Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atgyfodi

atgyfodi

Dangosodd James Evans nad oedd y meirwon wedi marw ac y byddent yn codi o'u beddau, yn union fel y golygfeydd hynny o filwyr yn atgyfodi yn ffilm Abel Gance, J'accuse, ym 1919.

Eleni, mae'r sgandal hwnnw'n rhan ganolog o Iyfr newydd ac mae Cwmni Theatr Gwynedd yn paratoi at atgyfodi'r ddrama.

Dyheu'n ofer am ei atgyfodi fel yr oedd sydd yn y trydydd, ond ar ddechrau'r paragraff nesaf mae'r bardd fel petai'n derbyn fod y bedd wedi'i gau, ac wrth ystyried beth roedd Siôn yn ei olygu iddo mae'n ei fewnoli'n rhan ohono'i hun.

Yn ei berson ef gwelai Collingwood ymgais ar ran y brenhinoedd hynny i atgyfodi swydd y Comes Britanniarum, a fuasai'n bwysig yng nghyfnod y meddiant Rhufeinig ar Brydain.

Yng Nghwmderi, fodd bynnag, mae cymeriadau o'r gorffennol pell wedi atgyfodi gyda Sabrina a Meic Pierce yn ôl yn y Cwm ond mae cymaint wedi newid ers imi wylio Pobl y Cwm yn rheolaidd fel nad wyf eto'n gwybod pwy 'di pwy a be 'di be yng Nhwmderi.