Os yw'r aelodau yn defnyddio un iaith yn unig yn y cyfarfod, a bod siaradwyr iaith arall yn bresennol, atgoffwch nhw o bryd i'w gilydd bod offer cyfieithu yno er mwyn galluogi pobl i ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg.
Atgoffwch yr aelodau nad yw presenoldeb pobl uniaith Saesneg i rwystro eraill rhag defnyddio'r Gymraeg.
Atgoffwch yr aelodau i ddefnyddio'r microffonau wrth siarad, ni all y cyfieithwyr ond cyfieithu'r hyn maen nhw'n ei glywed.