Mae llysiau'n awchus am borthiant, a chymerant lawer o'r maeth o'r pridd wrth iddynt dyfu.
Sefydlent eu golygon ar y cerfiwr, Huw Huws - llygaid awchus, a'r ddwy wraig hwythau - llygaid llym-feirniadol.
"Wn i ddim fasa chi'n licio peth," meddai, "fasa fo'n wahaniaeth yn y byd gen i ddwad â dau." "Ardderchog, Mrs Roberts," meddwn innau'n ddigon awchus.
Troais yn awchus at y cerddi - a chael siom.
Ymddiddorai yng ngeiriau olaf cleifion ar eu gwely angau a chofnodai feddargraffiadau yn awchus.
Caru'r nos yw'r 'porth lletaf i anniweirdeb'." Gellir meddwl bod llawer o ddarllenwyr Baner ac Amserau Cymru yn aros yn awchus am ddarllen hanes Wil Dafydd ar ôl blasu'r broliant hwn ac ni siomwyd hwy.
'Rydw i'n hannar llwgu ers wsnos yn y fan acw - gorfod byta fel bydawn i'n byta uwd hefo myniawyd." "Helpa dy hun." "Mae hi wedi suro'r 'Dolig i mi, was i," ebr efô, ar ôl bwyta'n awchus am ysbaid.
Ar y cyfan roedden nhw'n gyflymach, yn gryfach a mwy awchus na Chymru.
Gallai estyn y blodyn yn hawdd, a heb oedi rhagor, tynnodd Idris y petalau siocled a'u llarpio'n awchus.
Os oedd yna fymryn o awgrym o dywyllwch, gwreiddiai ef ynddo'n awchus o hyfryd.
Mae'n debyg mai amddiffynfa i'r larfa rhag rheibwyr ac i'w gadw'n llaith mewn math o fath swigod moethus tra bo'n gwledda'n awchus ar sydd y planhigyn.
Wedi ei chanmol i'r entrychion gan y beirniaid a'i gwelai yn dorriad gwawr newydd y nofel Gymraeg cafodd darllenwyr cyffredin a drodd mor awchus tuag ati eu hunain mewn cors o ddryswch.
Fo'n tynnu'r llenni a rhoi record i chwara, yn rhythu arna i'n awchus a 'nhynnu i ddawnsio, yn dynn at ein gilydd fel gelod.
Ymladdodd Vera am ei hanadl, ei dynnu mewn yn ddwfn a'i lyncu'n awchus er mwyn ei chadw'i hun rhag llewygu.