Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

athrawiaethol

athrawiaethol

Yr oedd achosion eraill tros y rhwyg hefyd, fel anghydweld athrawiaethol rhwng Harris a Rowland a chred Harris fod Madam Sydney Griffith yn broffwydes.

Mae carthu ymaith y gwyriadau athrawiaethol, y chwarae mig â safonau moesol, yr ysfa i droi Iesu Grist yn fasgot ein trachwantau ni, yn waith poenus.

Iddo ef nid oedd holl ddysg y Dadeni, y toreth o opiniynau gwrthgyferbyniol, y llifeiriant o ddamcaniaethu athrawiaethol yn ddim ond rhwystrau ar ffordd dyn i gyfathrachu'n uniongyrchol â Duw.

Nid mater o dybiaeth athrawiaethol oedd trafod crefydd, felly, ond mater o fyw neu farw tragwyddol.

Yr oedd yn awr am gyfiawnhau hynny nid yn unig yn athrawiaethol ond yn hanesyddol yn ogystal.