Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

athronyddol

athronyddol

Yr oedd ef am sicrhau seiliau athronyddol cadarn i waith y gwyddonydd ond yr oedd hefyd eisiau diogelu lle i'r argyhoeddiadau crefyddool.

Amlyga elfennau athronyddol i'r stori gyda'r naratif yn y person cyntaf, a'r person hwnnw (yr awdur, o bosib, ond nid o reidrwydd) yn rhoi ei hun yn sefyllfa Duw gan ddweud mai fel hyn y mae Duw yn edrych ar bawb o ddydd i ddydd ac fel hyn y gall brofi ein camweddau inni ar Ddydd y Farn.

Dyma'r schitsophrenia gwleidyddol diweddaraf, a hyd yn hyn ni chafwyd ymgais i egluro'i sylfaen athronyddol nac ymarferol.

Nid ffrwyth edrych ym myw llygaid cyfanrwydd y ffeithiau hanesyddol yw'r damcaniaethau hynny, ond gwneud gosodiadau cyffredinol ar sail ffeithiau a ddetholwyd yng ngoleuni rhagdybiau athronyddol digon hysbys.

Ond hyd heddiw yr wyf yn ei theimlo'n anfantais na bawn wedi cael cwrs coleg cyflawn mewn athroniaeth oherwydd yr wyf yn ofnus iawn o hyd wrth drafod syniadau athronyddol...

Ar y ffordd yn ol i Delhi ar y tren, cael sgyrsiau diddorol ag Indiaid - un wedi bod yn 'UK', a'r lleill, gŵr a gwraig yn eu tridegau, heb fod, ac yn llawn cwestiynau athronyddol am briodasau wedi eu trefnu, Margaret Thatcher, trenau Prydain, ac ati.

Felly, gyda'r cefndir athronyddol-gyffredinol yn glir, roedd modd symud ymlaen i'r meysydd penodol yn y cwricwlwm.

Ond rhagwelir hefyd y syniad mai'r Ideâu Platonaidd oedd testun y beirdd, ac nad hanes a phrofiadau dynion oedd eu pwnc, ond 'syniadau athronyddol pur'.

Iaith ein cartref ydwyt hefyd, Iaith aelwydydd Cymru lân, Yr wyt ti'n gwresogi bywyd Mewn diareb bêr a chân; Hoffwn di - wyt athronyddol - Ond wyt fwy na hyn i ni: Wyt in' calon yn naturiol, Caniad cartref yw dy si.

Mae'r datganiad hwn dipyn yn fwy athronyddol na chynnwys y cylchgrawn.

Eu nod hwy oedd amddiffyn Cristionogaeth yn erbyn ymosodiadau paganiaid ac arddangos rhagoriaeth ddeallusol ac athronyddol ei dysgeidiaeth a'i safon foesol uwch.

Enghraifft arall o'r elfen athronyddol hon yw Rhywogaethau Prin sydd mewn dull negyddol yn dangos nad ydym ni fel pobl yn cyfri dim ar y blaned hon yn y pen draw.

Ond wedyn, dim ond dadansoddiad athronyddol gofalus a wna'r tro i ddangos na ellir alltudio Duw a phwerau ysbrydol â syniadaeth mor dlodaidd.

Weithiau bydd graffiti, hun yn cael ei ddychanu - yn arbennig math o graffiti sydd weithiau yn or-glyfar a ffug-athronyddol.

Yr Ymgnawdoliad a'r Iawn: Er iddi hi darddu o ddadleuon athronyddol digon dyrys, amcan ymarferol oedd i gyffes yr eglwys ynghylch cyflawn ddyndod a llwyr dduwdod ei Harglwydd.

'Dim byd gwaeth na welintons am godwm, nagoes.' ychwanegodd yn athronyddol wedyn.

Mae hyn yn peri peth syndod, oherwydd gallasai Parry-Williams fod wedi dod o hyd i lawer o syniadau yng ngwaith yr hen feirdd a oedd yn gyson â'i syniadau ef ei hunan - yr amheuaeth ynglŷn â materion crefyddol neu athronyddol, y weledigaeth lem o flinder y cyflwr dynol, a'r cariad tawer at ddyn a natur heb wneud delfryd rhamantus o'r naill na'r llall.