Honnwyd eu bod yn sefyll ar ben tai a bryniau gyda'r nos, gan annog y Scuds ymlaen ar eu taith i Tel Aviv.
Roedd swyddfeydd dros dro wedi'u hagor yng ngwestai'r Hilton yn Jerwsalem a Tel Aviv, nid yn unig gan adran hysbysrwydd y Llywodraeth, ond hefyd gan y fyddin ei hun.
Roedd rhywfaint o drafferth yn y maes awyr yn Tel Aviv yn anochel, ond gwnaed y sefyllfa'n waeth gan fod un o'r ddau gar a'n cludodd yno yn gerbyd Palesteinaidd.