Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

athrawiaeth

athrawiaeth

Dyma arwyddocâd athrawiaeth y ddwy natur mewn perthynas â'r iawn, mai Duw sy'n gweithredu er iachawdwriaeth ei bobl gyda Iesu, fel Mab Duw, yn cyflawni'r goblygiadau dynol tuag at y Tad.

O reidrwydd, pregethu athrawiaeth yn hytrach na phrofiad oedd hyn, o'r pen ac nid o'r calon.

Yr oedd yn ddyn reit agos i'w le mae'n debyg ond yn ei athrawiaeth cymerai olwg ry arwynebol a gobeithiol o'r natur ddynol.

Yn union fel yr arweinia athrawiaeth Person Crist at athrawiaeth ei waith, mae athrawiaeth yr iawn yn ein tywys yn uniongyrchol at athrawiaeth yr Ysbryd Glân.

Lle'r oedd un genedl yn ddigon cryf i fonopoleiddio Llywodraeth y wlad, gallai droi yr athrawiaeth Herderaidd yn erbyn y lleiafrifoedd.

Yr ydych wedi rhoddi i lawr athrawiaeth ddogmatic bendant nad oes yr un rhithyn o braw iddi - na ellir llenyddiaeth fawr heb fod y syniad o bechod yn cael lle mawr yn y credo...

Yn ogystal â bod yn rhagrith, yr oedd pregethu athrawiaeth yn aneffeithiol ac yr oedd hyn o'r pwys mwyaf i w^r a gredai nad oedd dyletswydd arall gan y pregethwr ond achub eneidiau: "Pregethu yr efengyl yw y peth gwerthfawrocaf yn y byd, y tu hwnt i bob cydmariaeth; a hyny sydd am mai ordeiniad Duw ydyw, trwy'r hon y casgl ei bobl o fysg y cenheloedd".

Datblygodd athrawiaeth ail-adrodd (recapitulatio = atsymio prif benawdau (re-capitulatio < capitulum = pennod, pennawd, pen bach; bychanig caput -itis = pen).

Ar y cyfan, felly, gellir maentumio nad yr athrawiaeth economaidd oedd yn gyfrifol am hinsawdd economaidd Prydain wedi'r Rhyfel.

Daethpwyd i sylweddoli'n fuan iawn fod athrawiaeth y ddwy natur yn angenrheidiol ar gyfer ateb y cwestiwn hwn.

Y Diwygiad Protestannaidd a'i bwys trwm ar awdurdod y Gair oedd yn bennaf gyfrifol am roi bywyd newydd yn yr athrawiaeth neu'r olwg hon ar hanes.

Mae hyn yn rhan o athrawiaeth y creu.

Cyfystyr, felly, yw athrawiaeth gwaith Crist ac athrawiaeth yr Iawn neu'r Cymod.

O dderbyn athrawiaeth llesâd gwlad ei hun a gwledydd eraill, pam, tybed, na allai athronydd mor gwbl eglur ei feddwl â Russell weld posibiliadau patrwm nobl o gydweithredu mewn Conffederasiwn Prydeinig?

Felly, er cymaint pwyslais Williams ar hyd ei oes ar uniongrededd mewn athrawiaeth, yr oedd yn sensitif iawn i'r angen am ffydd fywiol yn y galon, y ffydd a oedd yn sicrhau cyfiawnder Duw fel mantell i guddio noethni moesol y pechadur.

Athrawiaeth Gwaith Crist i.

Yn ôl Geiriadur Saesneg Rhydychen golyga: Yna ceir dyfyniad buddiol sy'n cysylltu'r term ag athrawiaeth gymdeithasol y Catholigion: Mae'r dyfyniad yn glir.

Cyn bo hir, deuai natur yr offeiriadaeth, ac yn y pendraw - wrth iddo weld y gwahaniaeth rhwng rhai o'r eglwysi ymneulltuol a'r eglwysi Catholig yn mynd yn fwyfwy aneglur - natur y weinidogaeth hefyd, yn ganolog i'w athrawiaeth.

Un dydd Gwener ar ddiwedd darlith olaf y bore dyma JE Daniel, ar ôl gorffen darlithio ar Athrawiaeth Gristnogol, yn dod ataf ac yn gofyn imi fynd gydag ef y noson honno i annerch cyfarfod y Blaid yn festri Capel Maes y Neuadd, Trefor.

Cyfeddyf, er hynny, fod athrawiaeth Maurice Barres nad yw llawn dwf yn bosibl i'r unigolyn heb ymgymysgu a chymdeithas, 'yn deilwng o astudiaeth fanwl yn enwedig i ni genedlaetholwyr.

Er hynny, nid digon cael yr athrawiaeth gywir am Grist, rhaid cael Crist.

Mewn athrawiaeth Gristionogol felly gall y gair "iawn" olygu natur yr aberth a wnaed gan Grist, neu'r broses gyfan ym mwriad Duw ar gyfer achub dyn.

Mae a wnelo'r ddeubeth â'r iachawdwriaeth ac y maent yn gysylltiedig â gwaith Crist ac ag athrawiaeth yr iawn.

Daethent i Brydain nid i ymladd yr ysbeilwyr ond i nerthu eglwys fechan Prydain yn erbyn gau athrawiaeth Pelagiws.

Williams Parry, ser 'Y ddôl a aeth o'r golwg': Buan y'n dysgodd bywyd Athrawiaeth llanw a thrai: Rhyngom a'r ddôl ddihalog Daeth chwydfa'r Gloddfa Glai.