Cychwyn o Villa Vasto am un o'r gloch yn y prynhawn, a chael fy nghludo gan Americanwr cymwynasgar bob cam i'r Autostrada;~ Yn ystod yr ymgom fer rhyngom, dywedodd ei bod yn gwbl ddealledig na châi neb o'r milwyr Americanaidd, oedd wedi bod yn ymladd yn Ewrop, ei yrru i faes y gad yn y Dwyrain Pell.~erdded am bedair milltir o Torre Annunzato hyd o fewn dwy filltir i'r mynydd.
Bu+m yn ffodus eto i gwrdd â cherbyd modur, dan ei faich o Eidalwyr y tro hwn, a theithiais yn gysurus yn ôl i'r autostrada.