyla cyn mentro'r allt 'na.' Ond fe wyddai Obadeia, yn rhy dda, am fynych wendid y coetsmon a mentrodd ei atgoffa o hynny.
Ond wrth fynd drwy'r rhes negeseuon ar y peiriant ateb wedi dychwelyd i'm gwaith clywais lais Ffrengig Claudie Moyson yn fy atgoffa imi gytuno i ofalu am ‘gynrychiolaeth' o Lydaw fyddai'n dod i Gaerdydd i ddysgu popeth am deledu lleiafrifoedd.
Mae hyn yn dy atgoffa o'r diwrnod y cyrhaeddaist Trefeiddyn a mynd gyda Rhun i gyfarfod â Maredydd ac arweinwyr y dref.
Ers sawl blwyddyn bellach rydym yn gweithredu system sy'n golygu ein bod yn atgoffa pob aelod ei bod yn amser iddynt ail ymaelodi bob 12 Mis.
Fe ddylem atgoffa ein hunain am hyn a gyflawnwyd mor ddiweddar drwy gemotherapi a brechiadau.
Bydd diwrnod hirfelyn ym mis Hydref yn fy atgoffa am rannau o bumawd hyfryd Schubert i linynnau.
Mi gewch chi hwnnw i'w gadw ar y silff-ben-tân i'ch atgoffa.
Wrth gerdded o gwmpas y dref mae llawer o bethau eraill yn eich atgoffa chi am y stori hefyd.
'Na fe: Jeannine, i f'atgoffa fod Sandy 'di cael y gore arna i; 'di cadw'n bur, 'di cadw at y duon!
Ni all y CDs hyn ond atgoffa rhywun o'r senglau feinyl 7 modfedd a oedd mor boblogaidd flynyddoedd yn ôl ond sydd erbyn hyn yn gymharol brin.
Roedd hefyd yn atgoffa Vera o Arthur, ei diweddar ŵr; yn ymarferol iawn os oedd angen trwsio unrhyw beth, ond yn dda i ddim am lanhau ar ei ôl.
Mae'n amlwg fod Herman Jones, myfyriwr ifanc ar y pryd, wedi atgoffa un o'r beirniaid o leiaf am erchyllterau rhyfel.
Yn dilyn agoriad mor arbennig fe geir tair o ganeuon Saesneg, ac mae'n rhaid cyfaddef fod rhain yn dueddol o atgoffa rhywun fwy o'r hen Gwacamoli.
Mae'n fy atgoffa o gerddoriaeth grwp o'r enw Toto o ddiwedd y 70au.
Yn rhyfedd iawn, roedd y digwyddiad yn fy atgoffa o'r tymor cyntaf a gefais fel disgybl yn Ysgol Llanrwst.
Arferai gario oriawr â larwm arni ac os digwyddai'r pregethwr fod yn un hirwynt ni fyddai'r oriawr yn fyr o'i atgoffa.
Eisteddais yn ôl yn erbyn coeden; beth oedd well i unrhyw un, - dim radio na theledu na phapur newydd i'w atgoffa am yr holl ryfela a'r byd a'i drybini.
Ond hyd yn oed os na lwyddodd Joshua Thomas i wneud Bedyddiwr o Penri, yr oedd yn cyfrannu at atgoffa'r Cymry amdano.
Cynhelir momentwm y broses ehangu dros y flwyddyn sydd i ddod, wrth i'r BBC baratoi i wynebu cystadleuaeth i gryfder ei arlwy arlein, parhau i fuddsoddi yn y dalent syn angenrheidiol i gynnal twf, ac atgoffa rhaglenni o'r cyfleoedd ardderchog a gynigir drwy gyfrwng arlein.
Mae ryddhau cerddoriaeth dawns yn gyson yn rhan o'r un genhadaeth - atgoffa cynulleidfa y tu hwnt i Glawdd Offa, a thramor, am fodolaeth Cymru a'r Gymraeg.
Roedd y gêm yn fy atgoffa i o'r geme yn erbyn Samoa yng Nghwpan y Byd.
Wrth gwrs, roeddwn yn atgoffa fy hun eu bod nhw wedi bod yma ers wyth mis bryd hynny.
Oedd, roedd Stuart wedi dysgu lle'r oedd 'i le fe fel creadur du 'i groen, a chael 'i atgoffa ohono bob tro'r âi i fyd yn gwynion tu fas i ardal y docie, neu pan ddâi rhywun o'r tu fas i lawr i'r clinig plant neu i ymweld ag Ysgol Mount Stuart.
Nid oes angen atgoffa neb a'i hadnabu mai un o fechgyn Bangor ydoedd HS Yr oedd acen y ddinas ar ei dafod, a chanddo feddwl uchel o'r ddinas a'i phobl, a hyd y diwedd bu yn gefnogwr brwd i glwb pel-droed y ddinas.
Yn gwrtais ond yn gryno, bu'n rhaid i mi ddweud wrtho bod clywed am dîm Lloegr wedi fy atgoffa o rywbeth fyddai'n hawlio fy sylw.
Felly, i'r rhai ohonoch oedd yn absennol o'r oedfa, a hefyd yn wir i atgoffa'r rhai oedd yno, dyma adgynhyrchu'r hyn a ddywedwyd ganddi: "Ys gwn i faint ohonoch chi yn y gynulleidfa a gafodd eich derbyn oherwydd fod eich rhieni wedi eich gorfodi i wneud hynny, neu efallai nad oeddech wedi meddwl rhyw lawer am y peth, ac mai dilyn traddodiad oedd yn bwysig.
Roedden nhw yno i atgoffa pawb o'r hyn ddigwyddodd; roedden nhw hefyd yn arwydd fod cyfnod yr ofn yn parhau.
"Mae hi'n harddu unrhyw eiriau rwy'n rhoi at ei gilydd," meddai John Owen - a'r geiriau hynny'n aml wedi ymwneud ag atgoffa pobol ifanc y Cymoedd am eu gorffennol a'u gwlad.
Bydd gennych gwy o gymhelliant i beidio a throi yn ol os yw'ch cytundeb gennych i'ch atgoffa.
Yn rhyfedd iawn hefyd, cafodd un o feirniaid y wasg gerddorol yn Lloegr ei atgoffa o Aerosmith yn ogystal.
Mae hyn yn f'atgoffa i am englynion Williams Parry i Hedd Wyn, lle rhoddir yr argraff fod y gwrthrych yn dal yn fyw yn y bedd.
Mae sôn am fwgwd yn fy atgoffa i o un o'r englynion gorau y gwn i amdano, a hynny'n bennaf am ei fod o'n apelio ata i'n bersonol, mae'n debyg.
Cynhelir momentwm y broses ehangu dros y flwyddyn sydd i ddod, wrth i'r BBC baratoi i wynebu cystadleuaeth i gryfder ei arlwy arlein, parhau i fuddsoddi yn y dalent sy'n angenrheidiol i gynnal twf, ac atgoffa rhaglenni o'r cyfleoedd ardderchog a gynigir drwy gyfrwng arlein.
Ar ôl blynyddoedd o ymdrin â bwganod, mae'r arswyd hyfryd o allu cysylltu ag ysbrydion yn f'atgoffa bob amser o sŵn frou-frou gwisg sidan Miss Jones Bach a'r oglau arogldarth yn gymysg â pheli gwyfyn.
Mae'r ddarlith yn fy atgoffa o ddarlith enwog arall yn y byd Celtaidd, sef y ddarlith a draddodwyd gan mlynedd i eleni gan Douglas Hyde i'r National Literary Society yn Nulyn dan y teitl, The Necessity for De-Anglicising Ireland.
Eitha peth, meddai, oedd atgoffa cynghorwyr Caernarfon bod cyfoeth a ddaeth trwy Doc Fictoria a'r Cei Llechi wedi ei ennill ar gefn chwarelwyr y lechan las o Ddyffryn Nantlle a Llanberis.
Ymddygiad, meddair colofnydd, sydd yn eich atgoffa yn syth o ymddygiad aelodau seneddol.
Gadawodd nodyn ar y bwrdd i atgoffa'r bechgyn i alw gyda'r pobydd, ac i gofio cynnig paned i Mr Davies pan ddeuai â'r twrci.
Mae son am darw yn fy atgoffa i o ddyddiau cynnar gwasanaeth y tarw potel.
Mae hyn yn helpu i lenwi unrhyw fylchau yn nealltwriaeth dysgwr o'r Gymraeg a hefyd yn atgoffa darllenwr sy'n rhugl o amrywiaeth a chyfoeth ein hiaith.
Er nad yw'r gân yn un hir y maen bleserus iawn ac yn dangos elfennau o gerddoriaeth bync Gymraeg - mae yna gyffyrddiadau syn atgoffa rhywun o gerddoriaeth Ffa Coffi Pawb.
Mae'r Rwsiaid bellach yn ymwybodol iawn fod diffyg nwyddau yn y wlad o'i chymharu a gwledydd llewyrchus y gorllewin, ac o'r herwydd mae eu hagwedd tuag at ymwelwyr tramor yn atgoffa dyn weithiau o'r 'Cargo cults' ers talwm.
Ac yn sicr, ddim os oeddwch chi am gael eich enw a'ch rhif i fyny ar y bwrdd mor aml â phosibl i atgoffa pobl eich bod chi'n ddefnyddiol, yn llwyddiannus - ac ar gael o hyd.
Y mae gweld yr athrawon ma'n ffraeo ynglyn â chael eu talu yn ôl yr hyn mae'n nhw'n medru'i gyflawni yn fy atgoffa o'r adeg pan oeddwn i'n bortar rheilffordd yng Nghaerdydd.