[Cynhwysir enghraifft o holiadur ar gyfer llunio Audit Staffio yn Atodiad ] Cyrsiau - audit a fyddai'n cynnwys gwybodaeth am y posibiliadau o ddatblygu gwahanol agweddau ar addysg Gymraeg yn yr ysgolion a'r colegau; Er mwyn sicrhau addysgu effeithiol byddai angen ymchwil i feysydd hyfforddiant a thechnegau dysgu ar batrwm yr awgrymiadau canlynol: - llunio cynllun hyfforddiant i gymhwyso athrawon i ddysgu Cymraeg fel pwnc a thrwy gyfrwng y Gymraeg; - archwilio strategaethau dysgu er mwyn adnabod y rhai mwyaf effeithiol ar gyfer dysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg ar batrwm Ysgolion ar Waith a Primary schools: some aspects of good practice; - archwilio'r posibilrwydd o greu strategaethau dysgu gwahanol a newydd yn ôl y galw, ee grwpiau bychain, dysgu o bell.
Er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r adnoddau dynol prin, argymhellir llunio BASDATA, i'w gadw'n gyfredol, a fydd yn cynnwys manylion am: Staffio a) audit o athrawon sydd yn y gwasanaeth addysg Gymraeg ar hyn o bryd, gan nodi eu meysydd dysgu; b) audit o athrawon sydd y tu allan i'r gwasanaeth addysg Gymraeg, ond sydd â diddordeb a chymwysterau, a rhai â diddordeb ac a ddymunai gymwysterau i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.