Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

athrawes

athrawes

Roedd yn enedigol o ardal Ardda a threuliodd gydol ei hoes yn ardal Trefriw, yn wraig uchel ei pharch i bob achos teilwng, yn aelod ffyddlon o Gapel Ebenezer, yn athrawes Ysgol Sul am rai blynyddoedd, a chymerai ran gyhoeddus yn y gwasanaethau.

Yn ogystal, roedd merched hollol anaddas yn ymgymryd â gwaith athrawes.

Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China.

Athro/ Athrawes:

Rhan o'r bwriad yw fod llawer o'r cymeriadau yn ystrydebau - o'r athrawes ddrama sy'n hynod o "darlings, darlings" i'r prifathro gwallgo sydd wedi cael ei seilio ar gymeriad o ffilm y grwp roc Pink Floyd, The Wall.

Does dim amheuaeth nad yw cyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol wedi dylanwadu ar agweddau o fywyd pob ysgol - ac ar fywyd pob athro ac athrawes.

Er mwyn ysgogi'r dysgu mewn ffordd briodol, rhaid i'r athrawes wybod am

Meddai Gill Brown, cyn athrawes gelf a chrefft sydd bellach yn Reolwr Datblygu Sgiliau Personol a Chymdeithasol yr Antur, 'mae hyn wedi rhoi hyder anhygoel iddyn nhw.' Mae'r siop yn ddeniadol, a'r silffoedd yn llawn o nwyddau amrywiol.

Felly, beth am graffu'n fanylach ar ddadleuon Harri a Gwylan, ei athrawes yn y ffydd?

Ni all na chafodd Daniel Owen ei fam a'i chof cyfoethog yn dipyn o athrawes er nad oedd ef, mae'n siwr, yn adnabod yr hyn a gafodd ganddi fel addysg.

Y rheswm tu ôl i hyn, yn ôl y Cyngor, oedd gan fod yna lai na 100 o blant yn yr ysgol a dydy eu grant ddim yn ddigon mawr i fedru talu am yr athrawes ychwanegol.

Gadawodd ei chartref yn ystod y rhyfel, a mynd i weithio fel athrawes yn y De.

Dyn a menyw, glowr ac athrawes, comiwnydd a chenedlaetholwraig, Rhondda Saesneg ac Arfon Gymraeg, mae'r gwrthgyferbyniadau'n amlwg, ac fe gant eu hadlewyrchu'n glir yn eu gweithiau.

Y mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China.

I genhedlaethau o blant Y Felinheli a anwyd yn y blynyddoedd cynnar wedi'r rhyfel byd cyntaf, Miss Williams Bethel oedd athrawes y plant yn Ysgol Hen, ac felly y parhaodd i gael ei hadnabod ar hyd ei hoes ganddynt.

Ar fin cwblhau cwrs coleg i fod yn athrawes ysgol gynradd.

Fel y ceisiodd un athrawes bwysleisio wrth ei diadell o blant anystywallt.

Ymhen rhyw ugain munud, eisteddai wrth fwrdd llwythog gydag Emrys a'i fam a'i chwaer Gwen, athrawes a oedd newydd gyrraedd adref o ysgol gerllaw.

Ond penderfynodd Cyngor Sir Ceredigion i beidio adnewyddu cytundeb yr athrawes ym mis Medi gan nad oedd arian ar gael ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Am genedlaethau yr ystafell yn y gwaelodion gyferbyn â'r "gegin" oedd cartref y plant lleiaf, a neb llai na Miss Jennie Dryhurst Roberts oedd yr athrawes.

Mae Rhian sydd yn athrawes yn Ysgol Gymraeg, Rhyd y Grug, ger Aberfan, Merthyr newydd ddyweddi%o ag Andrew Cornish, mab Rosemary ac Edward Cornish, Lloyd St, Caerau.

Mudodd athrawes ifanc o'r enw Marian Richards o sir Gaerefrog i gymryd swydd mewn ysgol ym Mae Colwyn gan ymaelodi yn Salem.

Pan oedd yn ddeg oed ac yntau'n gwneud yn well ac yn well gyda'i wersi piano, dywedodd ei fam, a oedd yn athrawes gynradd, wrtho ei bod yn bryd iddo roi'r gore i gerddoriaeth a dechrau canolbwyntio "ar bethau pwysicach".

Y mae'n rhaid fod ei haddysgiaeth yn ddiddorol achos yr oeddwn i'n aml yn clustfeinio ar beth oedd Anri yn ddweud wrth ei disbarth, yn lle gwrando ar fy athrawes i.

yr oedd un cysur ganddynt y cawn chwarae teg gan fod athrawes y babanod yn Gymraes o Sir Feirionnydd.

Golygai hyn fod un athro (neu athrawes) ar gyfer pob saith o ddisgyblion.

Yn aml mae'r cwmnïau yma yn defnyddio meysydd awyr llai blaenllaw, er enghraifft hedfanodd yr athrawes i Prestwick ger Glasgow ac mae ffleit Ryanair i Baris yn glanio yn Beauvais sydd tua 80 km i'r gogledd o'r brifddinas.

Agwedd holl-bwysig ar waith yr athrawes feithrin y'w deall sut mae plant ifanc yn dysgu yn effeithiol.

Yn bresennol yr oedd Mrs Bet Rees yr athrawes lanw oedd yng ngofal y dosbarth yn absenoldeb y prifathro yn ystod ei waeledd.

Hi oedd ein hathrawes Ysgol Sul, athrawes Ysgol Sul na fu ei thebyg na chynt na chwedyn.

Dee%llais ei bod wedi treulio peth amser fel athrawes, ond wedyn 'roedd ei dawn ysgrifennu wedi dod i sylw Cwmni Collins, a hwythau wedi cynnig swydd barhaol iddi.

Brigstocke, YH, Blaen-pant, Ceredigion, na wyddai am yr un ysgol yn yr ardal lle'r oedd athro neu athrawes gymwys.

Bu yn athrawes Ysgol Sul am rai blynyddoedd, a chymerai ran gyhoeddus yn y gwasanaethau.

Ac er bod yn neu ddwy o'r athrawon ar wahân i athrawes y Gymraeg yn siarad Cymraeg ni wnaeth yr un ohonynt dorri gair o Gymraeg â mi er y gwyddent erbyn hynny mai Cymraes oeddwn i.

Roedd Mrs Davies yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Uwchradd Maesteg ac oddi yno aeth i Goleg Goldsmith's yn Llundain a chyfnod o ddysgu yn ardal Aldershot cyn dychwelyd yn athrawes i Ysgol y Merched, Blaencaerau lle bu ei dylanwad a'i hymroddiad yn fawr iawn.

(b) Rhoddwch eich barn gyffredinol am y cynllun, gan gynnwys eich barn am ddefnyddioldeb canllawiau'r athro (A oes digon o fanylder ar gyfer athro/ athrawes sy'n gweithio y tu allan i'w faes/maes ei hun?), ffurf a chyflwyniad y gwaith, lefel yr iaith a'r agwedd at bynciau megis cyfle cyfartal.

Waeth ichi roi'r gorau iddi rwan, ddim, oedd barn cantores o fri, bach, a oedd yn athrawes arnaf yn yr ysgol.

Fy nyddiau cynnar yn y Chwarel Rydw i'n cofio dweud wrth fy athrawes:

Yn y gorffennol, pe byddai rhywun yn dymuno chwilio, er enghraifft, am safleoedd yn ymwneud â'r 'piano' (fel teyrnged hwyrach i'n Cadeirydd, Branwen Brian Evans, sydd yn athrawes biano ac yn gyfeilyddes o fri), byddai'r we yn methu â gwahaniaethu rhwng y safleoedd Cymraeg a'r rhai Saesneg.

Mi fu'r rhieni'n protestio yn agoriad swyddogol yr estyniad gan ddweud mai gwastraff arian oedd adeiladu'r estyniad os na fydd yna athrawes i lenwi'r dosbarth.

Athrawes a 16 o blant yn cael eu saethu'n farw yn Dunblane.

mi ges i athrawes mathemateg arbennig o dda.' ' Fu dim troi'n ôl wedyn.

Athrawes oedd Marina ac economegydd oedd Ludmilla.