Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atgofion

atgofion

Atgofion hapus sydd gan Olwen Davies am ei chyfnod yng Nghilieni.

Daeth â llawer o atgofion ac o straeon yn ôl i'r cof, a nifer o ddywediadau rhyfedd, a'r ffordd wahanol o edrych ar bethau ddaru mi ddod ar eu traws pan oeddwn yno.

Brithir ei atgofion a'i fyfyrdodau gan gyfeiriadau at arwyr Iwerddon, yn enwedig wedi iddo ganfod fod carcharorion o Wyddyl wedi bod yn yr un gell ag ef o'i flaen.

Bywyd y Cymry a ymfudodd i Benbedw ar dro'r ganrif a gyfleir yn I Hela Cnau Marion Eames - y fwyaf darllenadwy o'r holl nofelau hanes, a chan ei bod yn ymdrin a chyfnod y mae atgofion amdano wedi'u trosglwyddo'n deuluol i'r awdures, mae'n pontio rhwng y nofel hanes a'r nofel gyfoes.

A'r dyrnodau wedi dileu'r meddyliau a'r atgofion rhyfedd.

Yn y gyfrol hon ceir atgofion Eifion Roberts am Gefn Brith a'r cyffiniau, bro beirdd megis Edward Morris, Perthillwydion, a Jac Glan-y-gors, Thomas Jones, Bryn Du (Cerrigelltgwm Isa, Ysbyty Ifan, wedi hynny), a Tomi Jones, Cernioge Bach ac Aelwyd Brys.

Mi wnaf fy mywyd yn allor i atgofion fy nghendl.

Atgofion yr awdures o'i chyfnod fel cenad ym Mizoram, India.

Atgofion ceidwad carchar am holl brofiadau ei yrfa.

O sôn am Bwyllgor Sir Gaernarfon a gyfarfyddai yng Ngwesty Pendref y blynyddoedd hynny, erys llu o atgofion difyr yn fy meddwl, am y gwmni%aeth radlon a fyddai yno.

Doedd dim i dynnu hiraeth arni yma - doedd dim yma i godi atgofion a fyddai'n rhwygo'i chalon.

Yn wahanol iawn i atgofion sur Syr Anthony Meyer yn ei lyfr sbeitlyd 'Stand Up And Be Counted' mae fy atgofion i am yr ymweliad hwn yn un hapus iawn.

Credaf fod fy atgofion o gyfarfod â Gordon Wilson a gwrando arno'n siarad wedi bod yn brofiad a rannwyd gan y mwyafrif ohonom a fu'n gwrando arno.

Mae cytundeb pur gyffredinol erbyn hyn ymysg llenorion a beirniaid llenyddol ein gwlad fod Gruffydd yn un o brif feistri rhyddiaith Gymraeg ac y mae dwy gyfrol a gyhoeddwyd ganddo yn y tridegau yn dangos hyn yn glir, sef Hen Atgofion, rhan o'i hunangofiant, a'r gyfrol gyntaf o gofiant OM Edwards.

Daeth awydd arnaf i ffoi o'r lle hwn a'i atgofion, yn ôl at fy mhlant.

Gyda'r nos yn yr haf byddai'r meinciau i lawr ger Penycei yn llawn o ddynion mor, pawb a'i bibell yn ei ben yn hel atgofion am hynt a helynt cychod a llongau.Clywid enwau llefydd fel Valparaiso, Taltal, Callao, Buenos Aires, Cape Town, Hambro a Genoa yn amlach o lawer na llefydd fel Pwllheli a Chaernarfon.

Arweiniai'r ymweliad hwn ni at ei hanes fel gwas bach (page boy) yn Llwyngwair gyda'r Boweniaid a'r atgofion am ymweliadau'r teuluoedd o'r Cilgwyn a Stradmore a'r dillad hardd a wisgent wrth y bwrdd cinio lle'r oedd disgwyl iddo weini yn gwrtais.

O fynd i oed mae tuedd mewn dyn i edrych yn ôl a byw ar atgofion sydd yn foddion cysur a mwynhad.

Onid oedd perygl felly y gallai farw yn ystod un o'r ysbeidiau hyn, ac na ddylai'r mudiad gymryd ei atgofion yn ganiataol?

'William Davies' oedd enw tad fy nhad, ac y mae gennyf gymysgedd rhyfedd o atgofion amdano.

Bydd atgofion yn fy llethu weithiau, ond maent yn gysur hefyd.

Ni bydd neb yn gallu hel at ei gilydd yr holl atgofion am Waldo y dylid eu cofnodi cyn iddi fynd yn rhy hwyr, ond gobeithio y bydd rhywun llafurgar yn ceisio'i wneud.

I aelodau'r dosbarth roedd y pill rhyfeddol hwn mor anffaeledig â Beibl Pitar Willias: 'doedd y Llyfr - Yr Ardal Wyllt - Atgofion am Lanfairynghornwy, a dyma hi:PENCAMPWRIAETH DAWNSIO GWERIN Y BYD

Yno 'roedd ymwelwyr fel gwenyn yn potio o gwmpas y dŵr, yn addasu'r camerâu'n ffwndrus i gasglu atgofion am yr ewyn gwyn yn disgyn ddawnsio'n swnllyd i'r ffrewyll.

'Mae gen i atgofion melys o'r dyddiau difyr, da hynny,' meddai.

Ond wrth fynd ati i gofnodi'r atgofion hyn ceisiais fod mor ddiduedd ac onest ag sy'n bosibl.

Mae gennym fel Cymry atgofion hallt am beth all ddigwydd gyda refferendwm.

Un o'i atgofion difyr yw hanes y trip i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

"Mae'n deimlad cymysg iawn achos mae rhywun wedi bod yma mor hir - mae cymaint o ffrindiau yma, cymaint o atgofion." Er ei fod yn cyfadde' iddo fod yn anfodlon gyda'i sefyllfa waith, dyw natur ei gytundeb gyda'r BBC ddim yn caniata/ u iddo ddatgelu rhagor.

Yma fe geir ochr aeddfetach i'r mynegiant yng ngherddoriaeth Chouchen, wrth iddynt gyfeirio at y ffaith nad yw pobl yn dueddol o gofio'r hyn a ddysgir mewn ysgolion a cholegau, ond eto i gyd yn cael dim trafferth hel atgofion am yr holl sothach a geir ar y teledu.

Mae llawer o hen atgofion yn aros am bethau ddigwyddodd ym Mhentraeth yn ystod y ganrif hon.

Fel pob plentyn atgofion am yr Ysgol Sul yw'r rhai cynharaf.

Yma y cai Elisabeth gyfle i hel atgofion a breuddwydio ac i fwynhau ychydig o ryddid oddi wrth y dyletswyddau teuluol oedd wedi dod yn rhan o'i bywyd ers claddu ei thad, yr yswain Richard Games.

Cyfoeth o storiau, am ei ddyddiau cynnar fel siopwr gwlad, oedd forte Evan Jones, y perchennog, a gallai ddifyrru'r oriau gydag atgofion am y llon a'r lleddf.

Gwrandawodd Jean Marcel hefyd, a deuai'r nodau ag atgofion am Nadolig arall iddo; llawer ­ Nadolig arall yn y dyddiau pan nad oedd ofn ar bobl Ffrainc, pan oedd digon o bopeth yn y siopau dros yr W^yl.

Yn ôl eu harfer dros y blynyddoedd daeth dros ddwy fil o bobl i'r theatr eto eleni, y tro hwn i rannu atgofion John Davies - yr hen lanc canol oed a benderfynodd symud i fyw i lety wedi marw ei fam - wrth iddo werthu ei ddodrefn "o law i law% i berthnasau a chydnabod.

Un ffordd, mae'n debyg, fyddai derbyn atgofion Gwenlyn ei hunan o risiau'r George yn y Coleg Normal a dechrau gyda grisiau'n ymdroelli i fyny ac i lawr.

Fe'n cludwyd i iard gefn yng nghanol tref Palembang, heb fod nepell o'r becws yr oedd gennyf atgofion mor hyfryd amdano.

Terfynodd Ffactri Wlân Glasfryn ei gwasanaeth ers llawer blwyddyn bellach, ac atgofion gan yr oedolion yn unig sydd am weithdy'r crydd.

Mae'n disgrifio'r ymweliadau hyn yn ei atgofion mewn geiriau sy'n ei ddangoS 'ar ei elfedeiddiaf', a defnyddio ymadrodd Tegla: Ym mis Mawrth yr oedd cuwch ar Foel Famau heb nemor wen haul: ond gwen oedd ar y moelydd a dyffryn Alun fis Mai.

Atgofion o'r ddeunawfed ganrif wedi mynd ar goll am byth drwy fy esgeulustod.

"Os rhywbeth, mae'n well gen i gerddoriaeth glasurol." Mae ei atgofion o wrando ar gyngherddau mawr y byd ar y radio yng nghwmni ei dad yn y Felinheli mor fyw ag erioed.

Yn Skol Louarn Veig Trebern (Herve/ Trebern bach yn mitsio) hanes llai dramatig a gawn, ond â blas llawn cystal arno, lle crisialir atgofion plentyndod yr awdur, wedi eu haddasu ond ychydig ar gyfer cyfrwng llenyddol.

Roedd hi'n dywyll tu allan nawr a sylweddolodd ei fod wedi treulio prynhawn cyfan arall yn y gorffennol gyda'i atgofion.

Er nad oes i'r pethau hyn werth ynddynt eu hunain, maen nhw'n siarad â phobl ac yn dwyn atgofion.

Na gwastraff ar amsar gwerthfawr, yn ymylu ar bechod oedd chwaraeon i'r hen bobol." A dyna ni'n dau yn ymroi i gyd-fwynhau orig o atgofion maboed cyn i Gruff orfod troi am adref.

Atgofion am yr Hendaid Bran oedd ar yr ail.

Tynnu sgwrs yn yr hwyr gyda gwr a aned yn Hwngari Andrew Margrave, cyn-ohebydd i'r News Chronicle, a chyfnewid atgofion am Bwdapest ac am bobl yno.

Daeth marwolaeth Damilola Taylor ar ei ffordd adre o'r ysgol yn ddiweddar ag atgofion yn ôl i mi am yr adeg pan benderfynodd y ferch hynaf ei bod yn dymuno cerdded i'r ysgol ac yn ôl ar ei phen ei hun.

Fellv nid oes gennyf fi, fel rhai o'i gyfeillion, ddim atgofion personol ohono yn ei flynyddoedd cynnar.

Cofia hwiangerddi'r fam 'Ymhabell wen fy mebyd' a gwres 'Aelwyd fach anwyliaid fu/ At un tân, gynt yn tynnu!' Dychwelyd o'i grwydro a chael yr hen le yn furddun ger y môr a' i gyrrodd, o'r diwedd, i'r wlad bell lle ailgyfannir yr aelwyd gynt gan atgofion a dychmygion.

Gan nad oeddwn ond pymtheg oed pan fu farw Anti (dyna sut oeddem yn ei galw) y mae fy atgofion ohoni braidd yn niwlog.

Trwy gyfrwng darlleniadau ac atgofion, bu Catrin Pari Huws ac Elizabeth Parry yn sôn am glychau.

Wrth wrando ar y llu o atgofion a oedd gan Mrs Parry 'roedd hi'n anodd meddwl sut y gallwn ni yn Rhos oddef gweld clo ar ddrysau'r Stiwt, a bodloni ar weld canolfan gerddorol yn chwalu, a theatr fendigedig yn mynd a'i ben iddo - 'Dim ond y gorau sy'n ddigon da???'

Mae'n dechrau fel cyfres o sgetsiau neu atgofion yr Hen Deiliwr, sef Robin; yna fe ddatblyga'n gyfres o wrthgyferbyniadau rhwng teuluoedd y gwahanol dyddynnod, gan newid holl naws yr adroddiad.

Darlithiau trwy'r dydd, a'r Major yn tynnu ar ei atgofion mewn ymdrech i roi cnawd am esgyrn sychion ei sylwadau.

Wrth fynd trwyddynt deuthum o hyd i un yn dwyn y teitl 'Atgofion am Mozart'.

'E gyfyd hen atgofion T amlhall dwfn friwiau'r fron

Naturiol yw i'r galar hwnnw droi'n atgofion am anwyldeb y mab yn yr ail baragraff.

Mae'n amlwg nad oedd angen ond i Youenn Drezen dynnu ar ei atgofion personol er mwyn disgrifio datblygiad seicolegol y cyw offeiriad pan orfodir ef yn sydyn i wynebu byd yr ymdrechwyd hyd hynny i'w guddio rhagddo.