Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atomau

atomau

Felly, nid oes angen fflachlamp mor nerthol ar y laser Nd:YAG ag ar yr un rhuddem, lle mae'n rhaid codi egni mwyafrif yr atomau cromiwm o'r lefel egni wreiddiol.

Drwy gyfrwng pelydrau X, y microsgop electron eu'r microsgopion, mae'n eithaf hawdd canfod lleoliad yr atomau mewn solidau syml.

Yn ddiweddar, cynhyrchwyd laser ffibr tiwnadwy yn seiliedig ar atomau praesodymiwm a thrwy ddefnyddio neodymiwm gellir adeiladu laser pwerus iawn - mwy pwerus hyd yn oed na'r Nd:YAG ar yr un donfedd.

Er mwyn i'r laser weithio, rhaid bod mwy o atomau cromiwm yn y lefel uwch na'r un wreiddiol.

Mae i bob Si bedwar electron allanol neu electronau falens ac mae'r electronau hyn yn gyfrifol am glymu'r atomau yn ei gilydd fel bod dau electron ym mhob un o'r bondiau rhwng yr atomau.

Mae'n seiliedig ar grisial o ruddem, ac fel pob laser cyflwr solid, mae'n dibynnu ar gynhyrchu poblogaeth o atomau o fewn y crisial sydd ag egni uwch na'r cyffredin.

Mae pob laser yn gweithio fel hyn, drwy fod atomau'n disgyn o un lefel egni i un arall.

Enghraifft o laser felly yw'r un Nd:YAG, sy'n seiliedig ar grisial o yttriwm alwminiwm garnet (YAG) - deunydd digon tebyg i saffir - gydag atomau o'r metel prin neodymiwm (Nd) yn chwarae rhan y cromiwm.

Defnyddir fflachlamp i godi egni'r atomau cromiwm i lefelau uchel.

Fe wyddom fod yr atomau mewn grisialau cywrain fel diemwnt wedi eu lleoli mewn trefn anhygoel bron ac fe wyddom hefyd fod priodweddau'r solid yn dibynnu ar natur yr atomau, eu lleoliad a'r modd y cysylltir hwy a'i gilydd.

Bydd yr atomau Nd yn gollwng goleuni laser drwy ddisgyn i lefel egni ychydig uwchlaw'r gwreiddiol, yna'n disgyn ar unwaith i'r lefel wreiddiol heb ollwng goleuni.

Ychydig iawn o'r atomau sydd yn y lefel laser isaf ar unrhyw bryd, ac nid oes angen cymaint o hwb i sicrhau fod mwy ohonynt yn yr un uchaf.

Dichon fy mod yn camddeall, ond mi gymerais i hyn i olygu ein bod ni, feidrolion, fel popeth arall a wnaed o fater, yn ymddatod ryw bryd annirnadwy bell i ronynnau gwaelodol y cosmos; ein llwch o atomau gwahanol elfennau yn troi'n ronynnau egni annistryw.

Tynnir hwn i ffurf ffibr, a gosod atomau o fetelau prin yn y craidd.

Mae ffurf allanol grisialau, wrth gwrs, yn dibynnu ar leoliad yr atomau yn y solidau.

Ar gyfer gwaith ymchwil y cafodd y laserau hyn eu defnyddio'n bennaf, yn enwedig i fesur lefelau egni gwahanol atomau a molynnau.

Felly dim ond 'buckminsterfullerene' sy'n cynnwys nifer penodol o atomau, a'r ddamcaniaeth ddiweddaraf am ei ffurfiant yw fod yr atomau'n clystyru i ffurfio haenau pan ddônt yn rhydd o'r arc a bod yr heliwm yn eu cadw'n agos i'r arc nes iddynt ddechrau gwneud y gwni%ad i ffurfio'r sffêr.