Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atsain

atsain

Yn wir yr oedd yr hen greigiau eu hunain fel pe buasent yn edrych ac yn gweiddi neu yn atsain 'Haleliwia!' wedi clywed y fath gyfnewidiad.

Yn atsain; atsain ...

Cyfnod newydd ond canlyniad yn atsain o hen hanes.

Eithr nid oedd llais Hardie yn llef unig, ychwaith: cafodd atsain yn areithiau ambell AS Rhyddfrydol, ac yng ngholofnau rhai papurau newydd.

Yna daeth atsain isel certiau trydan rywle ym mhellter y coridor.

Dychmygai weld ffurf sinistr, tywyll y dewin yn sefyll wrth bob llidiart a choeden, ond yr oedd pobman yn dawel a dim ond sŵn ei draed yn atsain ar y ffordd oedd i'w glywed.

Yr oedd y sŵn mor felys ac mor lleddf, yn atsain ar draws yr hen gwm, a'r cilfachau'n dynwared y canu a'r wylo, a ninnau'n ochneidio fel mewn llesmair wrth ei glywed .

Mae'r enw Pendaran, Pen Darian efallai, Prif Amddiffynnwr, Dyfed ac iddo atsain awdurdod a hynafiaeth nas ceir yn Pwyll, Pendefig Dyfed, sydd, o'i gymharu ê'r llall, yn enw tawel a modern.

Gwelais bob gwedd a lliw ar y Foel Famau a'i thŵr, am rai blynyddoedd ar ol hyn: clywais ambell hwyrnos sŵn dwfn mud o'r tu cefn iddo, y dywedid mai atsain ydoedd o ddrycin pell ar y Werydd.

Ewch yn iach, Sieffre o Fynwy, clywsom atsain olaf eich Brut.

Un gred gyffredin yw fod gosod penglogau o dan loriau eglwysi yn fodd i atal atsain, ond y mae'n bur debyg mai ymgais crefyddwyr yw'r gred hon i geisio cyfiawnhau hen arfer gyn-Gristnogol.

Mae'r addasiad Cymraeg gan Dylan Williams, gyda Pat Griffiths (o gwmni Atsain) yn gyfrifol am y trosleisio.