Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atyniad

atyniad

Wedi'r cwbl yr oedd ef yn enw a dweud y gwir, ei weld ef fyddai'r prif atyniad i laweroedd.

Mae yna filiwn o bobol wedi archebu tocynnau o flaen llaw, meddai, ac mae yna fwy o bobol yn fodlon ar beth sydd i'w weld yn y Dôm nac yn unrhyw atyniad arall ym Mhrydain.

Troais i edrych ar yr olygfa o'm blaen ac yno yn y pellter yr oedd y prif atyniad twristaidd, sef Table Mountain.

Gellir gweld atyniad yr algorithm genetig - nid oes angen rhaglennu'r camau datrys yn uniongyrchol, sy'n broses faith a llafurus, dim ond diffinio 'DNA' yr 'unigolion' yn ôl y broblem, a chael rhyw ffordd o fesur pa mor dda yw cyfuniad arbennig o'r wybodaeth 'enetig' yn y 'DNA'.

Atyniad yr hanes yma, fodd bynnag, ydy gweld sut mae'n mynd ati i geisio egluro ymaith yr holl ffeithiau sy'n ei gondemnio ar ôl darganfod corff ei wraig â'i phen i lawr mewn casgen fawr o ddwr.

Ond arhosodd Parry-Williams yn ddyn cyfoes, ac yn wir, o holl feirdd ei gyfnod, ef yw'r un a deimlodd yr atyniad lleiaf tuag at y gorffennol, hyd y gellir gweld o'i waith llenyddol a barddonol.

Yn gynnil, gynnil yr awgrymir atyniad y ddau gariad at ei gilydd, fel pan ddywed Sarah Jones; 'Roedd eich aeliau chi fel taran ond ar unwaith dyma chi'n anwesu wyneb y gaseg.

Atyniad arall o fewn y Twr oedd y gwyliwr, Gethin Fychan o dylwyth Gwyn ab Ednywain o Eifionydd.

Teimlai y rhain heb unrhyw amheuaeth atyniad Eglwys Rufain.

Prif atyniad y castell oedd y Twr, twr sgwâr a godwyd gan eu hen daid, Iorwerth Drwyndwn.

Yn gymysg â'r parch tuag at yr awdur, mae ymwybyddiaeth fod ei gysylltiad â'r ynys yn atyniad i ymwelwyr.

Prif atyniad yr arddangosfa oedd detholiad o'r Rhuban Heddwch lliwgar a ddangoswyd y llynedd ar faes Eisteddfod Llanrwst.

Achosodd prinder cyfleoedd gwaith i frodorion Cymraeg eu hiaith symud i ffwrdd, a phrisiau tai cymharol isel ac atyniad y bywyd gwledig i fewnfudwyr di-Gymraeg symud i mewn.

Maen nhw wedi arwyddo cynnig yn y Tŷ Cyffredin i fynegi eu pryder sylweddol a'u dychryn" at benderfyniad Comisiwn y Mileniwm i roi £29m ychwanegol i'r atyniad.

'Roedd holl ddelwedd Kennedy'n seiliedig ar nerth ac atyniad ieuenctid ond y gwir yw ei fod yn dioddef o afiechyd gwirioneddol ddifrifol, sef clefyd Addison.

Prif atyniad Calan Mai, felly, oedd gosod pawl haf.

Roedd y mor yn atyniad mawr i mi.Cerddwn y traethau a dringwn y creigiau ar fy mhen fy hunan, ie, cyn belled a Llangrannog yn y de ac Aberaeron i'r gogledd ar brydiau.